Merch 10 oed â thiwmor ar ei hymennydd wedi marw

  • Cyhoeddwyd
Eva WilliamsFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Eva ei diagnosis ar ddydd Calan, 2020

Mae merch 10 oed o Wrecsam oedd angen teithio i'r Unol Daleithiau am driniaeth arloesol ar diwmor ar ei hymennydd wedi marw.

Llwyddodd teulu Eva Williams i godi £250,000 i fod yn rhan o dreial newydd yn America.

Ond doedd dim modd iddi deithio oherwydd cyfyngiadau coronafeirws.

Ar ddechrau 2020 cafodd Eva ddiagnosis o gyflwr DIPG, a bu farw ddydd Gwener gyda'i theulu o'i hamgylch.

'Torcalonnus'

Dywedodd ei thad, Paul Slapa: "Dros yr wythnos ddiwethaf roedd Eva wedi colli'r gallu i siarad, bwyta a llyncu, ac mae hi wedi dioddef yn fwy nag y dylai unrhyw blentyn.

"Mae ei gweld hi'n brwydro pob dydd wedi bod yn dorcalonnus.

"Mae Eva yn ysbrydoliaeth i gymaint - yn enwedig i mi - a dydw i ddim yn gallu dychmygu sut y byddwn ni'n symud ymlaen."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Eva wedi bod yn derbyn radiotherapi mewn ymdrech i leihau'r tiwmor

Wedi i Eva gael ei diagnosis roedd hi wedi bod yn derbyn triniaeth radiotherapi i geisio lleihau'r tiwmor.

Fe wnaeth ei theulu ddechrau codi arian er mwyn ceisio cael lle ar driniaeth arloesol yn yr Unol Daleithiau, gan lwyddo i godi £250,000 o fewn tair wythnos.

Roedden nhw i fod i deithio i Efrog Newydd ym mis Ebrill cyn i gyfyngiadau ar deithio olygu nad oedd modd iddi gymryd rhan yn y treial.

Pynciau cysylltiedig