Y ferch fferm sy’n perfformio burlesque a sgrifennu nofelau

  • Cyhoeddwyd
Jodie BondFfynhonnell y llun, Jodie Bond

Rydych chi'r un mor debygol o ddod o hyd i Jodie Bond yn ysgrifennu yn ei phyjamas ag ydych chi o'i gweld hi'n perfformio burlesque mewn sequins ar lwyfan (pan oedden ni'n cael mynd i weld perfformiadau byw, wrth gwrs).

Mae'r awdures, sy'n wreiddiol o Fachynlleth, yn ddiweddar wedi cyhoeddi ei nofel gyntaf, a newydd anfon nofel nesaf y gyfres at ei golygydd. Ond mae ganddi ddigon o ochrau eraill i'w phersonoliaeth i sicrhau nad yw bywyd yn mynd yn undonnog, meddai.

Ysgrifennu

O'n i ar fin troi'n 30, a meddwl 'nawr yw'r amser i wneud y pethau ti eisiau ei wneud mewn bywyd'. A doedd dim am fy stopio i. Nes i roi blwyddyn i fy hun i sgrifennu llyfr - jyst yn sgrifennu am ddwy awr y dydd - ac ar ôl blwyddyn, o'dd llyfr yna.

Ti jyst angen pen a papur, ac eistedd i lawr a rhoi'r amser i mewn... a chytundeb llyfr wrth gwrs!

O'n i'n rili lwcus i gwrdd â Richard Davies o Parthian Books, ar encil ysgrifennu yn Tŷ Newydd. Doedden nhw erioed wedi gwneud ffantasi o'r blaen, ond wythnos ar ôl i ni gyfarfod, ges i e-bost ganddo, yn gofyn am y llyfr. O'dd intern wedi darllen e a mynnu eu bod nhw'n cyhoeddi'r peth! Mae wastad lwc ynddo fe.

Ffynhonnell y llun, Robert Price
Disgrifiad o’r llun,

Lansiad ei nofel gyntaf - The Vagabond King - yng Nistyllfa Dyfi

Mae'r llyfr cyntaf o drioleg - The Vagabond King - yn dilyn y tywysog Threon Greenbrooke, sydd yn colli ei deulu a'i ddinas, ac mae'n dychwelyd o'i alltudiaeth i geisio dial.

Nes i benderfynu ysgrifennu ffantasi achos o'n i'n meddwl fod gwneud pethau fyny yn haws... ond dwi 'di darganfod bod hynny ddim yn wir! Pan chi'n creu gwlad newydd, a mae 'na drefi a phobl wahanol a breniniaethau cyfan, mae 'na lot i'w gadw yn dy ben.

Ond mae ffantasi yn escapism, a mae e'n rili neis ar hyn o bryd i gael rhywbeth hollol wahanol.

Ffynhonnell y llun, Jodie Bond
Disgrifiad o’r llun,

Jodie yn ysgrifennu yn yr heulwen yn Sicilly

Dwi am gymryd brêc nawr am ychydig ar ôl sgwennu'r ail lyfr - dwi 'di cael digon ar ffantasi am 'chydig.

Mae'n dda i gael brêc, a chael bach o ofod i feddwl am rywbeth, ond fydda i bendant eisiau mynd yn ôl i sgwennu.

Galle fe fod yn anodd i jyglo swydd llawn amser, ac ysgrifennu a phopeth arall dwi eisiau neud yn fy amser sbâr. Dwi'n hoffi cadw'n brysur, ond dwi ddim yn meddwl am y stwff creadigol fel gwaith.

Perfformio

Yng Nghaerdydd nes i ddechrau burlesque i drio ffeindio ffrindiau mewn lle newydd. Beth arall wyt ti'n ei wneud gyda'r nos?! Nes i ddechrau mynd i wersi burlesque a dwi wedi bod yn gwneud hynny ers tua wyth mlynedd nawr.

Mae'r gymuned burlesque yn anhygoel. Mae pawb yn dychmygu fod pobl yn bitchy, ond mae'n gymuned rili hyfryd. Mae'n lot o bobl sydd isho codi hyder.

Ffynhonnell y llun, Jodie Bond
Disgrifiad o’r llun,

Un o amryw wisgoedd burlesque Vixie Rouge

Dyw e ddim yn seedy - mae tua 90% o'r gynulleidfa yn fenywod - mae e am fenywod yn cefnogi menywod. Ar y llwyfan, gyda 200 o bobl yn sgrechian, a ti'n tynnu dy ddillad i ffwrdd, ti'n sydyn yn teimlo'n lot gwell amdana ti dy hun!

Mae burlesque yn dangos ochr arall i fy mhersonoliaeth. Dwi'n troi fewn i berson arall ar y llwyfan, pan dwi wedi rhoi'r holl golur 'mlaen. Mae gen i alter ego o'r enw Vixie Rouge - mae hi'n sequins a glitter, dwi'n fwy o berson pyjamas.

Dwi'n introvert ac yn extrovert; hanner ffordd rhwng y ddau. Weithiau dwi eisiau bod yn centre of attention, yn siarad am lyfrau, ar y llwyfan yn dawnsio. Ond weithiau dwi eisiau darllen llyfr, gyda glasied o win, a dim siarad efo neb, neu mynd am dro hir a ddim gweld neb!

Natur

Dwi'n symud tŷ mewn 'chydig wythnosau, gan adael Caerdydd ar ôl, a mynd i dyddyn ym Mannau Brycheiniog. Bydd e'n newid byd yn llwyr ond bydd e'n lyfli. Fydd e'n neis i dyfu llysiau a chadw gwenyn... 'sai'n gwybod beth eto (er mae gŵr fi eisiau cadw emus) .

Fi'n dod o Fachynlleth, a ges i fy magu ar fferm. Mae'n nheulu i'n berchen ar ddistyllfa jin yng Nghorris, felly o'n ni'n gwneud 'chydig bach o ffermio defaid a 'chydig bach o ddistyllu jin.

Dwi'n berson cefn gwlad - dyna pam ni'n symud. Dwi ishe bod nôl rhywle gwyrdd, a gweld y mynyddoedd eto.

Ffynhonnell y llun, Jodie Bond
Disgrifiad o’r llun,

Jodie wedi concro The Old Man of Coniston - mynydd yn ardal y Llynnoedd

Dwi'n rili hoffi Caerdydd achos fod yna lot o le gwyrdd - mae'r parciau'n ffantastig. Bob bore, dwi'n cerdded pum milltir a mae 'na lot o lwybrau ac opsiynau yma. Mae e 'di rili'n helpu yn ystod lockdown - neu unrhyw stres rili - i fod allan mewn natur. Mae'n bwysig i fi.

Dwi'n meddwl fydd e'n sioc i'r system i symud - dwi'n caru'r ddau; cymdeithasu a bywyd nos, ond hefyd rhywle mwy heddychlon.

Ond eleni, dwi wedi ffeindio, 'da ni yng Nghaerdydd ond does 'na ddim theatr, does 'na ddim sinema, does 'na ddim pybs... ac ers y pandemig dwi wedi sylwi mod i'n gallu entertanio'n hun pan does 'na ddim byd o gwmpas!

Ond unwaith i ni symud, falle bydd rhaid i mi edrych fewn i roi grŵp burlesque at ei gilydd...!

Hefyd o ddiddordeb: