Covid: Galw am fwy o eglurder i fyfyrwyr prifysgol

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Myfyrwyr yng NghaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Prifysgolion yng Nghymru fydd yn rhoi gwybod i fyfyrwyr pryd maent yn cael dychwelyd

Mae yna alwadau am fwy o eglurder a sicrwydd i fyfyrwyr prifysgol yng Nghymru, ar ôl i fyfyrwyr yn Lloegr gael gwybod nad ydynt i fod i ddychwelyd tan ganol Chwefror.

Dywed un uwch ddarlithydd ym Mhrifysgol Bangor fod angen i Lywodraeth Cymru roi mwy o wybodaeth ynglŷn â'r bwriad i fyfyrwyr yng Nghymru ddychwelyd fesul cam.

Yn ôl Dr Dyfrig Jones fe allai'r cynlluniau presennol fod â goblygiadau difrifol i iechyd cyhoeddus.

Yn ôl canllawiau Llywodraeth Cymru fe ddylai myfyrwyr yng Nghymru ond dychwelyd pan maent yn cael gwybod gan eu prifysgolion y dylid gwneud hynny.

Mae myfyrwyr sy'n astudio yn Lloegr wedi cael cyngor i aros yn eu hunfan am y tro ac os yn bosib i ddechrau'r tymor ar-lein "tan o leiaf ganol Chwefror".

Ddydd Llun clywodd ysgolion a cholegau Cymru y bydd gwersi yn symud ar-lein tan o leiaf 18 Ionawr.

Dywedodd Suzy Davies AS, llefarydd addysg y Ceidwadwyr Cymreig, fod angen mwy o eglurder ac mae wedi galw ar y gweinidog addysg i ddweud sut mae hyn yn effeithio ar fyfyrwyr prifysgol.

"Mae penderfyniadau a wnaed cyn y Nadolig nawr wedi eu newid ar gyfer ysgolion," meddai, "ac o ganlyniadau i newidiadau sy'n digwydd i brifysgolion yn Lloegr a'r Alban, mae myfyrwyr sy'n astudio yng Nghymru yn gofyn beth mae hyn yn ei olygu iddyn nhw."

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Dr Dyfrig Jones fod angen mwy o wybodaeth

Mae Dr Jones, hefyd yn gofyn am "eglurder ar frys" oherwydd y newidiadau yn Lloegr.

"Beth sy'n anodd ei ddeall yng Nghymru, ydy beth yw'r sefyllfa yma? Does yna'r un cyhoeddiad wedi bod gan Lywodraeth Cymru," meddai.

"Mae'n sefyllfa gwbl wirion a gallai fod â goblygiadau iechyd enfawr pe na bai pethau'n newid."

'Rydym wedi talu'

Ond mae rhai myfyrwyr wedi mynegi safbwynt gwahanol gan ddadlau pe bai yna ddigon o ddarpariaeth profion Covid-19 ar gael wrth ddychwelyd, yna bod hawl iddynt ddychwelyd.

"Rwy'n meddwl ei bod o'n bwysig oherwydd rydym wedi talu," meddai Tegwen Bruce-Deans sy'n fyfyrwraig ym Mangor.

"Gallwn fod o amgylch pobl o'r un oed â ni a bydd hwnna yn neis ar ôl i bawb ddod nôl yn ddiogel.

"Mae'n bwysig i gael rhywle diogel i wneud ein gwaith ac i geisio byw bywyd mor normal â phosib."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae myfyrwyr sy'n astudio dros y ffin hefyd wedi codi cwestiynau am y sefyllfa.

"'Di o ddim yn deg o gwbl ein bod yn gorfod talu gymaint am rywbeth nad ydym yn gallu ei ddefnyddio," meddai Dafydd Evans, sy'n fyfyriwr ym Mhrifysgol John Moores, Lerpwl.

Mae BBC Cymru yn deall fod cynrychiolwyr prifysgolion Cymru wedi cwrdd â'r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams ond na chafwyd penderfyniad ynglŷn â myfyrwyr yng Nghymru.

Y cyngor o hyd yw y gallai myfyrwyr ddychwelyd i'w prifysgolion pan fyddant yn cael neges i wneud hynny.

Ymateb prifysgolion

Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Bangor: "Mae'r rheolau i brifysgolion yng Nghymru ynglŷn â myfyrwyr yn dychwelyd yn raddol trwy gydol mis Ionawr yn ddigyfnewid ar hyn o bryd.

"Rydym wedi gofyn i'n myfyrwyr ddychwelyd i'w cyfeiriad yn ystod y tymor mor agos â phosib at eu sesiwn wyneb yn wyneb gyntaf ar y campws, gan ganiatáu amser ar gyfer profion cyn y sesiwn hwnnw.

"Dylai myfyrwyr blaenoriaethu cael prawf ar eu dychweliad. Er mwyn lleihau'r risg o achosion yn y brifysgol, rydym yn gofyn i bob myfyriwr gael dau brawf, a chael cyn lleied â phosib o gyswllt â phobl eraill rhwng y ddau brawf.

"Mae hyn yn golygu gweld cyn lleied o bobl â phosib a mynd allan am resymau hanfodol yn unig, megis i gael gofal meddygol neu i wneud ymarfer corff.

"Os bydd rheolau Llywodraeth Cymru yn newid, byddwn yn anfon gwybodaeth am unrhyw newidiadau at ein myfyrwyr trwy e-bost."

Dywedodd Prifysgol Abertawe eu bod yn ymwybodol fod yna gyfarfodydd yn cael eu cynnal rhwng Llywodraeth Cymru a'r prifysgolion ac y byddant yn rhoi gwybod pe bai'r sefyllfa yn newid.