Cynllun £50m i droi Castell Cyfarthfa yn ganolfan dreftadaeth
- Cyhoeddwyd
Fe allai Castell Cyfarthfa ym Merthyr Tudful gael ei throi'n amgueddfa dreftadaeth a pharc cyhoeddus, gan ddenu dros hanner miliwn o ymwelwyr bob blwyddyn, meddai adroddiad.
Byddai'r prosiect 20 mlynedd yn gweld buddsoddiad o £50m, gyda'r bwriad o greu canolfan dwristiaeth fyddai'n dathlu hanes yr ardal.
Byddai'n cynnwys dyblu'r safle, adnewyddu'r castell a chreu canolfan addysg.
Mae'r cynlluniau wedi cael eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru ar ôl cael eu comisiynu gan Gyngor Sir Merthyr Tudful.
Mae'r adroddiad yn nodi cynllun tair rhan ar gyfer y castell a "Pharc Cyfarthfa Fawr" a fydd yn "dathlu hanes unigryw Merthyr Tudful, yn dathlu ac yn iacháu'r amgylchedd naturiol i ddarparu lleoliad hyfryd ar gyfer hamdden, addysg a datblygiad gwyddonol, a chreu injan creadigrwydd a all gofleidio'r gymuned gyfan".
Yn ôl Geraint Talfan Davies, Cadeirydd Sefydliad Cyfarthfa, mae'n bwysig cydnabod pwysigrwydd Merthyr Tudful yn y chwyldro diwydiannol.
"Dyma lle sefydlwyd pwysigrwydd Cymru yn y chwyldro diwydiannol, ac mae eisiau i ni adlewyrchu'r hanes hynny greu sefydliad o safon wirioneddol genedlaethol a rhyngwladol, i ddathlu'r hanes yma", meddai, "a hefyd i ddathlu a gwella amgylchedd y lle."
"Mae'r castell yma wedi ei osod mewn parc bendigedig, bron i 200 o erwau, ac mae modd ehangu'r parc yna i gynnwys dwy ochr y cwm."
Yn ôl y sefydliad mae'r datblygiad "sylweddol" yn cynnig cyfle i 70 prosiect posib, gan gynnwys achub y ffwrneisi 200 oed i'r gorllewin o Afon Taf a chreu "Ffordd Haearn" newydd - rhodfa lefel uchel sy'n cysylltu'r castell a'r ffwrneisi, i adleisio'r draphont ddŵr o'r 19eg Ganrif sydd eisoes uwchlaw'r dyffryn
Mae cynlluniau eraill yn cynnwys "Llwybr Gwydr" trwy'r parc, datblygu adeiladau Fferm Pandy gyferbyn, a gardd lysiau gymunedol wyth erw mewn maint.
"Ar hyn o bryd, beth sydd gyda chi'n y Castell ydy amgueddfa leol, sy'n gwneud gwaith da, ond sy'n fyr iawn o adnoddau", meddai Mr Talfan Davies, "a be 'da ni eisiau ei wneud ydy ei droi'n amgueddfa wirioneddol genedlaethol o safon rhyngwladol ac fe fydd modd denu cymaint mwy o ymwelwyr."
"Ar y funud mae rhyw 60,000 o ymwelwyr y flwyddyn - mi ddylai fod modd i godi hynny i dros 300,000. Felly mae modd gwedd-newid pwysigrwydd Castell Cyfarthfa, pwysigrwydd i'r diwydiant twristiaeth yn ogystal ag i'r gymuned leol."
Yn ôl y sefydliad bydd yr amgueddfa'n adlewyrchu hanes yr oes ddiwydiannol, a'r diwydiannau a oedd i'w cael yn yr ardal, yn ogystal â hanes y gymdeithas ei hun wrth i Ferthyr Tudful ddatblygu drwy'r 19eg Ganrif i fod yn un o brif ganolfannau diwydiannol y byd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Mai 2018
- Cyhoeddwyd17 Tachwedd 2011