Kirsty Williams i sefyll lawr fel Aelod o'r Senedd yn 2021
- Cyhoeddwyd
Mae'r gweinidog addysg Kirsty Williams wedi datgan na fydd hi'n sefyll yn etholiad Senedd Cymru y flwyddyn nesaf.
Mae'r Aelod o'r Senedd dros y Democratiaid Rhyddfrydol wedi cynrychioli Brycheiniog a Sir Faesyfed ers 1999.
Bu'n arweinydd ei phlaid yng Nghymru rhwng 2008 a 2016.
Cafodd ei phenodi fel gweinidog addysg yng nghabinet Llywodraeth Cymru yn 2016.
"Ar ôl cryn dipyn o feddwl a myfyrio, rwyf wedi penderfynu peidio â sefyll fel ymgeisydd yn etholiad nesaf y Senedd," meddai.
"Mae yna dristwch, wrth gwrs, wrth wneud y penderfyniad hwn, ond hefyd ymdeimlad o gyflawniad a balchder.
"Rwy'n edrych ymlaen at dreulio mwy o amser gyda fy nheulu ac rwy'n parhau i fod yn ymrwymedig i'm rôl ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed ac edrychaf ymlaen at barhau i ymgyrchu gyda fy olynydd i sicrhau bod Brycheiniog a Sir Faesyfed yn dychwelyd llais Democratiaid Rhyddfrydol Cymru."
Roedd Ms WIlliams, sy'n 49 oed, hefyd yn gadeirydd y pwyllgor iechyd yn y Cynulliad cyntaf rhwng 1999 a 2003.
'Colled enfawr'
Wrth ymateb i'r cyhoeddiad, dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford: "Bydd penderfyniad Kirsty i beidio â sefyll ym mis Mai yn golled enfawr - nid yn unig yn Llywodraeth Cymru ond yn y Senedd ac ym mywyd gwleidyddol Cymru.
"Rwyf mor falch bod ei thymor olaf fel AS wedi cael ei dreulio fel gweinidog ac fel aelod o Lywodraeth Cymru.
"Rhaid i ni wneud y gorau o'i thalentau tra ei bod hi'n dal i fod mewn llywodraeth, oherwydd byddwn ni'n gweld ei heisiau'n fawr pan fydd hi'n symud ymlaen i heriau a phosibiliadau newydd."
Dywedodd Paula Yates, Llywydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru: "Mae Kirsty wedi bod yn hyrwyddwr etholaeth eithriadol i Frycheiniog a Sir Faesyfed am yr 21 mlynedd diwethaf.
"Nid oes stryd na phentref lle nad yw rhywun yn adnabod rhywun sydd wedi cael cymorth personol gan Kirsty dros y blynyddoedd."
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar addysg, Sian Gwenllian: "Mae ei chyfraniad i'r Senedd wedi bod yn arwyddocaol, yn enwedig y gwaddol y mae'n gadael wrth sicrhau bod lleisiau merched yn cael eu clywed yn glir o'r cychwyn, a hyn i gyd tra'n magu teulu!
"Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda Kirsty Williams - mae ei chadernid ac angerdd am addysg yn disgleirio, ac rwy'n diolch iddi am ei chwrteisi a pharodrwydd i wrando yn ein holl drafodaethau am addysg."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd21 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd15 Hydref 2020