Llyfr newydd sy'n cysylltu Harry Potter a Chaergybi

  • Cyhoeddwyd
logo

Ydach chi'n gwybod beth ydy'r cysylltiad rhwng tre' Caergybi a Harry Potter?

Os ydach chi'n gyfarwydd â'r llyfrau a'r ffilmiau, mi fyddwch chi'n gwybod am y gêm Quidditch - ac mae un o'r timau sy'n chwarae'r gamp honno yn dod o Gaergybi.

Quidditch ydy'r gêm goes ysgub mae Harry Potter a'i gyd-ddisgyblion yn Hogwarts yn ei chwarae ac mae'r Harpies yn rhan o'r gynghrair ffantasi.

Mae'r Holyhead Harpies yn cael sylw yn y ffilm 'Harry Potter and the Half-Blood Prince' a rŵan, wrth i fersiwn newydd o lyfr JK Rowling 'Quidditch Through the Ages' gael ei gyhoeddi, mae'r dre' ar Ynys Môn wedi cael ei hanrhydeddu am ei rhan yn y llyfr.

Mae seremonïau wedi eu cynnal mewn 11 o lefydd sy'n rhan o'r gynghrair, gan gynnwys Caergybi.

Ffynhonnell y llun, Ysgol Cybi
Disgrifiad o’r llun,

Joe gyda Maer Caergybi yn y seremoni ar Ynys Lawd

Fel rhan o'r dathliad ym Môn, cafodd disgyblion Ysgol Cybi wahoddiad i fynd i Ynys Lawd i weld baner arbennig sydd wedi'i rhoi i'r dre.

Un o athrawon yr ysgol, Holly Edwards, sy'n esbonio sut cafodd y disgyblion gyfle i fod yn rhan o'r dathliadau:

"Mi ddechreuodd efo e-bost gan Bloomsbury, y cwmni sy'n cyhoeddi'r llyfr newydd gan JK Rowling, yn gofyn am ddau o blant i fod yn rhan o'r digwyddiad ar Ynys Lawd. Felly mi drefnodd yr ysgol gystadleuaeth i weld pwy oedd ffan mwya' Harry Potter Ysgol Cybi.

"Gawson ni fideo efo hogyn yn gwneud potions, spells, ac yn troi ei frawd bach i mewn i tedi. O'dd 'na un arall wedi creu ysgub Quidditch a golden snitch, dyddiadur o gêm Quidditch, stori Harry Potter wedi'i 'sgwennu o safbwynt Draco Malfoy - llwyth o bethau gwahanol.

"Mae wedi bod yn beth cyffrous iawn yn yr ysgol. Hyd yn oed y plant oedd ddim wedi cymryd rhan ac sydd ddim yn hoff iawn o Harry Potter, maen nhw'n falch bod ein tre' ni'n cael ei enwi yn y llyfr.

"Mae 'na fwrlwm o gwmpas y dre' ac mae'r fflag crand sydd wedi cael ei roi i'r dre yn mynd rownd yr ysgolion ac mi fydd o ar gael i bawb ei weld o yn y llyfrgell.

"Mae'r plant methu disgwyl i weld y faner efo hoop Quidditch ac wedyn logo Holyhead Harpies ar y faner yn Gymraeg ac yn Saesneg.

"Mae o wedi rhoi Caergybi ar y map a dangos bod 'na dre' bwysig yma."

Disgrifiad o’r llun,

Joe a Riley

Joe a Riley oedd y disgyblion ddaeth i'r brig yn y gystadleuaeth Harry Potter yn yr ysgol, ac meddai Riley:

"Dwi'n gw'bod bob dim am Harry Potter a dwi'n gwylio'r ffilmiau drwy'r amser. Yr un cynta', The Philosopher's Stone, ydy fy un gorau i.

Ychwanegodd Riley: "Yr un cynta' ydy'n hoff ffilm i hefyd oherwydd dwi'n hoffi gwylio'r gemau Quidditch. Os ti'n cael y golden snitch, ti'n cael 150 o bwyntiau. Mi f'aswn i'n hoffi chwarae'r gêm rhywbryd oherwydd mae'n edrych yn gyffrous."

Mae un arall o ddilynwyr Harry Potter yr ysgol, Millie, yn credu bod y sylw yn beth da i'r dre'.

Disgrifiad o’r llun,

Millie ac Isla

"Dwi'n meddwl bod o'n cŵl," meddai. "Mi fydd pobl yn dod i Gaergybi i weld y faner Quidditch newydd."

Yn ôl Isla un arall o'r disgyblion: "Dwi am ddarllen y llyfr rŵan i ddysgu mwy am yr Holyhead Harpies."

Mae'n siŵr y bydd sawl un eisiau dysgu mwy am y tîm rŵan - a dyma ambell ffaith i gychwyn, dim ond merched sy'n cael ymuno a'r Holyhead Harpies, ac ymhlith eu chwaraewyr mae Ginny Weasley, cariad Harry Potter.

Tybed welwn ni'r dewin ei hun yn ymweld â Chaergybi rhyw ddydd?