Cymorth ariannol yn allweddol i barhad Theatr Mwldan
- Cyhoeddwyd
Mae Theatr Mwldan yn disgwyl clywed a yw cais am gymorth ariannol gan Gyngor Celfyddydau Cymru wedi bod yn llwyddiannus ai peidio.
Yn ôl prif weithredwr y ganolfan gelfyddydau aml-bwrpas yn Aberteifi, mae'r cais yn "gwbl allweddol" i'w pharhad.
Agorwyd Theatr Mwldan ym 1987, ac yn ogystal â pherfformiadau byw, mae'r ganolfan hefyd yn cynnal darllediadau, sinema, label recordiau ynghyd â busnes rheoli a threfnu teithiau rhyngwladol i artistiaid, gyda'r delynores Catrin Finch yn un o'r cleientiaid.
Mae drysau'r theatr wedi bod ar gau ers 17 Mawrth oherwydd y pandemig, ac mae hi'n annhebygol iawn y bydd yn agor eto yn ystod 2020.
Fe fydd 11 o'r 26 aelod o staff yn colli eu gwaith ar ddiwedd mis Hydref wrth i'r cynllun ffyrlo ddod i ben.
O'r 15 sydd yn weddill, mae 14 wedi cytuno i gael eu cyflogi ar gytundeb dim oriau am eu bod nhw wedi "ymrwymo i gefnogi'r cwmni i oroesi" yn ôl y prif weithredwr, Dilwyn Davies.
Mae Theatr Mwldan wedi gwneud cais i Gyngor Celfyddydau Cymru am swm chwe ffigwr er mwyn medru goroesi.
Maen nhw'n disgwyl clywed erbyn diwedd yr wythnos nesaf os yw'r cais wedi bod yn llwyddiannus.
Dywedodd David Grace, cadeirydd y bwrdd rheoli "nad oedd eisiau meddwl" am y syniad o weld Theatr Mwldan yn cau yn barhaol.
"Os ni'n lwcus a chael yr arian o'r swm sydd yn dod o'r llywodraeth erbyn diwedd y mis, bydd hyn yn para tan mis Mawrth nesaf, ond beth sydd yn digwydd ar ôl hynny, pwy sydd yn gwybod?" meddai.
Mae Theatr Mwldan yn denu dros 100,000 o ymwelwyr bob blwyddyn ac yn cynhyrchu 80% o'i hincwm - £1.3m - yn flynyddol.
Mae'n denu cynulleidfaoedd o dde Ceredigion, gogledd Penfro a gogledd-orllewin Sir Gaerfyrddin.
'Calon y celfyddydau'
Yn ôl Elin Jones, yr Aelod o'r Senedd dros Geredigion, mae hi'n hollol hanfodol bod Theatr Mwldan yn goroesi.
"Bydde colli'r Mwldan, fel calon i'r celfyddydau yr ardal yna o Ddyffryn Teifi, yn ergyd rhy fawr i'r celfyddydau fedru goroesi, felly mae'n gyfuniad o gynnal y bobl sydd yn creu y celfyddyd, a chynnal y sefydliadau sydd yn rhoi cartref iddyn nhw," meddai.
"Mae'r cais i Gyngor y Celfyddydau yn hollbwysig i roi llygedyn o obaith tan y flwyddyn nesaf a'r hyn sydd angen yw bod Cyngor y Celfyddydau yn mynd ati i roi gwybodaeth i'r sefydliadau yma cyn gynted ag sydd yn bosib fod yna gynhaliaeth ariannol ar y gweill iddyn nhw ac eu bod nhw'n medru goroesi, a fod dosbarthiad yr arian yn gyfartal ar draws Cymru gyfan."
Mae disgwyl i Gyngor Celfyddydau Cymru gyhoeddi erbyn diwedd yr wythnos nesaf pa geisiadau sydd wedi bod yn llwyddiannus.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd12 Hydref 2020