Covid-19: 298 disgybl ysgol wedi profi'n bositif
- Cyhoeddwyd
Daeth cadarnhad fod 298 o ddisgyblion ysgol ar draws Cymru wedi profi'n bositif am haint Covid-19 ers dechrau mis Medi.
Mae 279 o aelodau staff hefyd wedi cael canlyniad positif mewn ysgolion ledled Cymru, meddai Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Dydd Llun fe gadarnhaodd Ysgol Gyfun Plasmawr yng Nghaerdydd eu bod nhw wedi anfon pob un disgybl ym mlwyddyn 8 adref, a bod 35 o athrawon yn hunan-ynysu ar ôl i wyth o ddisgyblion y flwyddyn honno, dau athro ac un cynorthwyydd brofi'n bositif.
Mewn ymgais i geisio rhwystro'r haint rhag lledu ymhellach fe fydd pob un disgybl ym mlynyddoedd 7, 9, 12 ac 13 yn cael eu dysgu o adref am bythefnos hefyd.
Fe gadarnhaodd Cyngor Gwynedd bod angen i holl ddisgyblion a staff Ysgol Abererch ym Mhwllheli hunan-ynysu am bythefnos hefyd, wedi i aelod o staff brofi'n bositif am yr haint.
Atal trosglwyddo'r feirws
Ers i ysgolion ddychwelyd ym mis Medi mae cadarnhad o achos positif disgybl neu athro wedi arwain at ddosbarthiadau cyfan, a weithiau blynyddoedd cyfan, yn cael eu cynghori i aros adref ac i hunan-ynysu.
Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru eu bod yn gweithio gydag ysgolion ar y camau cywir i'w cymryd yn dilyn cadarnhad o achos pendant drwy'r system Profi, Olrhain a Diogelu.
"Mae ysgolion yn cymryd rhan weithredol yn y rhaglen Profi, Olrhain a Diogelu ac maen nhw'n hysbysu partneriaethau lleol pan fydd achosion yn cynnwys staff neu ddysgwyr yn y lleoliadau hyn."
Ddydd Mawrth fe gadarnhaodd Cyngor Caerdydd bod 10 achos o Covid-19 yn Ysgol Gyfun Plasmawr, a bod 283 o ddisgyblion a 35 aelod o staff yn hunan-ynysu am 14 diwrnod.
Mewn llythyr at rieni'r ysgol dywedodd y pennaeth, John Hayes, yn dweud y byddan nhw nawr yn symud llawer o'r dysgu arlein.
"Cyrhaeddais yr ysgol y bore yma i'r newyddion bod dau ddisgybl arall wedi profi'n bositif am Covid yng Nghyfnod Allweddol 3 dros y penwythnos," meddai.
"Mae gwaith tracio ac olrhain brys y bore yma i nodi'r cyfnod y bu'r rhain yn heintus yr wythnos ddiwethaf wedi golygu y bu rhaid i mi ofyn i 5 athro arall hunan-ynysu am 14 diwrnod.
Dywedodd bod y "sefyllfa hon yn anghynaliadwy", ac y byddai'n rhaid i nifer fawr o ddisgyblion gael eu gwersi arlein.
"Rwy'n ymwybodol iawn y bydd y penderfyniad hwn yn creu anawsterau i rieni, ond iechyd a lles cymuned yr ysgol yw fy mhrif mlaenoriaeth ac mae angen i mi deimlo'n hyderus y gall staff a disgyblion ddychwelyd i safle'r ysgol ddydd Llun, Hydref 19 gyda'r gobaith ein bod wedi dileu'r feirws Covid-19 o'r ysgol."
Brynhawn ddydd Llun fe gadarnhaodd Cyngor Gwynedd bod disgwyl i blant a staff Ysgol Abererch ym Mhwllheli hunan-ynysu am 14 diwrnod ar ôl i aelod o staff brofi'n bositif am coronafeirws.
"Mae'r ysgol wedi ymateb mor gyflym â phosib a byddant yn gweithio yn agos gyda'r gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu i ddarparu gwybodaeth i deuluoedd", meddai'r datganiad.
"Rydym yn anfon ein dymuniadau gorau i'r aelod o staff ac yn annog unrhyw un fydd yn derbyn galwad gan y gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu i ddilyn y cyngor fydd yn cael ei ddarparu iddynt er diogelwch eich teulu a'ch cymuned leol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Medi 2020
- Cyhoeddwyd19 Medi 2020
- Cyhoeddwyd18 Medi 2020