Galw am weithredu brys i atal llifogydd yn Aberteifi

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Llifogydd Aberteifi yn 2014
Disgrifiad o’r llun,

Llifogydd yn Aberteifi yn 2014

Mae cynghorwyr yn Aberteifi yn galw ar Gyfoeth Naturiol Cymru i weithredu ar frys eu cynllun sylweddol i atal llifogydd yn y dre'.

Saith mlynedd ers i drigolion lleol ddechrau ymgyrchu, maen nhw'n siomedig na fydd y gwaith o bosib yn dechrau am ddwy flynedd arall.

Mae disgwyl llanw uchel yn y dre' yn y dyddiau nesaf ac mae cyfyngiadau Covid yn achosi gofid pellach.

Yn 2014 achosodd llifogydd ddifrod sylweddol i gartrefi ac adeiladau mewn sawl stryd yng nghanol Aberteifi ond yn 2021 mae bagiau tywod yn dal i gael eu gosod yn rheolaidd ar y strydoedd.

Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru bod cynlluniau mawr fel hyn yn cymryd amser i'w gwireddu.

Ffynhonnell y llun, Phillipa Noble
Disgrifiad o’r llun,

Mae pobl yn parhau i roi bagiau tywod o flaen eu cartrefi saith mlynedd ers y llifogydd

Dywed y Cynghorydd Clive Davies, maer y dref, ei bod hi bellach yn bryd gweithredu.

"Ni'n gwybod am y broblem yma ers degawdau ac mae adleoli pobl yn mynd i fod yn anodd iawn yn ystod Covid," meddai.

"Dwi'n croesawu bod Dŵr Cymru wedi buddsoddi £4m ar gyfer gorsaf bwmpio a fydd yn symud y dŵr ond dyw hynna ddim yn ddigon i ateb y broblem i gyd - mae angen i Cyfoeth Naturiol Cymru wneud eu gwaith nhw.

"Maen nhw wedi dangos y cynlluniau i ni dros y blynydde a nawr mae eisiau eu gwthio nhw i 'neud y cynllun yma ar hyd y Teifi."

'Ni wedi dechrau gweiddi'

Mae'r cynghorydd sir sy'n cynrychioli'r dref, Catrin Miles yn galw ar Gyfoeth Naturiol Cymru i weithredu ar unwaith.

"Ar hyn o bryd ry'n wedi dod i'r pwynt lle ni wedi dechrau gweiddi. Ni'n gweld bod cynlluniau eraill yn mynd yn eu blaen mewn llefydd eraill," meddai.

"Ni wedi cael cynlluniau, a ma' jest eisiau bwrw mla'n â nhw nawr - felly ni mo'yn cael dyddiad pendant pryd mae'r gwaith yn gallu dechrau."

Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru eu bod yn gwerthfawrogi pwysigrwydd y cynllun hwn i bobl Aberteifi ond bod cynlluniau mawr fel hyn yn cymryd amser i'w gwireddu.

Y nod yw dechrau ar y gwaith adeiladu ddiwedd y flwyddyn nesaf neu yn 2023.

Covid yn broblem petai angen adleoli

Mae pryderon yn y dre' am lanw uchel yn y dyddiau nesaf a phe bai sefyllfa argyfyngus yn codi, mae cyfyngiadau'r cyfnod clo yn bryder pellach yn ôl y Cynghorydd Davies.

"Ddydd Gwener neu Sadwrn bydd llanw uchel yn dod mewn ac mae'r grŵp sy'n adleoli pobl yn pryderu am adleoli pobl," ychwanegodd.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed y Cynghorydd Catrin Miles bod Covid yn achosi mwy o bryder

Mae'r Cynghorydd Miles hefyd yn pryderu am les y trigolion lleol.

"Wy'n 'nabod sawl un sydd â chwdyn gyda nhw'n barod rhag ofn bo' nhw'n gorfod gadael y tŷ ond nawr, wrth gwrs, mae pryder ble maen nhw'n mynd i fynd," meddai.

"Mae'r ganolfan hamdden bellach yn ganolfan sy'n rhoi brechiadau Covid. Mae ysgoldy yr eglwys ar gael a dwi'n ffyddiog y byddai gwasanaethau Ceredigion yn dod at ei gilydd petai rhywbeth yn digwydd - i bawb mae e'n ofid."

Wrth ddarparu llety dros dro mewn argyfwng, mae cynghorau lleol yn dilyn canllaw'r llywodraeth, ac yn ôl llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru byddai angen dilyn canllaw Iechyd Cyhoeddus Cymru ar fesurau Covid-19 yn ystod cyfnod clo.

Yn Aberteifi, fel sawl ardal arall, gweithredu hynny'n ymarferol fyddai'r her.