Dim smocio wrth wylio gemau pêl-droed ieuenctid bellach

  • Cyhoeddwyd
plant yn chwarae pel-droedFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl ASH mae 66% o bobl ifanc yng Nghymru yn dechrau ysmygu cyn eu bod yn 18

Cymru fydd y cyntaf o wledydd Prydain i wahardd pobl sy'n gwylio plant yn chwarae pêl-droed rhag ysmygu wrth ochr y cae, wrth i reolau newydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru ac Ymddiriedolaeth CBDC ddod i rym.

Dywedodd y Gymdeithas mai dyma'r ymgyrch gyntaf o'r fath yn y DU, gan effeithio ar gemau a sesiynau hyfforddi 522 o glybiau ieuenctid - a 42,232 o chwaraewyr - ledled Cymru.

Bydd ysmygu'n cael ei wahardd ar gyfer gemau plant 5-11 oed yn gyntaf, ac yna yn cael ei ymestyn i blant 12 oed yn Medi 2021, a 13 oed erbyn Medi 2022.

Cafodd cynllun peilot ei gynnal yn y Rhondda ac hefyd ymhlith timau merched a merched iau Cynghrair De Cymru, cyn i'r Gymdeithas fabwysiadu'r polisi newydd ledled Cymru.

Daw'r penderfyniad cyn i reolau newydd ynglŷn â gwahardd ysmygu mewn llefydd chwarae ac ar dir yr ysgol ac ysbytai ddod i rym fel rhan o ddeddfwriaeth newydd ym mis Mawrth y flwyddyn nesaf.

Daw'r penderfyniad hefyd yn sgil ymgyrch gan ASH Cymru i ddad-normaleiddio ysmygu.

'Arwain y ffordd'

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething ei fod yn croesawu polisi Cymdeithas Bêl-droed Cymru.

"Mae gwaharddiadau gwirfoddol fel yr un yma yn helpu amddiffyn plant rhag gweld ysmygu fel rhywbeth derbyniol a normal, ac fe allai helpu eu rhwystro rhag dechrau ysmygu yn y lle cyntaf," meddai.

Ychwanegodd Dr David Adams, cyfarwyddwr gydag Ymddiriedolaeth CBC ei fod yn falch eu bod yn arwain y ffordd i helpu'r "genhedlaeth nesaf o blant i dyfu fyny gan wybod y risg i iechyd sy'n gysylltiedig gyda smocio".

"Mae hwn hefyd yn rhan o'n hagenda ehangach i sicrhau fod profiad cyntaf plant o'r gemau hyn yn rhai positif."

Yn ôl ASH Cymru roedd arolwg barn diweddar gan YouGov yn awgrymu fod 82% o oedolion yng Nghymru o blaid gwahardd ysmygu mewn mannau y tu allan lle mae plant yn cymryd rhan mewn chwaraeon.

Dywedodd Suzanne Cass, prif swyddog gweithredol ASH Cymru: "Ar hyn o bryd yng Nghymru mae yna angen brys i fynd i'r afael ag ysmygu ymhlith yr ifanc sydd yn parhau ar lefel annerbyniol o uchel.

"Pan mae plant yn gweld oedolion yn tanio sigarét mewn amgylchiadau bob dydd fel ar ochr cae pêl-droed, maen nhw'n gweld ysmygu fel rhywbeth normal o ran sut i fyw bywyd, yn hytrach na'r cyffur angheuol sy'n lladd."