Prifysgol Abertawe: 'Ddim yn bosib profi pob myfyriwr'

  • Cyhoeddwyd
Swansea UniversityFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Prifysgol Abertawe y byddan nhw yn blaenoriaethau myfyrwyr sy'n byw gyda phobl bregus

Fydd hi ddim yn bosib rhoi prawf Covid i bob myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe cyn iddyn nhw ddychwelyd ar gyfer y Nadolig, medd prif swyddog gweithredu'r brifysgol.

Ddydd Mercher gofynnodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, i bob myfyriwr yng Nghymru i deithio adref erbyn Rhagfyr 9 ar yr hwyraf.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y byddan nhw yn cael cynnig profion a fydd yn rhoi canlyniadau cyflym 24 awr cyn gadael.

Ond dywed Andrew Rhodes na fydd hi'n ymarferol bosib i roi prawf i 21,500 o fyfyrwyr Abertawe yn ystod yr amser sydd wedi'i neilltuo.

"Yn Lloegr lle maent wedi treialu'r drefn yma - mae prifysgolion wedi bod yn profi 1,500 o fyfyrwyr y dydd gan ddefnyddio 45 aelod o staff i wneud hynny...

"Petaen ni yn profi 21,500 o bobl ddwywaith y dydd ar y raddfa o 1,500 prawf y dydd - fe fyddai hynna'n cymryd mis - a dim ond ryw dridiau sydd gennym ni," meddai wrth BBC Radio Wales.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Kirsty Williams bod achosion mewn prifysgolion yn gostwng yn raddol

"Fydd hi ddim yn bosib i ni roi prawf i bawb yn yr amser sydd gennym - yn bendant dim pob myfyriwr 24 awr cyn iddyn nhw adael - fydd neb yn gallu gwneud hynna.

"Felly fe fyddwn yn rhoi pwyslais nawr ar flaenoriaethu profion - gan brofi myfyrwyr sy'n byw gyda phobl bregus yn gyntaf."

Dywed Ms Williams y bydd modd teithio adref yn hwyrach na 9 Rhagfyr os yw myfyrwyr yn gorfod hunan-ynysu wedi prawf cadarnhaol.

Mae ei phenderfyniad yn dilyn cyhoeddiad tebyg yn Lloegr lle mae myfyrwyr wedi cael wythnos i deithio adref wedi i'r cyfnod clo yno ddod i ben.

Ddydd Mercher rhybuddiodd y Gweinidog Addysg na ddylai neb deithio os oes ganddyn nhw symptomau, wedi cael prawf cadarnhaol neu wedi cael cais i hunan-ynysu.

Bydd disgwyl i fyfyrwyr sy'n bwriadu teithio adref ar gyfer y Nadolig:

  • gysylltu llai â phobl eraill yn gymdeithasol yn y cyfnod cyn diwedd y tymor;

  • cael prawf sy'n profi pobl asymptomatig, yn ddelfrydol o fewn 24 awr cyn teithio;

  • trefnu i deithio erbyn 9 Rhagfyr ar yr hwyraf, a chaniatáu amser i ad-drefnu eu cynlluniau rhag ofn y bydd angen hunan-ynysu; a

  • dilyn trefniadau addysg wyneb yn wyneb eu prifysgol a'r trefniadau i sicrhau bod pobl yn gallu gadael campysau'n ddiogel.

Ffynhonnell y llun, Google Maps
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol De Cymru nad yw'n credu y bydd pob myfyriwr yn mynd adre

Mae mwy na 20,000 o fyfyrwyr ym Mhrifysgol De Cymru yn cael eu dysgu ar safleoedd yng Nghaerdydd, Casnewydd a Phontypridd.

Dywed y Dirprwy Is-Ganghellor Dr Ben Calvert: "Er bod yna 20,000 o fyfyrwyr - dydyn nhw ddim i gyd yn byw ar y campws ac mae nifer yn teithio yma o amrywiol leoedd yng Nghymru.

"Ond dwi'n cytuno- ni fydd modd rhoi prawf i bawb," meddai.

"Bydd yn rhaid rhoi blaenoriaeth i fyfyrwyr bregus ac i'r rhai sy'n dychwelyd at deuluoedd bregus."

Dywedodd hefyd bod y brifysgol yn ystyried gorffen dysgu ar y campws yng nghynt.

Dywed Prifysgol Metropolitan Caerdydd y bydd profi ar raddfa eang yn "her fawr" i brifysgolion.

Bydd myfyrwyr Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yn cael cynnig profion - yn enwedig os oes ganddynt gynlluniau i fynd adref a'u bod yn fregus neu eu bod mewn cysylltiad â phobl bregus.

Dywed prifysgolion Bangor ac Aberystwyth eu bod wrthi yn paratoi eu cynlluniau terfynol ar gyfer y Nadolig.