Keir Starmer yn galw am gytundeb cyfyngiadau teithio

  • Cyhoeddwyd
Sir Keir Starmer
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Syr Keir Starmer nid yw cefnogaeth y llywodraeth tuag at y gwledydd datganoledig wedi bod yn ddigonol

Mae arweinydd Llafur Syr Keir Starmer wedi galw ar brif weinidogion Cymru a'r DU i ddod i gytundeb ar gyfyngiadau teithio.

Dywedodd fod Mark Drakeford AS, sydd wedi cyhoeddi gwaharddiad ar deithio o fannau sydd â chanran uchel o Covid-19 i Gymru, yn "ceisio cadw Cymru yn ddiogel".

Ar ôl cael ei holi sawl tro a fyddai'n cefnogi cyfyngiadau o'r fath dywedodd y byddai yn eu cefnogi pe bai'n rheoli coronafeirws.

Mae Mr Drakeford wedi ysgrifennu ddwywaith yn ystod yr wythnosau diwethaf at Brif Weinidog y DU Boris Johnson yn gofyn am gyfyngu ar deithio i mewn ac allan o ardaloedd sydd â lefelau uchel o drosglwyddo yn Lloegr.

Wedi i Mr Johnson wrthod hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd cyfyngiadau'n dod i rym dydd Gwener am 18:00.

"Yr hyn y mae Mark Drakeford yn ceisio ei wneud yw cadw pobl yng Nghymru yn ddiogel," meddai Syr Keir wrth BBC Cymru.

"Mae'n rhwystredig. Mae wedi bod yn gofyn i'r prif weinidog [Boris Johnson] weithio gydag ef ar hyn.

"Rwy'n credu mai cyfrifoldeb y prif weinidog yw hi nawr i wneud rhywbeth yn ei gylch."

Ychwanegodd Syr Keir: "Mae'n rhaid i'r prif weinidog fod yn glir na ddylai pobl deithio o ardaloedd cyfradd heintiau uchel i ardaloedd yng Nghymru lle nad yw'r cyfraddau heintiau cyn uched â hynny."