Plaid Cymru eisiau cael gwared ar arholiadau TGAU
- Cyhoeddwyd
Byddai Plaid Cymru yn cael gwared ar arholiadau TGAU yn llwyr petai nhw'n dod i rym yng Nghymru wedi'r etholiad nesaf i'r Senedd.
Yn ôl llefarydd addysg Plaid Cymru, Sian Gwenllian, dylai'r cwricwlwm addysg i Gymru ddod law yn llaw â "system raddio sy'n rhoi mwy o bwyslais ar asesiadau athrawon".
Mae Cymwysterau Cymru wrthi'n adolygu'r system o wobrwyo graddau yng Nghymru ar hyn o bryd.
Ond o ran haf nesaf, mae Llywodraeth Cymru yn dweud y byddai "sefyll arholiadau o fudd i ddysgwyr".
Wrth amlinellu eu polisi addysg ar drothwy cynhadledd ddigidol Plaid Cymru yr wythnos hon, dywedodd Sian Gwenllian AS bod cyflwyno cwricwlwm newydd gyda phwyslais newydd ar ddysgu, tra'n cadw arholiadau TGAU, yn arwain at "brofiad dysgu chwithig" yng Nghymru.
"Wedi ei wreiddio'n gywir, mae gan y cwricwlwm newydd botensial aruthrol, ond mae'n rhaid iddo ddod law yn llaw â system cymwysterau addas," meddai.
"Mae'r pandemig wedi dangos i ni bod system raddio yn ddibynnol ar asesiad athrawon yn bosib.
"Gyda ffiasco arholiadau'r haf yn dal yn y cof, nawr yw'r amser i adolygu'r hyn sydd ar waith gan Gymwysterau Cymru a bod yn ddewrach o ran ble'r ydyn ni'n mynd nesaf - hyd yn oed os yw hynny yn golygu cael gwared ar system anhyblyg y TGAU.
"Yn y tymor hir, fydd pobl Cymru yn cael gwneud eu penderfyniad fis Mai, a byddai llywodraeth Plaid Cymru yn sicrhau profiad dysgu cynhwysol fydd yn dysgu ac asesu ar sail y sgiliau sy'n cael eu gwerthfawrogi gan gyflogwyr."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod "y gweinidog wedi bod yn glir, o ran haf nesaf, ei bod hi'n credu y byddai sefyll arholiad o fudd i ddysgwyr".
"Ond o ystyried y sefyllfa iechyd cyhoeddus presennol, fe fydd yn rhaid i ni weithredu yn gyfrifol ac ystyried trefniadau wrth gefn.
"Mae Cymwysterau Cymru a CBAC yn gweithio drwy'r materion hyn, ac mae'r adolygiad annibynnol i drefniadau arholiadau yn parhau wrth i ni ddisgwyl i'r canfyddiadau cychwynnol gael eu cyflwyno'r mis nesaf.
"Yn 2019, cafodd 'Cymwys ar gyfer y Dyfodol' ei lansio er mwyn ystyried cymwysterau'r dyfodol i gefnogi'r cwricwlwm newydd a sicrhau bod y cymwysterau yn cyfateb a'r hyn mae dysgwyr, colegau a chyflogwyr eu heisiau," meddai'r llefarydd.
"Mae Cymwysterau Cymru yn bwriadu cyhoeddi cam nesaf yr ymgynghoriad hwnnw yn 2021, er mwyn eu galluogi nhw i gyflawni'r system newydd law yn llaw â'r cwricwlwm newydd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd17 Awst 2020
- Cyhoeddwyd12 Tachwedd 2018
- Cyhoeddwyd20 Awst 2020
- Cyhoeddwyd20 Awst 2020