Dim cyfri pleidleisiau etholiad y Senedd dros nos

  • Cyhoeddwyd
blwchFfynhonnell y llun, Getty Images

Ni fydd pleidleisiau'n cael eu cyfri'n syth ar ddiwedd diwrnod etholiad y Senedd ym mis Mai ond ar y diwrnod canlynol oherwydd y pandemig.

Mae trefnwyr wedi penderfynu peidio cyfri'r pleidleisiau dros nos "oherwydd y cyfyngiadau Covid-19 y mae disgwyl y bydd mewn grym" adeg hynny.

Mae'r etholiad i fod i ddigwydd ddydd Iau, 6 Mai ond mae gweinidogion yn paratoi cynlluniau wrth gefn rhag ofn y byddai angen ei ohirio am hyd at chwe mis.

Bydd etholwyr hefyd yn dewis Comisiynwyr Heddlu a Throsedd ar 6 Mai, ond fe fydd y pleidleisiau hynny'n cael eu cyfri ar ddydd Sul 9 Mai, a'r canlyniadau'n cael eu cyhoeddi'r un diwrnod.

Pellter cymdeithasol a seibiannau digonol

Dywed Bwrdd Cydgysylltu Etholiadol Cymru: "Oherwydd y cyfyngiadau Covid-19 y disgwylir y bydd mewn grym ym May 2021, y disgwyliad yw y bydd y prosesau gwirio a chyfri angen rhagor o staff a mwy o amser i'w cwblhau.

"Ni fyddai'n ymarferol, felly, i wirio a chyfri papurau pleidleisio dros nos."

Ychwanega'r Bwrdd: "Bydd angen rhoi ystyriaeth hefyd i'r gofod ar gael i ganiatáu pellter cymdeithasol.

"Bydd y consensws sydd wedi ei gyrraedd yn sicrhau bod y tîm rheoli etholiadau a staff y cyfri'n cael cyfnod priodol o orffwys ac yn gallu gweithio oriau estynedig ar y dydd Gwener, gan gynnwys cyfnodau seibiant digonol, yn unol â'r gyfraith."

Tra bo'r pleidleisiau i ethol cynrychiolwyr ym Mae Caerdydd yn cael eu cyfri fel arfer dros nos, cafodd pleidleisiau etholiad y Cynulliad cyntaf, yn 1999, eu cyfri'r diwrnod canlynol. Dyna ddigwyddodd hefyd yn achos pleidleisiau rhanbarth gogledd Cymru yn 2011.

Pynciau cysylltiedig