Gwarchod hawliau dinasyddion Ewrop o Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
dinasyddion ewropFfynhonnell y llun, Getty Images

Bydd corff newydd i warchod hawliau dinasyddion Ewrop sy'n byw a gweithio yn y DU ar ôl Brexit yn dechrau ar ei waith yn Abertawe ddydd Iau.

Bydd yr Awdurdod Monitro Annibynnol wedi ei leoli yng Nghanolfan Ddinesig Abertawe, ac yn monitro cyrff cyhoeddus i sicrhau eu bod yn cadw at hawliau dinasyddion.

Fe fydd yr awdurdod newydd yn adolygu cwynion, ac mae ganddo'r grym i lansio ymchwiliadau ac i gymryd camau cyfreithiol.

Fe fydd yr AMA yn cydweithio'n agos gyda llywodraethau a seneddau yn y DU a Gibraltar ynghyd â grwpiau eiriolaeth, elusennau a chyrff rheoleiddio fel rhan o'i waith.

Prif weithredwr dros dro yr Awdurdod yw Dr Kathryn Chamberlain, a ddywedodd: "Mae'r AMA yn cydnabod ei rôl yn cynnal hawliau dinasyddion a dal sefydliadau cyhoeddus i gyfrif am eu triniaeth o bobl o gymunedau Ewropeaidd.

"Mae ein lleoliad yn Abertawe yn dangos hyder yn sgiliau a thalent y gweithlu yn lleol, ac yn sicrhau y byddwn yn gallu darparu cefnogaeth a chraffu yn dilyn ein hymadawiad o'r UE."

Bydd yr AMA yn dechrau gweithredu'n llawn o ddydd Iau, 31 Rhagfyr am 11:00.

Yn fras, mae gan bobl a ddaeth o'r 27 gwlad yn Ewrop - ynghyd â'r gwledydd EFTA, sef Gwlad yr Iâ, Liechtenstein a Norwy - yr un hawliau ag oedd ganddyn nhw cyn Brexit os oedden nhw'n byw yn y DU cyn 31 Rhagfyr, 2020 ac wedi cofrestru gyda Chynllun Anheddiad yr UE erbyn 30 Mehefin 2021.

Mae cytundeb ymadael yr UE yn cynnwys hawliau fel hawliau i fyw a gweithio yn y DU, cydnabyddiaeth o gymwysterau proffesiynnol a nawdd cymdeithasol.

Pynciau cysylltiedig