Fideo o Gymru'n cael ei wylio gan filoedd yn Hwngari
- Cyhoeddwyd
Mae fideo sy'n dangos y gorau o dref fechan yn y canolbarth wedi dod yn annisgwyl o boblogaidd yn Hwngari.
Mae gan Drefaldwyn ym Mhowys gysylltiadau llenyddol gyda Hwngari oherwydd baled gan y bardd János Arany 160 mlynedd yn ôl o'r enw A Walesi Bárdok (Beirdd Cymru), ac mae nifer o blant ysgol Hwngari wedi dysgu canu'r faled.
Fe wnaeth dros 30 o Hwngariaid greu llythyr fideo i Gymru o'r enw "Gadewch i ni godi pontydd".
Mae'r ateb o Gymru yn rhyw fath o lythyr caru sydd wedi cael ei wylio mwy na hanner miliwn o weithiau ar y we, ac wedi ymddangos ar deledu a radio yn Hwngari.
Yn y fideo mae disgyblion Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru, Trefaldwyn, maer y dref a chyn-feiri, cynghorwyr a pherchnogion busnes.
Mae rhai yn canu tra bod eraill wedi dysgu rhywfaint o Hwngareg yn arbennig i'r achlysur.
Dywedodd Jill Kibble o gyngor tref Trefaldwyn: "Mae gan Drefaldwyn gysylltiad diddorol gyda Hwngari, ac mae'n wych gwybod bod cenedlaethau o Hwngariaid wedi dysgu enw ein tref fechan yn yr ysgol.
"Pan glywon ni am neges fideo hyfryd Magyar Cymru dros yr haf, roedden ni'n gwybod fod rhaid ymateb. Er gwaethaf cyfnod heriol, daeth y prosiect fideo i fodolaeth er mwyn rhannu ein tref hyfryd gyda phobl Hwngari."
Cafodd fideo Hwngari ei wneud ym mhentref Kunágota, sy'n cael ei ystyried y pentref mwyaf Cymreig oherwydd traddodiad o gynnal cyngherddau Cymraeg/Hwngareg yno.
Yn y fideo mae plant o Kunágota, cantorion opera a gwerin ac addysgwyr.
Sefydlydd Magyar Cymru yw Balint Brunner, ac ef oedd cynhyrchydd fideo Hwngari.
Dywedodd: "Diolch i'r faled enwog, mae Trefaldwyn efallai'n fwy adnabyddus yn Hwngari na Chaerdydd neu unrhyw ddinas arall yng Nghymru.
"Er hynny, roedd yn syndod hyfryd dysgu faint y mae'r trigolion yno yn gwerthfawrogi'r cysylltiad gyda Hwngari bell.
"Mae fideo Trefaldwyn wedi dod yn boblogaidd yn Budapest a thu hwnt, gan fod y prif gyfryngau yma wedi adrodd am y weithred hyfryd.
"Ry'n ni hefyd yn cael ymholiadau gan wyliau gwerin sy'n ymddiddori yn niwylliant Cymru sydd am i ni godi pontydd pellach rhwng Hwngari a'r dref."
Mae A Walesi Bárdok yn adrodd hanes lladdfa mewn gloddest yng Nghastell Trefaldwyn gan y brenin Edward I wedi i'r beirdd yno wrthod moesymgrymu iddo fel concwerwr.
Ysgrifennodd János Arany y penillion wedi iddo wrthod ysgrifennu cerdd i ddathlu'r Ymerawdwr Franz Josef o Awstria yn dilyn methiant chwyldro 1848 yn ei erbyn.
Mae cynlluniau eraill i ddod â diwylliant Hwngari i Drefaldwyn pan fydd cyfyngiadau coronafeirws wedi'u llacio, gan gynnwys "Diwrnod Hwngari" gyda cherddorion ifanc o ysgol fiolín Kodály yn Sir Gaerfyrddin, a bydd cofeb barhaol hefyd yn cael ei gosod yn y dref i Arany.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd7 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd7 Chwefror 2020