Ffarwelio â dau geffyl ffyddlon Heddlu De Cymru

  • Cyhoeddwyd
police horsesFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Rubin a Samson yw'r ddau geffyl sydd wedi rhoi'r gwasanaeth hwyaf i Heddlu De Cymru

Mae dau geffyl sydd wedi gwasanaethu Heddlu De Cymru am chwarter canrif rhyngddynt yn rhoi'r gorau i'w dyletswyddau.

Mae Rubin a Samson wedi cael nifer o brofiadau - maen nhw wedi diogelu arweinwyr byd, wedi hebrwng sêr yn y byd chwaraeon ac wedi bod mewn priodas frenhinol.

"Maen nhw wedi cyflawni eu dyletswyddau ac mae'n amser iddyn nhw bellach gael mynd i'r caeau a mwynhau bywyd ceffyl," medd Rick Lewis, cwnstabl o Heddlu'r De.

Roedd y ddau geffyl ar ddyletswydd yn ystod cynhadledd NATO yng Nghasnewydd yn 2014, fe fuon nhw hefyd ar ddyletswydd yn ystod ffeinal Cynghrair y Pencampwyr yn 2017 ac maen nhw wedi'u gweld ar strydoedd y brifddinas droeon yn ystod gemau rygbi'r Chwe Gwlad.

Pan ddaeth y canwr Ed Sheran i ganu i Stadiwm y Principality fe wnaeth e ddiolch yn bersonol iddyn nhw am blismona'r nosweithiau y bu'n perfformio.

Maen nhw hefyd wedi gweithio y tu allan i Gaerdydd - y llynedd pan ddaeth yr Arlywydd Trump i Rydychen roedden nhw y tu allan i Balas Blenheim yn plismona'r protestiadau tra bod yr Arlywydd yn gwledda tu mewn.

Yn ystod priodas Dug a Duges Sussex fe gawson nhw drip i Gastell Windsor.

Ffynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dim ond Heddlu'r De sydd â cheffylau tebyg i'r rhain o blith lluoedd Cymru

Mae Rubin yn gymysgedd o frîd Irish Draught a Clydesdale ac ef yw ceffyl mwyaf profiadol Heddlu'r De gyda 14 mlynedd o brofiad. Roedd e'n cael ei gadw mewn ystabl ym Mhen-y-bont.

Ychwanegodd y Cwnstabl Lewis y bydd yn cael ei golli'n fawr ond mae "wedi gwneud diwrnod da o waith i'n cymunedau".

Ffynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ddau geffyl wedi gwasanaethu am chwarter canrif rhyngddynt

Samson yw'r ceffyl hynaf ar yr iard ac mae wedi gweithio am 10 mlynedd.

Ymhlith ei uchafbwyntiau e mae "hebrwng tîm rygbi Cymru i Stadiwm y Principality ar ddiwrnod gêm y Chwe Gwlad", medd y Cwnstabl Sadie James.

"Mae hynny wedi bod yn brofiad arbennig ac mae'r ceffylau yn credu bod y dorf yn dod i'w gweld nhw," ychwanegodd.

Heddlu'r De yw'r unig lu yng Nghymru sy'n defnyddio ceffylau i blismona fel hyn. Fe gafodd Heddlu'r Gogledd wared ar eu ceffylau yn 2010.

Fe gafodd Rubin a Samson eu gwobrwyo ddydd Gwener a'r wythnos hon byddan nhw yn cael eu trosglwyddo i warchodfeydd arbennig ar gyfer ceffylau sy'n ymddeol.