Prifysgol yn helpu myfyrwyr awtistig i gyflawni eu potensial

  • Cyhoeddwyd
Myfyrwyr
Disgrifiad o’r llun,

Dim ond traean o raddedigion awtistig sy'n llwyddo i ddod o hyd i waith llawn amser

Mae ymchwil newydd yn dangos mai unigolion ag awtistiaeth ydy'r lleiaf tebygol o'r holl fyfyrwyr anabl o gael swydd ar ôl graddio.

Mae astudiaeth gan Gymdeithas y Gwasanaethau Cyngor ar Yrfaoedd, AGCAS, wedi canfod mai dim ond 33% o raddedigion awtistig sy'n dod o hyd i waith llawn amser.

Er mwyn ceisio taclo'r broblem, mae Prifysgol Bangor wedi ymuno â rhaglen genedlaethol i geisio helpu eu myfyrwyr - a helpu busnesau lleol i ddeall y sgiliau sydd gan bobl ag awtistiaeth i'w cynnig.

Trwy'r rhaglen, sydd dan arweiniad cwmni Santander ac elusen Ambitious about Autism, mae'r myfyrwyr yn cael cyngor gyrfaol yn arbennig ar eu cyfer, yn ogystal â chymorth i gael interniaeth i fagu profiad a chysylltiadau o fewn y byd gwaith.

'Stryglo i ffitio mewn'

Mi fu Llyr Lewis, sydd â Syndrom Asperger ar y sbectrwm awtistig, yn astudio cyfrifiadureg ym Mangor.

Ar ôl cael interniaeth hefo Santander yn ystod ei radd mae o bellach yn gweithio i'r cwmni ariannol.

Bu'n sôn wrth BBC Cymru Fyw am rai o'r anawsterau mae o wedi'u hwynebu, ond hefyd y cymorth gafodd o gan y brifysgol.

"Yn sicr mi roedd yr Asperger's yn effeithio ar y ffordd o'n i'n cyfathrebu 'efo pobl," meddai.

"Mi oeddwn i'n stryglo i ffitio mewn 'efo ffrindiau a hyd yn oed stryglo i wrando ar y lectures y rhan fwya' o'r amser.

"Dwi'n weddol anghyfforddus yn jyst eistedd a gwrando, dwi'n ffeindio fy hun eisiau gwneud rhywbeth 'efo'n nwylo neu rywbeth.

"Mi wnaeth y brifysgol gael rhywun i gymryd nodiadau i mi, oedd yn help."

Disgrifiad o’r llun,

Bydd Prifysgol Bangor yn helpu busnesau lleol i ddeall y sgiliau sydd gan bobl ag awtistiaeth

Mae Llyr yn teimlo mai cymysg yw'r darlun o ran ymwybyddiaeth cyflogwyr o awtistiaeth.

"Mae rhai ohonyn nhw'n gwneud job dda iawn," meddai.

"Mae'r ffordd maen nhw'n delio 'efo'r broses cyfweliad yn gallu bod yn dda iawn, ond dydy rhai ddim wedi rhoi cymaint o feddwl i'r peth.

"Mi oeddwn i'n cael rhywfaint o help o ran ffurflenni cais a pharatoi at gyfweliadau. 

"Roedden nhw'n rhoi syniad i mi o ble' o'n i eisiau mynd, be' o'n i angen canolbwyntio arno ar ôl astudio."

'Meddwl y tu allan i'r bocs'

Yn ôl Llyr, mae angen tynnu mwy o sylw at gryfderau a sgiliau pobl sydd ar y sbectrwm awtistig.

"Y rhan fwya' o'r amser, 'da ni'n meddwl y tu allan i'r bocs neu 'efo deallusrwydd cryf o'r pwnc dan sylw," meddai.

"Dwi yng nghanol helpu fy nghwmni i newid eu system gyfrifiadurol a dwi wedi gallu gweld problemau cyn iddyn nhw ddod, mynd mewn i'r problemau a thrio dod o hyd i ateb iddyn nhw."

Canfod swyddi addas

Yn ystod y rhaglen 18 mis, bydd staff Prifysgol Bangor yn cael hyfforddiant penodol i helpu'r myfyrwyr awtistig i chwilio am swyddi addas.

Ond yn ogystal â chefnogi'r myfyrwyr, mae'r brifysgol hefyd eisiau helpu busnesau lleol i elwa o'r math o gryfderau sydd gan raddedigion awtistig - fel datrys problemau, sylw i fanylder a dyfalbarhad.

Mae Rhian Graham o'r brifysgol yn gweithio'n agos gyda rhai o'r myfyrwyr awtistig ac yn gweld budd cynllun fel hyn.

"Dwi'n gweithio efo 20 o fyfyrwyr awtistig o ddydd i ddydd," meddai.

"Dwi'n teimlo fy hun, pan fydd cyflogwyr yn cael profiad o ba mor werthfawr ydy sgiliau myfyrwyr awtistig yn y gweithle, dwi'n siŵr y byddan nhw'n gallu gweithio efo'i gilydd fel bod y myfyrwyr yn cynnig cyfraniad pwysig tuag at y byd gwaith."