Agor mwy o safleoedd profi mewn ardaloedd prifysgol

  • Cyhoeddwyd
profiFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru

Bydd modd i'r rhan helaeth o fyfyrwyr prifysgolion Cymru ddefnyddio safleoedd profi galw i mewn yn lleol wrth i Lywodraeth Cymru ehangu'r cynllun.

Agorodd y safle profi lleol cyntaf ym Mhontypridd ger Prifysgol De Cymru ym mis Medi.

Daeth cadarnhad ddydd Iau y bydd rhagor o safleoedd yn agor mis yma yn Abertawe, Caerdydd, Bangor ac Aberystwyth.

Bydd modd i fyfyrwyr a phobl leol yr ardaloedd wneud defnydd o'r safleoedd newydd.

638 achos newydd

Yn y cyfamser mae 638 achos newydd o'r coronafeirws wedi eu cadarnhau yng Nghymru meddai Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Bellach mae nifer yr achosion positif yn 28,262.

Cafodd un farwolaeth newydd ei chofnodi hefyd, gyda chyfanswm y marwolaethau yn 1,644. Roedd 88 achos newydd yng Nghaerdydd, 62 yn Rhondda Cynon Taf a 48 yn Abertawe.

Roedd nifer uchaf yr achosion yn ôl maint poblogaeth ym Merthyr Tudful - gyda 61.3 achos newydd ymhob 100,000 o'r boblogaeth.

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood

Dim ond i'r rhai â symptomau'r coronafeirws y bydd profion ar gael yn y canolfannau profi newydd - sef tymheredd uchel, peswch cyson newydd, neu golled neu newid i'r synnwyr arogli neu flasu.

Dywedodd Kirsty Williams, y gweinidog addysg: "Wrth i fyfyrwyr prifysgol ddychwelyd i ddinasoedd a threfi ledled Cymru rydym am sicrhau bod profion cadarn ar waith ar gyfer myfyrwyr a thrigolion lleol.

"Rwy'n falch y bydd y Safleoedd Profi Lleol yn rhoi sicrwydd ychwanegol i'r rhai sy'n dychwelyd neu'n dechrau yn y brifysgol."

Ychwanegodd y gweinidog iechyd, Vaughan Gething fod y safleoedd profi lleol newydd yn "rhan allweddol o raglen Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru".

Daw'r cyhoeddiad yn dilyn y newydd bod aelod o staff mewn canolfan brofi gyrru i mewn wedi profi'n bositif am Covid-19.

Dywedwyd wrth staff canolfan Builder Street yn Llandudno, Sir Conwy, i hunan-ynysu a chaewyd y safle ar gyfer "glanhau dwfn" ddydd Mawrth.

Agor labordy arbenigol

Yn y cyfamser, mae labordy arbenigol ar gyfer prosesu profion coronafeirws wedi agor yng Nghasnewydd.

Fe ddechreuodd y gwaith profi yn y Labordy Goleudy yn Imperial Park ddydd Llun ac mae disgwyl i'r safle weithio trwy 20,000 o samplau erbyn diwedd y mis.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y labordy'n gallu cynnal cannoedd o brofion bob diwrnod

Llywodraeth y DU sy'n rheoli'r Labordai Goleudy ac maen nhw'n cael eu rhedeg gan gwmnïau preifat.

Y cwmni diagnosteg Americanaidd, Perkin Elmer sy'n rhedeg y labordy yng Nghasnewydd ac mae'n penodi 200 o staff.

Roedd y labordy i fod i agor ym mis Awst, gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru'n dweud mai prosesau penodi a "dilysu'r" labordy oedd wrth wraidd yr oedi.