Tynnu'r plwg ar ffatri creu batris ym Mro Morgannwg

  • Cyhoeddwyd
Bro TathanFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Roedd disgwyl i'r ffatri fod ar Barc Busnes Bro Tathan

Ni fydd cynlluniau am ffatri cynhyrchu batris i geir trydanol yn ne Cymru yn cael eu gwireddu.

Dywedodd cwmni Britishvolt, oedd wedi dewis Sain Tathan ym Mro Morgannwg fel safle posib, nad oedd yr "amseru" yn addas.

Roedd Britishvolt wedi dweud y byddai'r ffatri'n creu 3,500 o swyddi ac yn arwain at fuddsoddiad o £1.2bn yn yr economi.

Roedd y cwmni hefyd wedi arwyddo memorandwm - cytundeb cychwynnol - gyda Llywodraeth Cymru.

Daw'r cyhoeddiad wedi sawl ergyd i'r diwydiant moduro yn ne Cymru - wrth i ffatri Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr gau a phenderfyniad Ineos nad oedden nhw am adeiladu cerbyd newydd yno.

De Cymru 'dal yn ddeniadol'

Ym mis Gorffennaf roedd Prif Weithredwr Britishvolt wedi dweud y gallai'r ffatri fod yn weithredol erbyn 2023.

Ond mewn datganiad ddydd Mercher, dywedodd Orral Nadjari na fyddai opsiwn Sain Tathan yn "cyrraedd amserlen ein safle cyntaf".

"Felly fe fydd y safle cyntaf yn y DU mewn lleoliad gwahanol, fydd yn cael ei gyhoeddi yn fuan."

Ychwanegodd bod de Cymru yn parhau'n "leoliad deniadol iawn" ar gyfer buddsoddiad yn y dyfodol.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod y penderfyniad wedi ei wneud "ar y cyd" gyda'r cwmni, a bod y ddau'n "cytuno ar safon uchel a photensial" y safle ym Mro Morgannwg.

Pynciau cysylltiedig