Cynnydd mewn marwolaethau ysbyty yn ardal Pen-y-bont

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ysbyty Tywysoges Cymru wedi gweld marwolaethau yn gysylltiedig ag achosion o Covid-19 yn cynyddu o 22 i 40 yn ystod yr wythnos ddiwethaf

Mae 28 marwolaeth arall yn gysylltiedig â Covid-19 wedi eu cofnodi mewn ysbytai o fewn ardal Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg.

Roedd 18 o'r marwolaethau yn ystod yr wythnos ddiwethaf yn Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr, gan olygu fod 127 marwolaeth ar draws pedwar ysbyty'r bwrdd iechyd hyd yma.

Yn y cyfamser, cofrestrwyd 121 o farwolaethau yn ymwneud â Covid-19 yng Nghymru, meddai'r Swyddfa Ystadegau Gwladol. Mae hyn yn 56 yn fwy na'r wythnos flaenorol.

Hyd yma, mae Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg wedi cofnodi 531 achos o Covid-19 yn ei ysbytai, a'r rhain yn gysylltiedig â chlystyrau o achosion unigol.

Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant, Rhondda Cynon Taf, sydd wedi cofnodi'r ffigwr uchaf - 195 - a bu 56 o farwolaethau yno.

Ynghyd ag Ysbyty Tywysog Charles ym Merthyr Tudful, nododd pob un ysbyty bum marwolaeth arall yn ystod yr wythnos ddiwethaf.

Mae'r achosion ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi arwain at y mwyafrif o'r marwolaethau diweddar.

Dywedodd y bwrdd iechyd ei fod yn ymgymryd â "gwaith gwella ar frys" yn Ysbyty Cymunedol Maesteg, gydag un ward ar gau tan fis Ionawr.

Dywedodd y cyfarwyddwr meddygol Dr Nick Lyons: "Wrth i ni ddod allan o'r cyfnod clo yng Nghymru, mae cyfradd haint Covid-19 yn ein cymunedau yn parhau i fod yn bryderus o uchel.

"Bob dydd, mae mwy o gleifion Covid yn cael eu derbyn i'n hysbytai acíwt sydd eisoes yn brysur iawn yr adeg hon o'r flwyddyn.

"Meddyliwch yn ofalus am eich gweithredoedd a chadwch at y cyfyngiadau sy'n dal i fod ar waith."

Roedd ffigyrau wythnosol y Swyddfa Ystadegau Gwladol, hyd at 30 Hydref, yn cynnwys 42 o farwolaethau a gofrestrwyd ar draws ardal Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg, a digwyddodd 36 ohonyn nhw mewn ysbytai.

Roedd 26 hefyd yn ardal Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan, 21 marwolaeth ym Mae Abertawe, 15 yn ardal Betsi Cadwaladr a 10 yng Nghaerdydd a'r Fro.

Bu pum marwolaeth yn ardal Hywel Dda a dwy farwolaeth ysbyty yn ymwneud â thrigolion Powys.

Dim ond Ynys Môn a Sir Benfro oedd heb weld unrhyw farwolaethau oherwydd Covid-19 ymhlith siroedd Cymru dros yr wythnos dan sylw.

Mae cyfanswm nifer y marwolaethau Covid-19 yng Nghymru hyd at, ac wedi cofrestru erbyn 30 Hydref, bellach wedi codi i 2,884.

Mae hyn yn cynnwys marwolaethau mewn cartrefi gofal, hosbisau a chartrefi pobl, a phan fydd meddygon yn amau ​​Covid-19 fel rheswm am farwolaeth.

Pan fydd marwolaethau a gofrestrwyd yn ystod y dyddiau canlynol yn cael eu cyfrif, mae'r cyfanswm yn codi i 2,984 o farwolaethau hyd at 30 Hydref.