'Anodd cadw ysgolion ar agor ymhobman yn Ionawr'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
dosbarthFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r Gweinidog Addysg wedi dweud ei bod yn bwriadu cadw ysgolion yng Nghymru ar agor fis Ionawr "lle bynnag y bo modd".

Ond cyfaddefodd Kirsty Williams y gallai rhai ardaloedd ei chael hi'n anodd.

Dywedodd fod cadw ysgolion ar agor yn flaenoriaeth iddi er gwaethaf cyfyngiadau eraill, ond ei bod yn rhy gynnar i ddiystyru unrhyw beth.

Ddydd Mercher fe ddaeth y cyhoeddiad bod cyfyngiadau Lefel 4 yn dechrau yng Nghymru ar 28 Rhagfyr.

Y disgwyl yw y bydd ysgolion yn croesawu disgyblion yn ôl o 4 Ionawr ymlaen.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn ystyried cyflwyno "cyfnod o hyblygrwydd" er mwyn cael plant yn ôl i ysgolion wedi'r Nadolig.

Fis Medi roedd gan ysgolion gyfnod o bythefnos i gael eu disgyblion yn ôl yn eu dosbarthiadau ddechrau'r tymor.

"Rydym yn glir iawn bod angen i sefydliadau addysg aros ar agor ym mhob un ardal o'r lefelau rhybudd newydd y mae'r prif weinidog wedi'u cyhoeddi, lle bynnag y bo modd, gan ei bod yn flaenoriaeth i'r llywodraeth," meddai Ms Williams.

"Ond rydyn ni'n cydnabod y gall rhai awdurdodau lleol wynebu anawsterau penodol sy'n ei gwneud hi'n wirioneddol heriol."

'Hyblygrwydd i'r ysgolion'

Dywedodd y gweinidog addysg y byddai'n gyfnod ansicr wedi'r Nadolig yn sgil y pandemig.

"Rwy'n gwerthfawrogi bod pobl eisiau sicrwydd ond 'da ni mewn sefyllfa sy'n symud yn gyflym ac mae'n rhaid i ni gydnabod y realiti y gallai rhai ysgolion ei wynebu gyda staffio ar ôl y Nadolig," ychwanegodd.

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood

Wedi iddo gyhoeddi bod cyfyngiadau Lefel 4 yn dod i rym dywedodd y prif weinidog, Mark Drakeford ei fod yn flaenoriaeth iddo sicrhau bod cyfleoedd i bobl ifanc fod yn yr ysgol.

Awgrymodd y byddai modd gwneud hyn fesul tipyn.

"'Nôl ym mis Medi, roedd cyfnod am ddwy wythnos ar ddechrau'r tymor lle roedd hyblygrwydd i'r ysgolion dynnu bobl 'nôl mewn ffordd sy'n adeiladu dosbarthiadau lan - cawn ni weld os fydd hwnna'n well i neud ar ôl y Nadolig hefyd," meddai.

"Dan ni ishe gweld plant 'nôl yn yr ysgol ond ambell waith - mae'n bwysig i roi mwy o hyblygrwydd yn nwylo'r bobl sy'n rhedeg yr ysgolion i wneud e mewn ffordd sy'n gweithio iddyn nhw - yn y cyd-destun maen nhw'n eu wynebu."