Cyfyngiadau: Elusennau yn cyfri'r gost

  • Cyhoeddwyd
A table is set up at a supermarket entrance but there are no volunteer poppy sellers
Disgrifiad o’r llun,

Bwrdd wrth fynedfa archfarchnad, ond does yna ddim gwirfoddolwyr yn gwerthu

Mae elusennau sy'n cael amser anodd o ganlyniad i'r pandemig yn dweud fod y cyfnod clo byr diweddaraf yng Nghymru wedi bod yn ergyd galed arall iddynt.

Fe fydd y 17 diwrnod o gyfyngiadau yng Nghymru yn dod i ben ar 9 Tachwedd, ac ar ôl hynny bydd hawl cynnal digwyddiadau gyda hyd at 15 o bobl dan do neu 30 y tu allan.

Ond fe fydd hynny yn rhy hwyr i'r Lleng Brydeinig sydd wedi gorfod newid y modd maen nhw'n ceisio codi arian drwy werthu pabi ar gyfer Sul y Cofio.

Fe wnaeth y cyfnod clo byr ddod i rym diwrnod yn unig ar ôl i'r Lleng Brydeinig lansio ei apêl pabi blynyddol.

Mae pobl dal yn gallu prynu'r pabi yn yr archfarchnadoedd yng Nghymru, ond am y tro cyntaf mewn 99 mlynedd bydd yna ddim gwirfoddolwyr yn eu gwerthu.

Eleni bydd yna ddim casgliadau stryd chwaith i gynorthwyo'r elusen.

'Amseru anffodus'

Dywedodd Claire Rowcliffe, cyfarwyddwr casglu arian y Lleng, fod yr amseru yn anffodus gan fod eu cynlluniau ar gyfer eleni wedi cael eu cwblhau cyn i'r cyhoeddiad gael ei wneud am y cyfnod clo byr.

"I glywed ein bod yn colli'r cyfle o fewn wythnos i gyhoeddi'r apêl, mae'n rhaid bod hwnna wedi bod yn siom mawr i'n gwirfoddolwyr, " meddai.

Y llynedd fe wnaeth yr elusen godi £50m ledled y DU. Mae'r arian yn cael ei ddefnyddio i gefnogi cyn filwyr a'u teuluoedd.

Eleni mae'r lleng yn annog pobl i gyfrannu arian drwy ddulliau electroneg.

Disgrifiad o’r llun,

Mae canolfan Grange Pavilion yng Nghaerdydd yn wynebu bwlch ariannol o £36,000

Mae elusennau eraill hefyd yn ddioddef yn ystod y cyfnod clo byr.

Un o'r rhain yw'r Grange Pavilion yng Nghaerdydd. Fe wnaeth y ganolfan gymunedol agor ei drysau ym mis Mawrth yn un o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru.

Ond nawr mae'r holl weithgareddau - clybiau brecwast, fforwm ieuenctid, clybiau chwaraeon, gofal ar ôl ysgol, prosiectau garddio a chelf - wedi cael eu rhoi ar stop.

Dywedodd rheolwr y ganolfan Sophey Mills eu bod yn wynebu blwch ariannol o £36,000.

"Mae wedi bod yn ergyd i fod yn onest.

"Mae yna dim o bobl sy'n ceisio cadw'r lle yma ar ei draed. Fe fyddwn yn dod drwy hyn, mae'n rhaid i ni, ond mae e wedi ein taro ni'n galed."