Cynllun i ddiogelu tir a threftadaeth y Carneddau
- Cyhoeddwyd
Amddiffyn cynefinoedd, diogelu olion archeolegol prin a chofnodi enwau lleoedd y Carneddau ydy uchelgais cynllun newydd gan barc cenedlaethol.
Bwriad Partneriaeth Tirwedd y Carneddau ydy annog defnydd cynaliadwy o'r ardal - sy'n gartref i rywogaethau prin o anifeiliaid a phlanhigion, a thystiolaeth o fywyd dynol hynafol.
Yn ôl y grŵp, mae'r ardal dan bwysau cynyddol o ganlyniad i newid hinsawdd, newidiadau i ddefnydd y tir a phwysau pobl.
Yn ogystal â diogelu'r tir, mae'r cynllun £4m yn anelu at amddiffyn "gwybodaeth draddodiadol, enwau lleoedd a straeon sy'n cysylltu pobl â'r dirwedd".
Y Carneddau
Mae'r Carneddau, dolen allanol'n ardal o ucheldir ynysig, 220 cilomedr sgwâr, yng ngogledd Parc Cenedlaethol Eryri.
Daw'r enw'n dod o'r pentyrrau o greigiau sydd i'w gweld ar lawer o'r copaon, oedd yn symbolau pwysig i'r bobl hynafol fuodd yn byw ar y mynyddoedd.
Yn ogystal â'r rhywogaethau prin - merlod y Carneddau a'r frân goesgoch - mae un o'r cynefinoedd mwyaf prin yng Nghymru yn yr ardal - rhostir mynydd.
Dan arweiniad Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, bydd grŵp o sefydliadau yn ceisio hyrwyddo defnydd cadarnhaol o'r ardal, gyda "gweledigaeth i helpu cynulleidfa mor eang â phosibl i ddarganfod, gwarchod a dathlu'r Carneddau".
Dywedodd rheolwr y bartneriaeth, Dr Marian Pye, bod y cyfnod clo wedi "amlygu pwysigrwydd y dirwedd sydd ar ein stepen drws".
"Fel partneriaeth byddwn yn edrych ar ffyrdd newydd o weithio i sicrhau y gallwn i gyd mwynhau rhinweddau arbennig y Carneddau."
Mae teulu'r ffermwr Gareth Wyn Jones wedi gweithio ar y Carneddau ers 370 o flynyddoedd.
Ei gartref ydy fferm Ty'n Llwyfan ger Llanfairfechan, ac mae o'n rhan o'r bartneriaeth newydd.
Dywedodd bod "pob dim ddim yn fêl i gyd" a'r hyn sy'n bwysig fydd "trio gweithio nhw allan… trio defnyddio'r pres mewn ffordd bositif".
"Mae'r merlod yma ers amser y Celtiaid a ma' nhw wedi bod yn agos iawn i golli nhw o 'ma… Felly mae'n bwysig i ni chwilio am ffyrdd fedran ni wneud yn siŵr bod y merlod yma, a'r ffarmwrs yma, a'r defaid yma yn y dyfodol."
Mae hi'n "amser tyngedfennol i gymunedau gwledig yr ardal" yn ôl cadeirydd y bartneriaeth, Dr Prysor Williams o Brifysgol Bangor.
Yn ogystal â rheoli'r tir yn gynaliadwy a "dathlu arferion traddodiadol", dywedodd Dr Williams y byddai'r cynllun yn "sicrhau bod diwylliant, straeon ac enwau lleoedd y Carneddau yn cael eu trosglwyddo i'r genhedlaeth nesaf".
Mae'r cynllun pum mlynedd wedi derbyn £1.7m gan Gronfa Treftadaeth y Loteri.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd24 Medi 2020
- Cyhoeddwyd17 Medi 2020