'Bydd gwaharddiad archfarchnadoedd yn aros'
- Cyhoeddwyd
Dywed y Prif Weinidog, Mark Drakeford na fydd y rheolau sy'n gwahardd siopau rhag gwerthu nwyddau dianghenraid yn newid.
Brynhawn dydd Sul dywedodd Mr Drakeford y bydd, o bosib, rywfaint o addasu ar y rheolau ond ei fod yn credu bod y "penderfyniad sylfaenol" wrth wraidd y gwaharddiad yn un cywir.
Mae pwysau wedi bod ar Lywodraeth Cymru i wyrdroi y penderfyniad sy'n atal archfarchnadoedd rhag gwerthu nwyddau fel dillad ac offer trydanol.
Bellach mae dros 58,000 o bobl wedi arwyddo deiseb i'r Senedd yn gwrthwynebu'r gwaharddiad - y nifer mwyaf erioed i lofnodi deiseb o'r fath.
Mae Ceidwadwyr Cymru wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o "fethu delio gyda'r mater ac o roi negeseuon cymysg".
Mewn cyfweliad â BBC Cymru ddydd Sul dywedodd Mr Drakeford fod y "sefyllfa y mae Cymru yn ei hwynebu yn gwbl ddifrifol ac am y pythefnos nesaf rydyn yn gofyn i bobl aros adref a pheidio â chymysgu ag eraill.
"Os nad yw'r rheolau yn rhesymol, mi wnawn ni newid hynny - ond dyw'r argyfwng iechyd cyhoeddus ddim wedi diflannu," meddai.
"Ein penderfyniad gwreiddiol yw'r un iawn. Os oes angen ailedrych ar sut mae'r rheolau yn cael eu gweithredu a'u dehongli - yna mi wnawn ni hynny.
"Does dim hawl gwerthu nwyddau dianghenraid yn ystod y pythefnos nesaf. Dyna pam mae cannoedd o siopau ar hyd ac ar draws Cymru ar gau. Nid siopa sydd wrth wraidd y penderfyniad ond achub bywydau," ychwanegodd Mr Drakeford.
Cadarnhaodd y Prif Weinidog y bydd adolygiad i sut y mae'r rheolau yn cael eu gweithredu yn digwydd ddydd Llun.
"Mewn rhai achosion eithriadol bydd modd gwyro oddi ar y rheolau a byddwn yn trafod y mân newidiadau.
"Clywais dros y penwythnos am blentyn yn cyrraedd ei deulu maeth heb ddim - y mae hynny yn fater eithriadol ac yn sefyllfa sydd angen delio â hi," ychwanegodd.
'Yn groes i'r polisi?'
Dywedodd Sara Jones ar ran Consortiwm Manwerthu Cymru ei bod yn croesawu'r penderfyniad a bod hi'n falch bod gweinidogion yn gwrando ond mae'n poeni y gallai cael caniatâd arbennig olygu y byddai cwsmer yn treulio mwy o amser yn y siop.
"Fe fyddai hynny yn cael effaith groes i'r hyn sy'n cael ei fwriadu gan y polisi sef sicrhau yr isafswm o bobl mewn siop am gyfnod byr," ychwanega Sara Jones.
Mae deisebau sy'n denu dros 5,000 o lofnodion yn cael eu trafod yn y Senedd.
Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Paul Davies, wedi galw ar Senedd Cymru i ailymgynnull i drafod y mater.
Dywed Llywodraeth Cymru mai bwriad y cyfnod clo byr yw cyfyngu ar y cysylltiad rhwng cartrefi.
Cyn y cyfnod clo byr cafodd archfarchnadoedd wybod eu bod ond yn cael gwerthu nwyddau sy'n "angenrheidiol" a bod rhaid cau y rhannau hynny o'r siop sy'n gwerthu nwyddau fel dillad, teganau a dillad gwely yn ystod y cyfnod o 17 diwrnod.
Ychydig o ddeisebau sy'n denu cymaint o lofnodion, a'r ddeiseb yma yw'r bedwaredd i ddenu mwy na 25,000.
'Mae popeth yn angenrheidiol pan ry'ch ei angen'
Dywed Jodi Merry o Rondda Cynon Taf bod y gwaharddiad wedi dod ar amser anghyfleus wrth iddi gynllunio i brynu dillad newydd i'w mab wyth mlwydd oed ar ôl iddi gael ei thalu yr wythnos nesaf.
"Mae'r cyfan yn anghyfleus iawn a phan ry'ch chi angen rhywbeth mae popeth yn angenrheidiol," meddai.
'Methu prynu dillad i'r ferch sy'n yr ysbyty'
Dywed Chelsea Jones o Lwynypia yn y Rhondda ei bod yn torri ei chalon o ganfod nad oedd modd iddi brynu pyjamas newydd i'w merch fach mewn archfarchnad yn agos i ysbyty yng Nghaerdydd.
"Roedd hi wedi gorfod mynd i'r ysbyty â'i phyjamas yn waed i gyd ac roedd yn rhaid i fi deithio adref ac yn ôl i fynd i nôl dillad iddi.
"Roeddwn yn gyrru ac mewn panig ar yr yr un pryd - roeddwn yn hynod o flin hefyd. Chi byth yn gwybod pryd mae nwyddau dianghenraid yn gwbl angenrheidiol," meddai.
"Dwi ddim yn un i danseilio difrifoldeb Covid ac rwyf wastad wedi ceisio ufuddhau i'r rheolau ond mae'n rhaid i'r rheolau yma newid," ychwanegodd.
Yn y cyfamser mae dyn 28 oed o Ynys Môn wedi cael ei gyhuddo o achosi niwed troseddol a thorri rheoliadau coronafeirws mewn archfarchnad.
Ddydd Sadwrn roedd fideo ar y cyfryngau cymdeithasol yn dangos dyn yn tynnu gorchudd plastig oddi ar nwyddau dianghenraid yn archfarchnad Tesco ym Mangor.
Mae Gwilym Owen wedi cael ei gyhuddo hefyd o droseddau yn erbyn y drefn gyhoeddus.
'Angen lleihau cyffyrddiad a bod yn deg'
Dros y penwythnos dywedodd Llywodraeth Cymru mewn neges ar eu cyfrif trydar bod modd i archfarchnadoedd werthu nwyddau y gellid dod o hyd iddynt mewn siopau eraill - pethau fel cardiau cyfarch.
"Pwrpas gwerthu nwyddau sy'n angenrheidiol yn unig yn ystod y cyfnod clo byr yw annog pobl i beidio treulio mwy o amser na sydd yn rhaid mewn siopau a sicrhau tegwch i fanwerthwyr eraill," medd y neges.
Mewn datganiad ychwanegodd Llywodraeth Cymru: "Bwriad y cyfnod clo byr yw lleihau cysylltiad corfforol rhwng cartrefi i'r lleiafswm posib er mwyn atal haint coronafeirws rhag lledu ac er mwyn arbed bywydau.
"Does dim dewisiadau hawdd ac mae gennym gyfnod byr ar hyn o bryd lle mae modd i ni weithredu. Fodd bynnag, ry'n yn cydnabod yr effaith ar fusnesau ac wedi sicrhau cyllid o £300m o gefnogaeth iddyn nhw yn ystod y cyfnod anodd hwn."
Galw ar i'r Senedd ddychwelyd
Wrth alw ar i'r Senedd ddychwelyd i drafod y mater, dywed arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig Paul Davies: "Mae pobl yn poeni eu bod yn cael eu rhwystro rhag prynu nwyddau fel llyfrau, biniau a dillad plant yn eu siopau lleol a bod hyn yn eu gorfodi i siopa ar-lein neu deithio i sawl siop i chwilio amdanynt."
Mae'n dweud y dylai fod modd i'r Senedd drafod y mater ar y we.
Mae'r Llywydd Elin Jones wedi cael cais i wneud sylw.
Ymhlith deisebau sydd wedi denu mwy na 20,000 o lofnodion yn y gorffennol mae deiseb cysylltiedig ag uned damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd (40,045), galwad i ddysgu hanes pobl ddu yn ysgolion Cymru (34,736) a galwad fod graddau arholiadau 2020 yn cael eu seilio ar aseiniadau athrawon (28,505).
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd24 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd23 Hydref 2020