Pwyllgor yn gwrthod cais cynllunio ger Capel Salem
- Cyhoeddwyd
Gwrthododd pwyllgor cynllunio Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri cais i droi safle ger capel enwog yng nghefn gwlad Gwynedd yn fan i gasglu anifeiliaid marw.
Mae Capel Salem ger Pentre Gwynfryn, uwchben Harlech, yn denu ymwelwyr bob blwyddyn oherwydd llun enwog Sydney Curnow Vosper, sy'n portreadu Siân Owen yn mynychu'r capel.
Roedd y cwmni Cymru Lan yn gobeithio codi adeilad newydd yn lle'r hen adeiladau presennol, a fyddai o fewn 60 metr i'r capel, a'i ddefnyddio i gasglu cyrff anifeiliaid o ffermydd yr ardal.
Roedd swyddogion yr awdurdod yn argymell i'r pwyllgor wrthod y cais.
Fe wrthododd y pwyllgor gais tebyg gan y cwmni fis Medi'r llynedd, yn rhannol am fod dim digon o dystiolaeth wedi'i chyflwyno o blaid y cynnig.
'Parhad o'r caniatâd cynllunio blaenorol'
Rhoddwyd hawl yn 2005 i gwmni arall osod cytiau cŵn a llosgydd bach ar y tir, ond nid yw wedi'i ddefnyddio i'r perwyl hynny ers rhai blynyddoedd.
Dywedodd Cymru Lan, sy'n rhedeg gwasanaeth rheoli gwastraff a chasglu stoc yng Ngaerwen, Ynys Môn, fod eu cynnig yn barhad o'r caniatâd cynllunio blaenorol "fel storfa stoc wedi cwympo".
Ond roedd Cyngor Cymuned Llanbedr yn anghytuno, a gwrthwynebon nhw'r cais ar y sail ei fod "yn hollol wahanol o ran cymeriad, o ran ei faint a'i ddefnydd, i'r cais diwethaf".
Ychwanegodd y cyngor bod yna "gymeriad diwydiannol" i'r cais, a bod ffyrdd lleol yn rhy gul a throellog i ymdopi â chynnydd mewn traffig.
Dywedon nhw hefyd bod lleoliad y datblygiad yn "anaddas... mewn ardal lle mae'r diwydiant twristiaeth yn elfen bwysig o'r economi leol".
Ychwanegodd: "Byddai'r adeilad arfaethedig, gan gynnwys y dirwedd ddiwydiannol galed, yn cael effaith niweidiol ar safle adeilad rhestredig sef Capel Salem, sydd o bwysigrwydd cenedlaethol ac yn gyrchfan boblogaidd i ymwelwyr."
Roedd swyddogion cynllunio'r awdurdod yn cytuno fod y cais yn wahanol i'r hyn a gafodd ei ganiatáu yn 2005.
Argymhellion nhw y dylid gwrthod y cais, gan ddweud: "Oherwydd natur y cynnig, ni fydd yn cadw nac yn gwella gosodiad adeiladau rhestredig cyfagos."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Medi 2019
- Cyhoeddwyd24 Medi 2019