Sut i helpu ffrindiau sy'n galaru mewn pandemig?
- Cyhoeddwyd
Dydi gwybod beth i'w ddweud wrth berson sydd wedi colli rhywun annwyl ddim yn rhwydd ar unrhyw adeg. Ond yn ystod pandemig, pan nad oes modd cynnal defodau arferol marwolaeth, mae gwybod sut i gydymdeimlo yn anoddach fyth. Gwenfair Griffith sy'n sgrifennu am ei phrofiad hi.
Galaru mewn pandemig
Bu fy mam i farw ar y 9fed o Awst wedi salwch hir, a dim ond teulu a ffrindiau agos iawn oedd yn gallu dod i'r angladd. Ers hynny, mae'r broses o alaru mewn pandemig wedi bod yn anodd - i fi fel miloedd o bobl eraill.
"Dan ni'n trio ffeindio ffyrdd newydd o alaru yng nghyfnod Covid," medd y cwnselydd Gwen Ellis.
"Dan ni gyd yn dioddef o rhyw fath o drauma cronig ac mae hwnna'n neud i ni gael teimlad o golled. Dan ni ddim efo grym a mae 'na adegau o or-bryder sy'n gallu bod yn llethol ac mae'r profiad o farw yn wahanol i bawb."
Dan ni ddim yn dda iawn am handlo marwolaeth - ond beth am 'mae'n ddrwg gen i glywed am dy golled'.
A dyna sydd yn anodd - sut i gydymdeimlo pan fo pawb yn ymdopi â marwolaeth mewn ffyrdd gwahanol. I fi - ffrind agos yn dod yn ddi-rybudd â swper twym i'r stepen drws, siocled du i fi (fy ffefryn) a loshin i'r plant oedd un o'r gweithredoedd mwyaf annwyl.
Help ymarferol
Tra bod cyfyngiadau cymdeithasol mor llym, mae mor anodd cynnig cymorth ymarferol i unrhywun. Yn ôl yr arbenigwyr galar, Cruse, mae 'na wahaniaeth rhwng dweud "rho wybod beth alla i neud i helpu" a chynnig gwneud rhywbeth penodol, fel casglu rhywbeth oedd wedi'i anghofio oddi ar y rhestr siopa.
Roedd ffrindiau Elin Mannion wedi dechrau grwp WhatsApp 'Helpu Elin' adeg marwolaeth ei mam ym mis Medi.
Byddai casseroles, cacennau, neu bagiau bach o bethau i'w helpu i gofio ei mam, neu i'w helpu i ymlacio yn ymddangos ar fat y drws ffrynt.
Roedd pob tusw o flodau a ddeuai i'r tŷ yn ei hatgoffa gymaint o gefnogaeth oedd ganddi ac roedd hi'n ddiolchgar am bob un. Ond, iddi hi, fel fi, roedd cael mwy o flodau nag o fasys yn her.
"Ces i dros 30 planhigyn neu bwnsh o flodau," medd Elin wrth egluro ei bod hi nawr yn anfon fâs yn ogystal â blodau at bobl sy'n galaru. "Ro'n i'n teimlo mai'r cyfan ro'n ni'n ei wneud oedd chwilio am fâs bach arall a threfnu blodau! Roedd fy nghymdogion i gyd wedi rhoi prosecco i fi ar ôl sylwi cymaint o flodau oedd yn dod i'r tŷ!"
"Ti'n gorfod meddwl am y person," medd Gwen Ellis wrth ystyried beth allai helpu codi calon galarwr.
"Ti'n gorfod meddwl beth sy'n addas ar eu cyfer nhw ac mae'n dibynnu pa mor dda ti'n nabod rhywun hefyd."
Pwysigrwydd gwrando
Mae Cruse yn pwysleisio mai rhoi cyfle i berson sy'n galaru i siarad am eu teimladau yw un o'r pethau mwyaf caredig y gall ffrind ei wneud. Yn syth wedi'r farwolaeth maen nhw'n aml eisiau trafod beth sydd wedi digwydd. Wrth i amser basio, efallai y byddan nhw eisiau siarad am y person fu farw a rhannu atgofion.
Pedwar mis wedi ei cholled, mae hel atgofion gyda rhai o ffrindiau gorau ei mam yn help mawr i Elin Mannion.
"Ma' nhw'n gweld ishe Mam yn fawr hefyd," meddai. "Dwi'n siarad yn reit aml gyda sawl un ohonyn nhw - ac ma' hwnna'n helpu fi a nhw dwi'n meddwl. Fy hoff beth i yw'r negeseuon neu luniau neis o Mam - yr atgofion yn hytrach na'r cydymdeimlad erbyn hyn."
Beth i ddweud wrth gydymdeimlo?
Mae gan yr arbenigwyr galar, Cruse, dudalen gyfan o awgrymiadau am beth i ddweud wrth rywun sy'n galaru.
Ffeindio'r geiriau i gydymdeimlo sy'n gallu bod yr her fwyaf.
Ond yn ôl Gwen Ellis, mae cyfaddef nad ydych chi'n gwybod beth i ddweud yn well na dweud dim o gwbl.
"Dwi'n meddwl bod o'n bwysig iawn peidio osgoi y cyswllt yna," medd Gwen.
"Mae pobl yn gallu teimlo'n ofnadwy o unig a bod pobl ddim isho siarad efo nhw am bo nhw ddim yn gwbod beth i ddeud. Dan ni ddim yn dda iawn am handlo marwolaeth - ond beth am 'mae'n ddrwg gen i glywed am dy golled. Dwi'n gwbod bod o'n anodd, sgen i ddim geiriau o gysur ond dwi'n meddwl amdanach di.'"
