Merthyr Tudful â chyfradd uchaf Covid-19 y DU

  • Cyhoeddwyd
Merthyr TudfulFfynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o’r llun,

Mae ardal Merthyr wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer yr achosion positif

Ardal Merthyr Tudful sydd â'r gyfradd uchaf o achosion Covid-19 yng ngwledydd Prydain.

Ac mae dwy sir arall yn y de - Rhondda Cynon Taf a Blaenau Gwent - ymhlith y deg ardal sy'n diodde' waethaf.

Yr wythnos ddiwethaf fe gofnodwyd cyfradd o 741 ar gyfer pob 100,000 o boblogaeth ym Merthyr, gan olygu fod yr ardal yn codi uwchben Oldham a Blackburn o ran yr ardaloedd sydd wedi eu heffeithio fwyaf.

Ar hyn o bryd mae bron i un o bob tri o bobl sy'n cael prawf ym Merthyr yn profi'n bositif.

Yn Rhondda Cynon Taf, y gyfradd yw 553 am bob 100,000 o bobl, gan ei roi yn safle rhif naw o ran yr ardaloedd sy'n dioddef waethaf.

Mae yna 525.3 o achosion ym Mlaenau Gwent, y sir yn safle rhif 10. Ardal Sirhywi yn y sir sydd â'r gyfradd leol uchaf yng Nghymru, 1,173 am bob 100,000 - gyda 83 o achosion yno.

Disgrifiad,

Merthyr â chyfradd uchaf Covid-19 y DU

O fewn Merthyr y lleoliadau sydd wedi eu heffeithio waethaf yw Cefncoedycymer, Heolgerrig a Parc.

Yn y cyfamser, mae ffigyrau diweddara'r Gwasanaeth Iechyd Genedlaethol yn dangos fod 1,244 o gleifion Covid yn ysbytai Cymru ar 3 Tachwedd, sef y nifer uchaf ers 25 Ebrill, a chynnydd o 21% ar yr wythnos flaenorol.

  • O ran yr holl gleifion mewn ysbytai, mae 17% yn gleifion Covid;

  • Roedd 54 o bobl yn derbyn cymorth peiriannau anadlu ar gyfer coronafeirws ar 3 Tachwedd, naw yn fwy na'r wythnos flaenorol;

  • Roedd 16 o gleifion Covid mewn gofal dwys yng Nghwm Taf Morgannwg, gyda 10 yr un yn Aneurin Bevan a Betsi Cadwaladr, naw yng Nghaerdydd a'r Fro, Roedd yna wyth yn ardal Bae Abertawe ac un yn ardal Hywel Dda.