Adroddiad mewnol yn datgelu pryderon o fewn ysgol
- Cyhoeddwyd
Mae penaethiaid addysg yn dweud bod cynllun ar waith i fynd i'r afael â sawl pryder o fewn un o ysgolion uwchradd Gwynedd a gafodd eu nodi mewn adroddiad mewnol ddechrau'r flwyddyn.
Dywed yr adroddiad fod morâl staff Ysgol Dyffryn Nantlle, ym Mhenygroes yn "eithriadol o isel" a bod yna ddiffyg hyder yn arweinwyr yr ysgol.
Cafodd yr adroddiad ei gomisiynu gan Gyngor Gwynedd wedi pryderon fod "rhwystrau gweithredol a strategol" yn amharu ar welliannau o fewn yr ysgol.
Mewn datganiad ar y cyd, dywed yr ysgol ac Awdurdod Addysg Gwynedd fod gwaith wedi dechrau ar weithredu cynllun gwella yn yr wyth mis ers i'r adroddiad gael ei ysgrifennu ym mis Chwefror.
Yn 2018 fe gododd undebau athrawon bryderon ynghylch disgyblaeth a lles staff, gan ddweud bod yna awyrgylch "anghysurus" yn yr ysgol.
'Ofni rhai disgyblion'
Dywed yr adroddiad fod ymddygiad disgyblion wedi gwella yn gyffredinol, ond bod nifer fach ohonyn nhw'n dal i achosi pryder.
Cyfaddefodd rhai aelodau staff eu bod "yn ofni rhai disgyblion", a bod yna deimlad fod yr ysgol yn "cael ei defnyddio fel man i gael gwared ar ddisgyblion trafferthus o ysgolion eraill".
Daeth yr adroddiad i'r casgliad fod llywodraethwyr ddim yn llwyr reoli sut roedd yr ysgol yn cael ei rhedeg, a bod yna berygl o hollt rhwng aelodau oedd yn cefnogi'r pennaeth ac eraill oedd ddim.
Roedden nhw hefyd yn "araf i weithredu" i wella perfformiad yr ysgol, gafodd ei rhoi dan fesurau arbennig am flwyddyn yn 2015, ac sydd bellach yng nghategori coch system raddio Llywodraeth Cymru.
Dywedodd hefyd fod staff ddim yn deall gweledigaeth y pennaeth a'r blaenoriaethau i sicrhau gwelliannau, a bod angen "adfer hyder" yn yr arweinyddiaeth.
Roedd sawl ffactor, meddai, wedi lleihau morâl staff gan gynnwys yr ymateb i gwynion, lefelau absenoldeb uchel a thrafferthion penodi a rheoli staff llanw.
'Cyfaill beirniadol'
Mae'r adroddiad yn awgrymu bod ansicrwydd a phryder cyffredinol ynghylch dyfodol yr ysgol, gan danseilio balchder y gymuned ynddi.
Mae'n argymell i'r cyngor roi mwy o arian i'r ysgol ac i lywodraethwyr weithredu fel "cyfaill beirniadol" i sicrhau bod y tîm rheoli'n atebol.
Mae hefyd yn dweud bod angen mynd i'r afael "yn gadarn" ag ymddygiad nifer fach o ddisgyblion sy'n cael "effaith negyddol anghymesur", a phenodi grŵp o athrawon ar gytundeb i leihau'n ddibyniaeth ar athrawon llanw.
Dywed yr ysgol a'r awdurdod addysg eu bod wedi "datblygu a chytuno ar gynllun gweithredu manwl mewn ymateb i gasgliadau'r adroddiad" yn y misoedd ers ei dderbyn.
Ychwanegodd eu datganiad bod y gwaith "eisoes wedi dechrau ac mae'r ysgol yn canolbwyntio ar sicrhau gwelliannau ac ymateb i gasgliadau'r adroddiad fel rhan o Gynllun Datblygu'r Ysgol eleni".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd11 Ionawr 2018
- Cyhoeddwyd8 Ionawr 2020