Gobaith Gwen yw y bydd y tabŵ am siarad am farwolaeth yn diflannu yn y pandemig, fel y mae'r tabŵ am drafod iechyd meddwl yn diflannu.
Cydymdeimlo arlein
I Elen Mai Nefydd, roedd negeseuon o gydymdeimlad ar-lein yn help garw pan fu farw ei thad ym mis Awst, y gweinidog adnabyddus, y parchedig ddoctor Elfed ap Nefydd Roberts.
"Mae'n syndod faint o negeseuon nes i dderbyn ar-lein - cannoedd. A nes i ffeindio rheiny yn lot o gysur," meddai.
Mae'r profiad o alaru yn ystod pandemig wedi bod yn wahanol iawn i 10 mlynedd nôl pan gollodd ei mam: "Roedd y negeseuon ar-lein ar Facebook a Messenger wedi dod â mwy o gysur a rhoi siawns i fi i brosesu pethau yn well na phe tasen i'n gweld pobl wyneb yn wyneb."
I Elen, er bod Twitter fel arfer yn gyfrif i drafod materion proffesiynol, roedd teyrngedau gan gysylltiadau i'w thad nad oedd hi'n eu hadnabod hefyd yn hyfryd.
Eto, y trysorau mwyaf efallai oedd y llythyrau. "Y llythyrau oedd yn arbennig," meddai. "Ma hwnna'n cymryd lot o ymdrech a meddwl i fod isho rhoi rhywbeth ar bapur i rywun. Mae'n hyfryd a bod yn onest."
Sut i ymdopi heb angladd arferol?
Fel arfer, mae angladd yn rhan bwysig o'r broses alaru, ac yn gyfle i ddathlu bywyd yr ymadawedig. Dim ond 30 oedd yn gallu dod i angladd fy mam i a 22 oedd yn angladd tad Elen.
I ddechrau, roedd methu cynnal gwasanaeth mewn capel fel y bydden nhw wedi'i ddymuno yn anodd, ond roedd 'na fanteision hefyd.
Y llythyrau oedd yn arbennig. Ma hwnna'n cymryd lot o ymdrech a meddwl i fod isho rhoi rhywbeth ar bapur i rywun. Mae'n hyfryd a bod yn onest.
"Ma na rhywbeth am angladd cyhoeddus fel 'na sy'n rhoi rhywun o dan sbienddrych rhywsut, ti'n teimlo bod pawb yn gwylio ti," medd Elen. "Beth oedd yn neis am angladd bach, personol fel 'na oedd bod pawb yn gallu bod yn gymorth i'n gilydd a galaru yn normal a naturiol efo'n gilydd mewn awyrgylch glos."
Roedd ffrydio'r gwasanaeth i deulu a ffrindiau agos yn fodd i deimlo'n agos at bobl hyd yn oed o bellter. Bwriad y teulu yw cynnal gwasanaeth goffa pan fydd modd gwneud hynny unwaith eto.
I Elin Mannion, roedd y ffaith bod dros gant o bobl wedi dod i sefyll yn y stryd ar ddiwrnod yr angladd i roi teyrnged i'w mam yn golygu llawer iawn. Roedd cyfraniadau ariannol i gronfa er cof amdani hefyd yn codi calon y teulu.
Beth i ddisgwyl o ran galar?
I bawb, mae'r broses o alaru yn wahanol. Mae'n dibynnu ar amgylchiadau marwolaeth a natur y berthynas.
"Gall galar bara am amser hir iawn," medd Gwen Ellis."Mae'n broses o golled chi'n gorfod mynd drwyddo fo. Dyna'r ffordd ti'n gwella dy hun o'r galar, ond mae'n wahanol i bawb.
"Mae'n iawn i deimlo'n flin weithiau, mae dicter yn rhan o alar."
Mae Elin Mannion hefyd yn ymwybodol mor unigryw yw'r profiad i bawb: "Mae ein hemosiynau unigol ni hefyd yn amrywio o ddydd i ddydd, felly i fod yn deg, mae'n anodd iawn i ffrindiau a theulu wybod beth i ddweud a sut i helpu."
Ond i Elen, cadw cyswllt â phobl yw'r peth pwysicaf yn ystod y pandemig; neges fach i holi sut wyt ti - dim ots beth yw'r amgylchiadau.
"Yn aml iawn does na ddim byd fedrwn ni neud, ond mae jyst yn neis checio mewn ar eich gilydd," meddai.
Mae tonnau'n dod o hyd wrth gwrs, ond roedd pobi ei rysaits a pharhau ei thraddodiadau gyda fy meibion dros y Nadolig yn bleser mawr.
Wrth sgwennu hwn, mae'n chwe mis union ers marwolaeth fy mam i, ac mae'r penllanw anferth o alar bellach ar drai.
Mae tonnau'n dod o hyd wrth gwrs, ond roedd pobi ei rysaits a pharhau ei thraddodiadau gyda fy meibion dros y Nadolig yn bleser mawr. Pan nad oedd modd i deuluoedd fod gyda'i gilydd, roedd hi gyda ni wedi'r cyfan.
Mae gan Cruse linell yn cynnig cymorth am ddim i unrhyw sydd yn galaru - 0808 808 1677
Hefyd o ddiddordeb: