'Eco-warrior annhebygol' byd y banciau

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Rhian-Mair ThomasFfynhonnell y llun, Tim Gander

"Rwy'n eco-warrior annhebygol yn gweithio yn y City!"

Efallai fod byd slic y banciau yng nghalon Dinas Llundain yn lle annisgwyl i ddod o hyd i ymgyrchydd amgylcheddol.

Ond mae Dr Rhian-Mari Thomas yn cynrychioli math newydd o amgylcheddwr a allai brofi mai diwedd y gân yw'r geiniog wrth geisio ennill y frwydr dros fyd gwyrddach.

Wedi dechrau ei gyrfa lwyddiannus o 20 mlynedd gyda banc Barclays yn Llundain fel banciwr buddsoddi, arbenigodd y wraig o Gaerdydd mewn cyllid gwyrdd gan ennill OBE am ei gwasanaeth i fancio gwyrdd a dod yn Brif Weithredwr y Green Finance Institute yn 2019.

Mae'r cwmni yn ariannu a datblygu busnesau gwyrdd a chynaliadwy ac yn gobeithio dod yn fanc gwyrdd cyntaf Prydain.

Beth yw banc gwyrdd?

Yn syml, mae banc gwyrdd yn ceisio gwneud yn siŵr fod arian yn cael ei fuddsoddi mewn cwmnïau a phrosiectau sy'n cefnogi'r amgylchedd.

"Mae'n arian â phwrpas arbennig," meddai Dr Thomas ar raglen fusnes Gari Wyn ar Radio Cymru wrth egluro egwyddorion y syniad o fanciau a chyllid gwyrdd.

Un math o gynnyrch maen nhw'n ei ddatblygu yw morgeisi gwyrdd ac mae cydweithio ac addysgu yn rhan fawr o'u gwaith hefyd.

Ffatri'n chwythu mwg llygredig
Getty Images
'Dyw parhau i fuddsoddi mewn pethau sy'n dal i gefnogi carbon ddim yn mynd i fod yn gynaliadwy yn yr hirdymor - dydyn nhw ddim yn fuddsoddiad da iawn.

"Un o'r ffyrdd rydyn ni mo'yn addysgu pobl yw i ddangos i'r banciau a'r buddsoddwyr fod modd gwneud elw o fuddsoddi mewn i bethau sy'n dda i'r amgylchedd - dyna'r ffordd gorau fi'n credu i berswadio pobl i newid eu busnesau nhw i ddangos mae modd gwneud arian," meddai.

"Yn anffodus 'dyw parhau i fuddsoddi mewn pethau sy'n dal i gefnogi carbon ddim yn mynd i fod yn gynaliadwy yn yr hirdymor - dydyn nhw ddim yn fuddsoddiad da iawn.

"Mae eisiau inni ddechrau deall yn well sut mae newidiadau sy'n digwydd yn y byd natur - yn enwedig biodiversity a rhai o'r problemau rydyn ni'n eu gweld - un, yn mynd i roi risg newydd i'r byd cyllid a dau, oes 'na gyfle yna i fuddsoddi hefyd?"

Beth yw'r risg i fusnesau?

"Mae'r risg yn ariannol yn dod mewn nifer o wahanol ffyrdd," eglura Dr Thomas sydd yn aelod o dasglu rhyngwladol sy'n llunio fframwaith i gwmnïau ei ddefnyddio wrth feddwl am risg.

"Un yw risg ffisegol o gael llifogydd ac ati yn ymyrryd â sut mae gwahanol gwmnïau a masnachau yn gallu parhau i fod; mae eisiau i'r bancwyr a'r buddsoddwyr fod yn ymwybodol o hwnna.

"Wedyn mae beth 'dyn ni'n galw'n transition risk, sef 'falle bydd technoleg neu deddfau neu rhywbeth yn newid sut mae cwmnïau yn gallu ymddwyn pan mae'n dod at garbon a'r hinsawdd.

"A wedyn mae 'na risg wrth inni ddechrau deall yn fwy sut mae rhai cwmnïau wedi bod yn ymyrryd â'r hinsawdd a'r amgylchedd; efallai bydd rhai pobl yn penderfynu mynd a nhw i'r llys. Eto, mae hwnna yn risg i'r byd ariannol hefyd."

