Cyfnod hunan-ynysu yn cael ei ostwng o 14 i 10 diwrnod

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Hunan-ynysuFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl y llywodraeth mae tystiolaeth yn awgrymu nad ydy unigolion yn heintus ar ôl 10 diwrnod

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd y cyfnod sy'n rhaid hunan-ynysu gyda Covid-19 yn cael ei ostwng o 14 diwrnod i 10.

Dywedodd y llywodraeth fod y penderfyniad yn seiliedig ar y dystiolaeth sy'n awgrymu nad ydy unigolion yn heintus ar ôl 10 diwrnod.

Mae'r newid yn berthnasol i bobl sy'n derbyn prawf positif, pobl sy'n rhannu cartref gyda'r bobl hynny a phobl sy'n gorfod hunan-ynysu ar ôl dychwelyd i Gymru o wlad dramor.

Bydd y rheol newydd yn dod i rym ddydd Iau, 10 Rhagfyr.

I bwy mae'r newid yn berthnasol?

Bydd y newid o 14 i 10 diwrnod yn berthnasol i:

  • Bobl sydd wedi derbyn prawf positif am Covid-19;

  • Pobl sydd â symptomau Covid-19 sy'n aros am ganlyniad prawf, neu sydd gael prawf;

  • Pobl sy'n rhannu cartref gyda rhywun sy'n dangos symptomau Covid-19, neu sydd wedi cael prawf positif;

  • Cysylltiadau agos achosion positif o Covid-19;

  • Teithwyr sy'n dychwelyd o wlad sydd heb ei heithrio rhag hunan-ynysu.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething: "Rydyn ni'n gwybod bod hunan-ynysu yn anodd i bobl, ac rydyn ni'n credu y bydd teuluoedd, cymunedau a busnesau yn croesawu'r cyhoeddiad heddiw i leihau y cyfnod y mae'n rhaid i bobl hunan-ynysu yn ddiogel.

"Mae hunan-ynysu a cwarantin yn chwarae rhan allweddol wrth atal y coronafeirws rhag lledaenu, a dwi am ddiolch i bawb sy'n parhau i ddilyn y rheolau ac yn chwarae eu rhan i ddiogelu Cymru."