Lle i enaid gael llonydd: Bethan Rhys Roberts
- Cyhoeddwyd
Mae'r newyddiadurwr a'r darlledwr Bethan Rhys Roberts yn cyflwyno rhaglen Newyddion S4C a Wales Live ar BBC One Wales. Yma, mae'n trafod y lle sy'n rhoi llonyddwch meddwl iddi wrth fynd â'i chi Mili am dro ar hyd llwybr yr afon Taf ger ei chartref yn yr Eglwys Newydd yng Nghaerdydd:
'Yn y cyfnodau clo, mae'r ci wedi bod yn allwedd i ryddid'
Does dim dewis. Beth bynnag ydi'r tywydd, mae'n rhaid mynd â'r ci am dro. Ddwywaith... dair, bob dydd.
A do, 'dwi wedi diawlio hynny droeon... dim amser, dim awydd. Fi ydi'r gwaetha' yn y teulu am gynnig mynd â Mili o Abergwili (ces o ddaeargi Cymreig) gan wneud esgus digon tila llawer yn rhy aml.
Ond yn y cyfnodau clo, mae'r ci wedi bod yn allwedd i ryddid a 'tasa ganddi oriawr sy'n cyfri'r camau, mi fydda honno wedi hen dorri wrth i ni gyd fynd â hi yn unigol i gael ein hymarfer corff dyddiol.
Felly dyna ddod i nabod a gwerthfawrogi llonyddwch Llwybr Taf ger yr Eglwys Newydd yng Nghaerdydd tipyn yn well ynghanol miri'r feirws.
Wedi fy magu yng ngogoniant glannau'r Fenai, mae hi'n ddigon hawdd cymharu a hiraethu, ond ydi mae'r Taf hefyd yn llawn rhyfeddodau. Ar ddechrau'r pandemig, ro'n i'n gwneud yn siŵr bod y "mynd am y dro" yn cydfynd â chynhadledd newyddion ddyddiol y llywodraeth - amseru perffaith, tri chwarter awr amser cinio.
'Ro'n i'n gwrando'n astud ond yn sylwi ar ddim'
Sgidiau solat, clustffonau, pen lawr a gwrando ar y diweddara am Covid-19 wrth gerdded ar frys o'r tŷ, ar hyd yr afon, dros y bont i Radur a syth yn ôl, gyda Mili druan yn cael ei thynnu os oedd hi'n meiddio oedi'n rhy hir wrth goeden neu sbwriel. Ro'n i'n gwrando'n astud ond yn sylwi ar ddim.
Yna dros yr haf wrth i'r feirws gilio rywfaint dyma ddewis podlediadau yn gydymaith gan fentro heibio'r rhai gwleidyddol i fyd ffuglen, iechyd meddwl a malu awyr.
Ro'n i'n sylwi rywfaint ar lif yr afon, adlewyrchiad y dail, olion hen bontydd, sŵn y dŵr yn taranu yng Nghored Radur ac ambell drên yn hwtian wrth anelu am y brifddinas ochr draw i'r afon.
'Dihangfa ryfeddol ynghanol y brifddinas'
Erbyn hyn, fel Mili, dwi'n gadael y clustffonau adra ac yn dechrau dysgu gwrando ac edrych, sylwi a mwynhau, clywed sgyrsiau'r adar ac arogl yr awyr iach.
Gwagio'r pen drwy ryfeddu ar sut mae mulfran yn gallu sefyll yn stond mor hir ar frigyn simsan ynghanol yr afon heb golli cydbwysedd, na diddordeb chwaith yn y byd o'i gwmpas.
Does 'na ddim brys, dim targed camau, dim ots. Weithiau 'da ni'n mynd drwy'r coed, weithiau i lawr at y dŵr, drwy'r mwd, weithiau heibio olion diwydiannol hen Gamlas Morgannwg, weithiau heibio Pwmp Dŵr Melingriffith, weithiau i fyny i Gastell Coch heibio'r graffiti lliwgar o dan yr M4, weithiau ar goll ac yn ôl.
Mae Llwybr Taf yn ddihangfa ryfeddol ynghanol y brifddinas felly diolch i ti Mili am fynd â fi am dro.
Hefyd o ddiddordeb: