'Anobaith' ar ôl i gronfa llawrydd gau o fewn awr
- Cyhoeddwyd
Roedd cronfa i gefnogi gweithwyr llawrydd mor brysur ei fod wedi cau i rai ymgeiswyr o fewn awr o agor.
Roedd modd gwneud cais am arian o'r gronfa £7m o 10:00 fore Llun.
Mae'r arian yn cael ei ddosrannu gan awdurdodau lleol, ac oherwydd y galw roedd rhaid i Gaerdydd atal ceisiadau wedi 50 munud.
Dywedodd un perfformiwr bod y broses yn gwneud iddo ystyried "gadael yr holl beth a ffeindio rhywbeth arall".
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod "llawer o alw", ond y byddai ail gyfnod y cynllun yn dechrau "cyn gynted â phosib".
Mae'r gronfa yn cynnig grant o £2,500 i ymgeiswyr o fewn sector y celfyddydau sydd wedi eu heffeithio gan y pandemig.
Mae gweithwyr llawrydd yn gorfod gwneud cais drwy eu cynghorau sir lleol.
Mae Alun Saunders o Gaerdydd yn actor, dramodwr a pherfformiwr drag o dan yr enw Connie Orff.
Roedd rhaid iddo stopio taith Connie Orff o amgylch theatrau Cymru oherwydd y cyfnod clo ym mis Mawrth.
Dydy hi ddim yn glir os ydy'r daith wedi ei gohirio neu ei chanslo oherwydd does dim arian, a dydy'r theatrau ddim wedi comisiynu gwaith newydd chwaith.
Dywedodd bod yr "anobaith yn ormod".
"I fi, sydd wedi gweithio ers 20 mlynedd fel actor, dwi 'di gweithio fel sgwennwr ers tua 15 mlynedd, o'n i jyst yn cyrraedd pwynt lle o'n i'n cyrraedd rhywle, ac mae'r rhwystredigaeth i fi'n teimlo o fwrw'r wal yma heb gefnogaeth gadarn, go iawn gan y llywodraeth, mae'n fwy na frustrating, heddi i fi wir yn edrych ar jyst gadael yr holl beth a ffeindio rhywbeth arall."
'Nath hynna dorri fi heddi'
Yn ystod y pandemig mae wedi bod yn addysgu ei blant a gweithio yn danfon bwyd.
Dywedodd ei fod wedi gorfod gadael y tŷ ar ôl dechrau llenwi'r ffurflen gais, ond erbyn dod yn ôl roedd y wefan wedi cau.
"I unrhyw un fel fi oedd yn gweithio neu'n brysur gyda'r plant yn gwneud unrhyw beth heddi heblaw am eistedd lawr gyda chyfrifiadur a'r holl ddeunydd yn barod i fynd, mae'r cyfle yna wedi mynd.
"Dyw hyn ddim yn ffordd i'n llywodraeth ni trin ni. Ni'n cael ein trin fel pobl sy' jyst yn gystadleuol, yn gwthio'n gilydd allan o'r ffordd er mwyn brwydro am swm pitw o arian.
"Mae'n pathetig ac nid sut dyma ddylen ni bod yn cael ein trin."
Ychwanegodd: "Nath hynna dorri fi heddi."
Dywedodd Cyngor Caerdydd bod y nifer uchaf o geisiadau wedi eu derbyn erbyn tua 11:00, ac y byddai'r ail gyfnod o'r cynllun yn agor yn fuan.
Ni wnaeth Cyngor Blaenau Gwent agor y ffurflen gais tan brynhawn Llun, tra bod rhaid aros tan ddydd Mercher i wneud cais yng Nghonwy.
Roedd disgwyl i'r cynllun fod mewn dwy ran ers y cychwyn cyntaf, yn ôl llefarydd Llywodraeth Cymru.
"Roedd llawer o alw dros Gymru wrth agor y gronfa ac mae sawl awdurdod wedi, neu ar fin, cyrraedd yr uchafswm ar gyfer y cyfnod cyntaf", meddai.
Bydd yr ail gyfnod yn dechrau "cyn gynted â phosib".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd6 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd30 Mai 2020