Covid-19: Cartrefi 'ar bigau'r drain' oherwydd profion
- Cyhoeddwyd
Mae trafferthion gyda phrofion Covid-19 staff cartrefi gofal yn parhau i achosi pryder, yn ôl perchnogion.
Dywedodd un rheolwr ei bod hi'n teimlo ar bigau'r drain wrth iddi aros am ganlyniadau sydd fel arfer yn cymryd tua phedwar diwrnod i ddychwelyd.
Yn ôl Fforwm Gofal Cymru mae problemau o hyd o ran nifer y canlyniadau positif ffug a rhai amhendant hefyd.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod "yn gweithio gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru a'r GIG Cymru i gynyddu gallu labordai Cymru i sicrhau fod profion ar gael pan mae eu hangen".
Gaynor Jones yw rheolwr gweithrediadau Grŵp Gofal Orchard sy'n rhedeg dau gartref yn Wrecsam.
Mae'n dweud eu bod yn profi staff ar ddydd Mercher ac yn derbyn y canlyniadau ar ddydd Sul.
"Rydych chi'n dal eich anadl i weld a oes unrhyw un o'ch staff yn profi'n positif. Pe bai llawer iawn o ganlyniadau positif, beth fyddem yn ei wneud?
"Pwy sy'n gofalu am y preswylwyr? Does gennym ni ddim cronfa enfawr o staff."
Bu problemau hefyd gyda'r cludwyr yn cyrraedd ar amser i gasglu swabiau i'w profi.
Mae'n dweud ar un achlysur na chafodd unrhyw ganlyniadau o gwbl.
Pan ofynnodd pam, dywedodd iddi gael gwybod bod oedi yn system brosesi'r labordai.
"Mae'r holl beth yn llanast i fod yn onest. Rydym yn gwneud ein gorau ac mae gennym gynlluniau wrth gefn os fyddwn ni'n ddigon anffodus i gael prawf positif."
"Mae'n eich gwneud yn ofnus iawn.
"Rydyn ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i gadw Covid allan, rydyn ni'n profi tymheredd staff pan fyddan nhw'n cyrraedd ac nid yw staff yn teithio yn eu dillad gwaith.
"Mae'n waith caled. Mae'n llawer anoddach yn emosiynol, yn gorfforol ac yn seicolegol."
Symudodd staff cartrefi Bay Tree a Cherry Tree i mewn i'r safleoedd am chwe wythnos yn ystod y clo cyntaf fel y gallent osgoi trosglwyddo Covid-19.
Dangosodd arolwg diweddar gan Fforwm Gofal Cymru - sy'n cynrychioli mwy na 450 o gartrefi gofal, cartrefi nyrsio a darparwyr iechyd a gofal cymdeithasol annibynnol eraill - fod 29% o gartrefi wedi cael canlyniadau positif ffug tra bod 28% wedi aros am o leiaf saith diwrnod ar gyfer canlyniad.
Roedd mwy na hanner wedi cael o leiaf un canlyniad amhendant yn ystod y pythefnos diwethaf.
Mae cadeirydd Fforwm Gofal Cymru, Mario Kreft, yn dweud bod canlyniadau positif ffug yn achosi 'pryder mawr' ac yn golygu y gallai cartrefi orfod wrthod preswylwyr newydd am 28 diwrnod.
Mae'n dweud bod llawer wedi'i ddysgu am brofion ers dechrau'r pandemig ond mae 'llawer i'w wneud o hyd'.
"Mae profion wedi bod yn broblem fawr drwy'r pandemig hwn ac mae angen i ni wneud hyn yn iawn, oherwydd os na wnawn ni, does dim modd sicrhau bod y system yn llifo a bod pobl yn gallu cael eu rhyddhau'n ddiogel o ysbytai a byw'n ddiogel mewn cartrefi gofal.
"Mae'n rhaid i ni sicrhau bod y system yn gweithio. Felly mae'n rhaid i ni i gyd weithio'n galetach i wneud yn siŵr bod hyn yn gweithio'n iawn.
"Rydym wedi gallu cadw heintiau i lawr, yn bennaf oherwydd staff gwych, ond ni all hyn barhau heb system gadarn.
"Felly mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod yn gallu gwneud hyn mewn ffordd amserol a chywir."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae holl weithwyr cartrefi gofal yn cael profion cyson fel rhan o'n rhaglen brofi cartrefi.
"Pan mae achosion o Covid-19 yn uchel, mae'r risg o'r rhaglen yn rhoi canlyniadau positif ffug yn is, ond rydym yn ailbrofi staff sy'n cael prawf positif er mwyn sicrhau eu bod yn ganlyniadau positif gwir. Yn ddiweddar fe wnaethon ni ysgrifennu at ddarparwyr gofal cymdeithasol, byrddau iechyd ac awdurdodau lleol i ategu hyn.
"Mae yna broblemau sydd wedi cael cryn sylw yn ymwneud ag amseroedd canlyniadau profion sy'n cael eu prosesu drwy labordai llywodraeth y DU, ond rydym yn parhau i roi pwysau ar y llywodraeth i ddatrys y problemau yma er mwyn sicrhau gwelliannau mewn perfformiad a chyflymder canlyniadau.
"Rydym hefyd yn gweithio gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru a'r GIG Cymru i gynyddu gallu labordai Cymru i sicrhau fod profion ar gael pan mae eu hangen."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd23 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd13 Hydref 2020