Honiadau am 'herio' carcharorion Cymraeg eu hiaith

  • Cyhoeddwyd
Carchar BerwynFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Carchar Berwyn yn Wrecsam ydy un o'r carchardai mwyaf yn y DU

Mae adroddiad yn honni fod carcharorion sydd yn siarad Cymraeg yng Ngharchar y Berwyn wedi lleisio pryderon nad ydy swyddogion y carchar yn eu deall.

Dywed adroddiad blynyddol y Bwrdd Monitro Annibynnol fod honiadau am rhai carcharorion yn cael eu "herio gydag adolygiad i'r hawliau a'r cymhelliannau yr oeddynt wedi eu sicrhau" os oeddynt yn siarad Cymraeg.

Ond fe ddywed y Gwasanaeth Carchar fod hyn yn "gwbl anwir".

Dywedodd adroddiad diweddaraf y Bwrdd Monitro Annibynnol ar Garchar y Berwyn - sydd y edrych ar y cyfnod rhwng Mawrth 2019 hyd at Chwefror 2020 - fod rhai o'r pryderon wedi eu lleisio mewn Dogfennau Adrodd Digwyddiad o Wahaniaethu.

Dywed yr adroddiad: " O ran yr iaith Gymraeg, fe nodwyd fod rhai Dogfennau Adrodd Digwyddiad o Wahaniaethu gafodd eu darparu yn ymwneud â charcharorion yn siarad Cymraeg...nad oedd modd i swyddogion eu deall.

"Fe honnwyd fod y carcharorion yn wedi cael eu herio gydag adolygiad i statws yr hawliau a'r cymhelliannau yr oeddynt wedi eu sicrhau.

"Fe danlinellodd carcharorion oedd yn siarad Cymraeg bryderon hefyd fod cyfieithydd Cymraeg wedi ei wrthod iddynt yn ystod eu dyfarniadau ac nid oeddynt yn teimlo fel eu bod yn gallu dibynnu ar staff iaith Gymraeg y carchar i fod y ddiduedd.

"Mae'r ymuned sefydlu carcharorion newydd wedi cydnabod y byddai'n fuddiol cael siaradwr Cymraeg sydd yn byw ar y safle."

Ychwanegodd yr adroddiad: "Mae'r mwyafrif o Ddogfennau Adrodd Digwyddiad o Wahaniaethu yn ymwneud â hil, sydd yn cynnwys yr iaith Gymraeg, a'r cymunedau Sipsi, Roma a'r Gymuned Deithiol.

Mewn ymateb, dywedodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder nad oedd unrhyw gwynion yn y carchar eleni.

Ychwanegodd llefarydd ar ran y Gwasanaeth Carchar fod hyn yn "gwbl anwir".

"Rydym yn darparu hyfforddiant ychwanegol i staff a mentoriaid i annog siarad Cymraeg yn y carchar."