Onid yw cyfenwau yn ddifyr ac amrywiol?

  • Cyhoeddwyd
Fflur Dafydd a Menna Elfyn, Dafydd Iwan a Hywel Gwynfryn

"Dwi erioed wedi clywed y cyfenw yna o'r blaen," yw geiriau sawl un wrth i mi geisio ei sillafu am y canfed tro ac mae'n debyg ei fod e'n unigryw. Ond nid dyna oedd y bwriad! Mae'n gyfuniad o ddau gyfenw - cyfenwau dau ddyn yr ydw i wedi'u priodi!

Rwy' wedi cael fy meirniadu yn gyson gan ffrindiau ffeministaidd am gymryd enw fy ngwŷr ond 'dyw'r sefyllfa ddim wastad yn ddu a gwyn.

Pan briodais i â Henry Down, roeddwn newydd gael gwybod mai wythnosau oedd ganddo i fyw a gan bod gennym ferch fach â'r cyfenw (nid y cyfenw gorau yn y byd!) dyma newid i fod yn gwmni iddi hi.

Ymhen rhai blynyddoedd dyma briodi eto ac mi oedd hi'n teimlo braidd yn rhyfedd cadw enw fy niweddar ŵr yn unig ond eto doeddwn ddim am ei golli ac felly dyna ffurfio Down-Roberts.

Ffynhonnell y llun, Sara down-roberts
Disgrifiad o’r llun,

Sara a'i merch, Gwen: "'Dyw'r sefyllfa ddim wastad yn ddu a gwyn."

'Rhy hir i'r Radio Times!'

Ond onid yw cyfenwau yn ddiddorol a bellach mor amrywiol? Mae nifer o ferched (ond nid cymaint â'r disgwyl efallai) yn dewis peidio newid eu cyfenw, rhai yn gyfuniad o ddau gyfenw - fel arfer y ferch yn cadw ei henw morwynol ond yn cymryd un ei gŵr hefyd, rhai yn defnyddio dau enw priod ac eraill yn defnyddio enw ardal neu gyfenw gwbl wahanol.

"Hywel Gwynfryn Evans yw fy enw i llawn i," medd y cyflwynydd poblogaidd, "ond doedd dim lle i'r fath enw yn ngholofn y Radio Times pan ddechreuais gyflwyno a dyma gadw y ddau enw priod ond mae'r Evans yn parhau ar ddogfennau swyddogol."

"Dafydd Iwan Jones oedd fy enw i yn yr ysgol ond wedi dechrau canu yn y coleg a chael sieciau yn daladwy i Dafydd Iwan dyma newid yr enw am byth," meddai'r canwr adnabyddus.

"Ond dim ond Dafydd Iwan sydd ar fy nhystysgrif geni yn digwydd bod - er bod y dystysgrif yn nodi mai Gerallt Jones oedd enw fy nhad."

'Enwi ar ôl dau dywysog Gwynedd'

"Pan briodais i roeddwn i'n awyddus i gadw fy nghyfenw, gan 'mod i'n ei hoffi a chan 'mod i wedi dechrau cyhoeddi dan yr enw," medd yr Athro Ann Parry Owen.

"Ond wrth gwrs pan gaethon ni'r plant, roedd angen penderfynu ai Hawke fydden nhw, fel eu tad, Parry Owen, fel fi, cyfuniad o'r ddau, neu rywbeth hollol wahanol. Dewisom ni Llywelyn - Llewelyn oedd enw fy nhaid, ond hefyd ar y pryd roeddwn i'n gweithio ar farddoniaeth i dywysogion Gwynedd. Felly cafodd ein plentyn cyntaf, Owain Llywelyn, ei enwi ar ôl dau dywysog - Owain Gwynedd a Llywelyn Fawr!"

Ffynhonnell y llun, Carwyn Tywyn
Disgrifiad o’r llun,

Mae Carwyn wedi dewis y cyfenw Tywyn iddo fe a'i blant

"Mynd trwy lyfr Heini Gruffudd ro'n i ar enwau plant a gweld yr enw Tywyn," medd y cerddor Carwyn Tywyn ac felly dyma benderfynu roi'r enw hwnnw fel cyfenw i'n plant gan ein bod ni hefyd yn byw ym Mhorth Tywyn. Newidiais i fy enw i Carwyn Fowler Tywyn ond mae fy ngwraig wedi aros yn Jones."

Dull yr hen Gymry oedd defnyddio enw bedydd y tad fel cyfenw ac ynghanol yr ugeinfed ganrif fe ddaeth hynny yn fwy poblogaidd gan roi i ni enwau fel Myrddin ap Dafydd. Tua'r adeg yma hefyd fe ddaeth hi'n fwy ffasiynol i Gymreigio cyfenwau a chafwyd Siôn, Dafydd, Ifan, Gruffudd, Gwilym, Rhys ayb.

'Dechrau gwael' i Fflur Dafydd?

"Fe gymeres enw fy nhad - fel roedd pobl yn ei wneud yn y chwedegau - pan oeddwn i tua 15 oed a phenderfynu unwaith yr awn i'r coleg mai dyna fyddai fy enw," medd y bardd Menna Elfyn.

"Yn yr ysgol - roedd pobl yn tueddu i roi Jones ar ôl yr Elfyn o hyd ac o hyd! Chware teg i raddau achos ar fy nhystysgrif geni - rwy'n Menna Eirlys Jones! Newides i mohono yn swyddogol achos do'wn i ddim yn credu y dylwn dalu am y fraint!

"Yn fy 30au, roedd ambell ddyn yn ceisio fy meirniadu am ymladd dros hawliau merched ond yn defnyddio enw fy nhad fel cyfenw! Pan briodes - roedd Wynfford, a oedd yn fwy o un dros hawliau merched na mi yn y cyfnod hwnnw, yn bendant na ddylwn bennu lan yn 'James'! Ac felly y bu.

Ffynhonnell y llun, Fflur Dafydd
Disgrifiad o’r llun,

'What a bad start in life you're giving her?' medd rywun wrth Menna Elfyn wrth iddi roi'r cyfenw Dafydd i Fflur!

"Bu ffrae pan aned Fflur Dafydd gyda rhai o'r ysbyty yn gwrthod â deall nad oeddwn am gynnwys James ar ôl ei henw ond Dafydd oedd enw cyntaf Wynfford ac felly dyna'r cyfenw a roesom. "What a bad start in life you're giving her?" meddai un wrthyf.

"Yna pan ddaeth Meilyr i'r byd - penderfynwyd ar gyfenw arall iddo fe. Gan ein bod yn byw yng Ngheredigion, Ceredig a gafodd fel cyfenw.

"O ddarllen ar draws y byd mae ambell un yn rhyfeddu at fy enw. 'It's like something from Tolkien' mae un wedi dweud wrthyf. Un arall yn credu bod yr Elfyn yn perthyn i elfin, ac yn credu mod i bownd o fod yn Wyddeles!"

Disgrifiad o’r llun,

"Rwy wedi difaru newid fy enw i ddweud y gwir," medd Pedr ap Llwyd

Peter Couture oedd enw gwreiddiol Pedr ap Llwyd, y Llyfrgellydd Cenedlaethol ond er mwyn ei Gymreigio mynd at linach ei fam a wnaeth Pedr.

"Roedd mam yn un o ddisgynyddion Reginald de Gray, prif elyn Owain Glyndŵr, ac o fanno y daeth yr ap Llwyd ond erbyn hyn rwyf wedi 'difaru a theimlo bo fi wedi gwadu fy nhad - gan i mi ganfod yn ddiweddarach ei fod yn dod o deulu egwyddorol nodedig," medd Mr ap Llwyd.

'George yn fwy ecsotig'

Gall cyfenw fod yn broblem wedi ysgariad ond "dewis cadw enw fy ngŵr wnes i er bo ni wedi gwahanu," medd Beti George.

"Beti Rees o'n i a na'th e'm croesi fy meddwl i aros yn Rees - ro'dd George lawer iawn yn fwy ecsotig ac erbyn i ni wahanu ro'n i wedi dechrau darlledu. Briodais i ddim o David a fydden i ddim wedi cymryd yr enw Parry-Jones - ond petawn i wedi ailbriodi efallai y byddai wedi bod braidd yn rhyfedd arddel cyfenw fy ngŵr cyntaf."

Ffynhonnell y llun, Seiriol Dawes-Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Seiriol a Jamie yn dewis Dawes-Hughes gan fod Hughes-Dawes yn swnio fel 'Huge Doors'

"Roeddwn i'n awyddus i gael cyfenw ni'n dau," medd Seiriol Dawes-Hughes a briododd ei gymar Jamie yn 2018.

"Dwi ddim wedi cofrestru'r cyfenw yn swyddogol eto ond doeddwn ni ddim yn teimlo ein bod yn gallu cael Hughes-Dawes gan ei fod yn swnio fel 'Huge Doors," meddai.

Mae nifer llai o ddynion wedi dewis cymryd enw'r wraig. "Roedd e'n bwysig i mi," medd yr ysgolhaig Dr Rhys Kaminski-Jones sydd wedi ychwanegu cyfenw Pwyleg ei wraig at y Jones.

"Roedd y cydraddoldeb yn bwysig i ni'n dau. Roedd e'n benderfyniad naturiol a ddim yn teimlo'n rhyfedd o gwbl ar ôl arfer y peth am ychydig!"

Ydi mae cyfenwau yn hynod ddifyr! Ond os ydych chi fel fi ddim wedi mynd ati i newid amrywiol gyfrifon banc na chofrestri meddygol mae'n gallu bod yn hynod gymhleth - rhaid cofio Down-Roberts yn un banc, Morgan yn un arall a Down yn y feddygfa!

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig