Achosion coronafeirws mewn 82% o ysgolion uwchradd

  • Cyhoeddwyd
disgyblionFfynhonnell y llun, PA Media

Mae 44% o ysgolion yng Nghymru wedi cael o leiaf un achos o Covid-19 ers dechrau mis Medi, yn ôl ystadegau newydd.

Mae data Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos bod 82% o ysgolion uwchradd wedi cael o leiaf un achos o'r coronafeirws ymhlith disgyblion neu staff.

Cafodd ffigyrau is eu cofnodi mewn ysgolion cynradd, gyda 39% yn nodi achos o Covid hyd yma.

Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru nad oedd achosion mewn ysgolion yn ganiataol yn awgrymu bod yr haint wedi ei drosglwyddo yn y lleoliad hwnnw.

Mae disgyblion uwchradd ym mlwyddyn 9 a hŷn gartref ar hyn o bryd oherwydd y cyfnod clo byr.

Mae plant iau wedi dychwelyd i'r ystafell ddosbarth fel arfer ar ôl hanner tymor.

Ers 1 Medi mae 1,150 o achosion o Covid wedi eu cofnodi ymhlith disgyblion ledled Cymru.

Dros yr un cyfnod roedd 951 o achosion ymhlith staff ysgolion.

Yn ystod y 21 diwrnod diwethaf, mewn mwy na hanner yr ysgolion welodd achosion, roedd llai na phum unigolyn wedi profi'n bositif.

Roedd gan dair ysgol yng Nghymru dros 20 o achosion - gydag un yn cofnodi 40 o achosion o Covid.

Mae'r ystadegau'n awgrymu bod mwy o achosion o'r feirws mewn grwpiau o ddisgyblion hŷn.

Fe gyrhaeddodd achosion ymhlith pobl ifanc 17 i 18 oed uchafbwynt o dros 600 ym mhob 100,000 o'r boblogaeth.

Yn y cyfamser, ymhlith disgyblion 16 oed ac iau, dydy'r gyfradd ddim wedi bod yn uwch na 200 ymhob 100,000.

Roedd Merthyr Tudful, Casnewydd, Caerdydd a Wrecsam ymhlith naw awdurdod lleol lle'r oedd pob ysgol uwchradd wedi cofnodi achosion o'r coronafeirws.

Mewn cyferbyniad, dim ond traean o ysgolion uwchradd Gwynedd oedd ag achosion - a chafodd dim un achos ei gofnodi mewn ysgolion uwchradd yng Ngheredigion.

Bydd pob ysgol yng Nghymru yn ailagor o ddydd Llun ar ddiwedd y cyfnod clo byr.