Covid-19: Pryder am 'fwlch' rhwng cynlluniau cyflogaeth

  • Cyhoeddwyd
Bar yng nghanol CaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd rhaid i nifer o fusnesau ar draws Cymru gau dros y cyfnod clo byr

Mae bwlch rhwng dechrau'r cyfnod clo byr yng Nghymru a dyddiad dechrau Cynllun Cymorth Swyddi newydd Llywodraeth y DU yn "rhwystr sylweddol" i gwmnïau sy'n ceisio goroesi, meddai grŵp busnes.

Mae disgwyl i'r cynllun, a fyddai'n gwarantu 67% o gyflog rhywun, ddod i rym ar 1 Tachwedd - ychydig dros wythnos ar ôl dechrau'r cyfnod clo byr.

Mae'r Ffederasiwn y Busnesau Bach yn annog llywodraethau'r DU a Chymru i gydweithio.

Dywedodd y Trysorlys y gall cyflogwyr ddefnyddio'r cynllun ffyrlo hyd ddiwedd mis Hydref.

"Nid oes unrhyw fwlch mewn cyllid rhwng ein cynlluniau," meddai llefarydd

'Disgyn rhwng dwy stôl'

Bydd y cyfnod clo byr yn dechrau dydd Gwener yma, a bydd yn rhaid i dafarndai, bwytai, caffis a siopau sydd ddim yn hanfodol gau.

Rhybuddiodd cyfarwyddwr CBI Cymru, Ian Price, y gallai rhai pobl ddisgyn rhwng dwy stôl ac na fyddan nhw'n medru cael cymorth drwy'r cynllun ffyrlo na'r Cynllun Cymorth Swyddi newydd.

Mae'r Canghellor Rishi Sunak wedi gwrthod symud y cynllun swyddi ymlaen, ond mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig talu'r gwahaniaeth mewn cyflogau o symud y cynllun ymlaen wythnos.

Roedd Llywodraeth Cymru wedi ysgrifennu at y Canghellor yn gofyn a fyddai cwmnïau yn gallu defnyddio'r cynllun wythnos ynghynt.

Mewn llythyr at Mr Drakeford, dywedodd Mr Sunak nad oedd yn "gallu dod â'r dyddiad hawlio ar gyfer yr ehangu i'r Cynllun Cymorth Swyddi ymlaen rhwng 1 Tachwedd a 23 Hydref oherwydd cyfyngiadau yn amseroedd dosbarthu Cyllid a Thollau EM".

Dywedodd y gall gweithwyr sydd wedi cael eu rhoi ar ffyrlo am o leiaf tair wythnos yn y gorffennol gael eu rhoi ar ffyrlo unwaith eto nes 31 Hydref.

Fodd bynnag, ni all bobl sydd erioed wedi cael eu rhoi ar ffyrlo gael eu cynnwys yn hynny.

Mae Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart AS, wedi cyhuddo'r Prif Weinidog Mark Drakeford o wneud penderfyniad fydd yn arwain at bobl yn colli eu swyddi.

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood

Beth ydy'r Cynllun Cymorth Swyddi?

Byddai'r cynllun yn talu 67% o gyflogau gweithwyr mewn busnesau sydd wedi cael eu gorfodi i gau.

Mae'n talu hyd at uchafswm o £2,100 y mis a rhaid i'r staff fod i ffwrdd o'u gwaith am saith diwrnod i fod yn gymwys. Mae disgwyl i'r taliadau ddechrau ym mis Rhagfyr.

Mae'r cynllun yma'n disodli'r cynllun ffyrlo, sy'n talu 80% o'r cyflog gyda'r llywodraeth yn talu 60% a chyflogwyr 20%. Bydd hwnnw'n dod i ben ar 31 Hydref.

Beth yw pryder cynrychiolwyr busnes?

Mae Ben Cottam o FSB Cymru yn annog Llywodraeth y DU i "ymateb ar frys" i gais Llywodraeth Cymru a dywedodd fod y cynnig i dalu cost yr estyniad yn "ymateb ymarferol".

"Mae'r bwlch wythnos a fydd busnesau'n eu hwynebu rhwng dechrau'r cyfnod clo newydd ar 23 Hydref a dechrau'r Cynllun Cymorth Swyddi ar 1 Tachwedd yn rhwystr sylweddol i fusnesau sy'n gweithio'n hynod o galed i gadw'r ddysgl yn wastad," meddai.

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood

"Er mwyn rhoi hyder i fusnesau ac i leihau ansicrwydd, rydym yn annog llywodraethau'r DU a Chymru i weithio gyda'i gilydd er mwyn sicrhau bod hyn yn digwydd."

Ychwanegodd Ian Price o CBI Cymru: "Mae'n ymddangos y gallai rhai pobl yn anffodus fod yn syrthio rhwng dwy stôl.

"Mae'n hanfodol i fusnes, y llywodraeth a gweithwyr ein bod yn gwneud i hyn weithio."

Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai ei chynnig i dalu i symud y cynllun ymlaen wythnos "wedi golygu y gallai busnesau a gweithwyr o Gymru gael gafael ar y cyllid hwn wythnos cyn i'r cynllun fod ar agor ar 1 Tachwedd".

Ar ôl i'r Trysorlys wrthod hynny, dywedodd Mr Drakeford fore Llun na fyddai busnesau Cymru ar eu colled, "ond bydd rhaid iddyn nhw ymgeisio dwy waith, yn hytrach na system symlach".

Beth yw ymateb y gwrthbleidiau?

Ddydd Llun, dywedodd Mr Hart fod Llywodraeth Cymru "yn gwybod yn iawn" nad oedd yn bosibl i'r Trysorlys ddod â'r cynllun swyddi ymlaen cyn cyhoeddi'r cyfnod clo newydd

Dywedodd fod y cyhoeddiad yn "annheg iawn, iawn" ar bobl "a gafodd eu dal gan y bwlch amser" cyn dechrau'r cynllun swyddi newydd.

Ffynhonnell y llun, Getty

Ond dywedodd Plaid Cymru ei fod yn "gwestiwn o degwch".

Dywedodd Liz Saville Roberts, AS Dwyfor Meirionnydd: "Mae cyfnod clo byr yma'n rhoi mwy o amser i ni adeiladu system prawf, olrhain ac ynysu gwydn.

"Ond er mwyn i hynny weithio, rhaid i Lywodraeth y DU hefyd wneud ei rhan trwy roi cefnogaeth ariannol briodol."

Beth yw ymateb Llywodraeth y DU?

Dywedodd llefarydd ar ran y Trysorlys: "Gall cyflogwyr yng Nghymru ddefnyddio'r cynllun ffyrlo tan 31 Hydref i'w helpu trwy'r cyfnod anodd hwn, ac yna fe fyddan nhw'n gallu cael cefnogaeth trwy ein Cynllun Cymorth Swyddi newydd o 1 Tachwedd."

Dywedodd ffynhonnell o Lywodraeth y DU fod y canghellor wedi cysylltu gyda phob gweinidog cyllid cyn y cyhoeddiad y byddai'r cynllun yn ehangu i egluro sut y byddai'n gweithio, pryd y byddai'n dod i rym ac y byddai'n berthnasol i holl wledydd y DU.

Gofynnodd i weinidogion cyllid gadw cyfyngiadau mor gyson â phosib ar draws y gwledydd datganoledig, meddai.