Ffynhonnell y llun, Brian Slade
Disgrifiad o’r llun,

Rhian-Mari Thomas yn siarad yn lansiad y Green Finance Institute yn 2019

Mae grym y defnyddiwr yn ffactor pwysig hefyd, meddai.

"Rhaid cofio ein bod ni fel cwsmeriaid yn dod yn fwy ymwybodol o newid hinsawdd a beth mae hynny'n ei olygu, a pobl ifanc yn enwedig yn poeni llawer am y pwnc.

"Felly mae eisiau bod yn ymwybodol fod beth mae'r cwsmeriaid mo'yn dros y blynyddoedd nesaf yn mynd i newid hefyd.

"Mae e'n risg ond dwi hefyd yn ei weld fel cyfle mawr i bobl sy'n fodlon bod yn fwy mentrus."

Newid trywydd yn sgil Cytundeb Paris

Wedi ennill doethuriaeth mewn Ffiseg o Goleg y Drindod, Dulyn, a gyrfa lwyddiannus fel banciwr buddsoddi, beth arweiniodd at newid trywydd i Dr Rhian-Mari Thomas?

Yn 2015 fe arwyddodd 196 o wledydd y byd Gytundeb Paris i weithio at dargedau amgylcheddol cyffredin a dod â thymheredd y byd is law dau radd Celsius erbyn diwedd y ganrif - ers hynny mae'r Arlywydd Trump wedi cyhoeddi ei fod yn bwriadu tynnu'r UDA allan o'r cytundeb yn 2020.

"Ar ôl 16 mlynedd [gyda'r banc] ddechreuais i feddwl yn ddwys am beth roedd Cytundeb Paris yn enwedig yn mynd i'w olygu i'r economi," meddai Dr Rhian-Mari Thomas.

"Yn amlwg er mwyn [gostwng tymheredd y byd] roedd newidiadau mawr yn mynd i orfod digwydd yn yr economi a felly oedd ishe newidiadau mawr i ddigwydd yn y banc hefyd."

Mae'r diwydiant ynni gwynt o'r môr yn un enghraifft sy'n cynnig cyfle i fuddsoddi mewn busnes a swyddi gwyrdd meddai Dr Thomas - mae'n faes mae'r DG yn flaenllaw ynddo drwy'r byd.

Fferm Gwynt y Môr, arfordir gogledd ddwyrain Cymru
BBC
Diwydiannau arian gwyrdd

Un 'stori llwyddiant' o ran ynni ac arian gwyrdd yn y DG yw ynni gwynt o'r môr meddai Dr Rhian-Mari Thomas lle mae'r DG yn arwain y byd yn y maes ar hyn o bryd gyda:

  • 33%o holl ffermydd gwynt y byd yn gweithredu yn y DG (2019)

  • 27,000yw'r targed ar gyfer nifer y gweithwyr fydd yn cael eu cyflogi yn y diwydiant yn y DG erbyn 2030

Ffynhonnell: Global Wind Energy Council 2019

Gyda chydweithwyr dechreuodd adeiladu gwasanaethau newydd a chefnogi cwsmeriaid wrth iddyn nhw ddechrau meddwl sut roedden nhw'n mynd i ymateb i'r gofynion.

Daeth yn bennaeth byd-eang bancio gwyrdd a chadeirydd Cyngor Bancio Gwyrdd cyntaf Barclays cyn dod yn bennaeth y Green Finance Institute, sydd wedi ei gyllido gan Lywodraeth y DG a Chorfforaeth Dinas Llundain.

Gan gyfaddef ei bod yn "eco-warrior annhebygol" mae'n dweud bod y daliadau amgylcheddol wedi bod yno erioed.

"Ers roeddwn i'n fy arddegau dwi'n cofio Dad yn esbonio holl effaith tŷ gwydr a twll yr osôn felly dwi erioed wedi bod yn poeni am yr amgylchedd ond o'n i erioed yn siŵr sut i fynd ati i wneud unrhyw beth oedd o unrhyw werth yn y byd yna tra o'n i'n gweithio mewn banc.

"Ond nawr dwi'n sylweddoli mae'n hollol elfennol bod y byd bancio yn dechrau cefnogi beth sydd eisiau ei wneud. Mae eisiau lot o fuddsoddiad arnon ni mewn technoleg, mewn ynni, mewn pob mathau o bethau a felly mae'n rhaid inni newid y ffordd rydyn ni'n edrych ar wahanol gwmnïau a sut rydyn ni'n buddsoddi."

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig