Ennill cam cyntaf achos dros gyflogau Seiont Manor

  • Cyhoeddwyd
Seiont Manor

Mae cyn-weithwyr mewn gwesty ger Caernarfon wedi ennill yn y cam cyntaf o achos dros gyflogau maen nhw'n honni sy'n ddyledus iddyn nhw.

Roedd gweithwyr Gwesty Seiont Manor wedi protestio y tu allan i'r gwesty flwyddyn yn ôl pan na chawson nhw eu talu.

Caeodd y drysau ym mis Ionawr, cyn i'r gwesty fynd i ddwylo gweinyddwyr yn ddiweddarach.

Mae naw o'r cyn-weithwyr wedi ennill eu hachos mewn Tribiwnlys Cyflogaeth ddydd Llun.

Roedd yr achos yn ymwneud â chyfanswm o £24,000, gyda symiau i unigolion rhwng £700 a £5,500.

Bydd rhaid i'r grŵp fynd yn ôl i'r Uchel Lys i wneud cais i ddiddymu'r cwmni, a chael eu harian yn ôl.

Y cogydd pan gaeodd y gwesty oedd Chris Summers, a dywedodd ei fod yn benderfyniad pwysig i'r grŵp.

"Mae'r cyfan ohona ni yn y grŵp wedi derbyn hyn fel gwers werthfawr... 'Da ni 'di cymryd o, a 'di dysgu, a 'da ni'n lot gwell bobl nag oedden ni flwyddyn dwetha'."

Nid yw cyn-berchnogion y cwmni wedi ymateb i gais am sylw.

Pynciau cysylltiedig