Cynllun i godi adweithyddion niwclear ym Môn
- Cyhoeddwyd

Bwriad y cwmni yw codi adweithyddion bychain ar y safle
Fe allai adweithyddion niwclear bychain ynghyd â fferm wynt gael eu codi ar Ynys Môn pe bai cynlluniau cwmni ynni yn cael eu gwireddu.
Dywed Shearwater Energy mai eu bwriad yw codi'r safle newydd am lai na £8bn, gan ddechrau cynhyrchu trydan erbyn 2027.
Mae Shearwater wedi clustnodi safle yn Wylfa, ond ar safle gwahanol i un Pŵer Niwclear Horizon - lle mae'r cynllun i godi atomfa Wylfa Newydd wedi ei ohirio.
Mae Shearwater yn cydweithio ar y cynllun gyda chwmni NuScale o'r Unol Daleithiau, gyda'r bwriad i godi adweithyddion bychain mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig ac Iwerddon.
Dywedodd Siom Forster, cyfarwyddwr Shearwater Energy, fod y cwmni wedi mynd ati i lunio eu cynlluniau ar ôl i gwmni Hitachi benderfynu cefnu ar brosiect Wylfa Newydd ym mis Medi.
Yn ôl cynllun Shearwater, byddai'r safle yn Wylfa yn cynnwys 12 adweithydd gyda'r gallu i gynhyrchu 924 Megawatt - ynghyd â fferm wynt 1,000 MW.
Mae 1,000 MW yn ddigon i gyflenwi tua 300,000 o gartrefi.
Yn ogystal, fe fyddai'r safle yn cynhyrchu tri miliwn cilogram o nwy hydrogen, i'w ddefnyddio yn y sector drafnidiaeth.
Mae'r cwmni yn awyddus i godi safleoedd ar gyfer adweithyddion eraill, yn enwedig yr Alban ac Iwerddon.

Ym mis Medi, cefnodd cwmni Hitachi ar y cynllun gwerth £20bn i godi atomfa ar safle Wylfa Newydd
Dywed Mr Forster y byddai'n bedair blynedd o leiaf cyn gallai'r gwaith o adeiladu'r adweithyddion ym Môn ddechrau.
Ychwanegodd y byddai'r safle yn creu 300 o swyddi parhaol am 60 mlynedd.
Yn ôl ffigyrau'r cwmni, byddai'r gost o adeiladu'r safle 40% yn llai na safle niwclear confensiynol.
Ychwanegodd fod y cwmni yn hyderus y gallant gyflenwi trydan am bris "sy'n hynod gystadleuol o'i gymharu â'r hyn sy'n cael ei gynhyrchu gan orsafoedd nwy.
Dywedodd llefarydd ar ran Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Diwydiannol San Steffan eu bod yn ymwybodol o gynnig Shearwater.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd1 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd15 Medi 2020