Y DJ sy'n darlledu caneuon Cymraeg draw yn America

  • Cyhoeddwyd
Ed ReidFfynhonnell y llun, Ed Reid

Mae Ed Reid yn wreiddiol o Washington DC, ond bellach yn byw rhwng Wrecsam ac Arlington, Virginia.

Syrthiodd mewn cariad â Chymru â'r Gymraeg pan briododd ei wraig, Trish, sy'n dod o Fangor. Ond ag yntau heb allu dychwelyd i Gymru ers blwyddyn oherwydd y pandemig, mae wedi dod â blas o Gymru i Arlington gyda rhaglen radio wythnosol o ganeuon Cymraeg.

Cariad at Gymru, yr iaith a'i cherddoriaeth

Mae Ed wedi symud o amgylch y lle llawer yn ei fywyd, gan fyw ledled America, ac yn Lloegr. Ond pan ddaeth i Gymru daeth o hyd i ddiwylliant arbennig, ynghyd â gwraig.

"Nes i ddechrau dysgu Cymraeg yn Ninbych yn y ganolfan Dysgu Cymraeg yno, "eglurodd, "ac wedyn ar ôl symud i'r Rhyl, o'n i'n mynd i ddosbarth yn Y Fflint gyda tiwtor da iawn.

"'Naethon ni fyw dros Gymru, cyn symud i Wrecsam, ond roedd rhaid i mi symud i UDA i weithio yn Virginia ym maes cludiant cyhoeddus - mae Trish dal yn Wrecsam.

"Dwi wastad wedi cael diddordeb mewn cerddoriaeth sydd ddim mewn Saesneg neu yn Americanaidd. Ro'n i'n gwrando am gyfnod hir ar gerddoriaeth Ffrangeg, ac mae gen i ddiddordeb heddiw mewn cerddoriaeth o ddwyrain Ewrop hefyd.

"Felly, ar ôl symud i Gymru a dechrau dysgu Cymraeg, o'n i'n gwrando mwy a mwy ar gerddoriaeth Gymraeg - cerddoriaeth roc blaengar dwi'n credu ydi fy hoff fath o gerddoriaeth Gymraeg. Mae gen i gasgliad mawr o CDau o gerddoriaeth Cymraeg yn y tŷ yma a Wrecsam."

Ffynhonnell y llun, Ed Reid
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ed yn cynhyrchu a chyflwyno'i raglen radio o'i fflat yn Arlington

Rhaglen radio

Gyda chasgliad mor fawr o gerddoriaeth Gymraeg, beth sydd i'w wneud, felly, ond dechrau rhaglen radio?

"WERA ydi gorsaf radio cymunedol Arlington, wedi ei sefydlu yn 2015," meddai Ed, o'i gartref yn y ddinas. "Mae gan WERA lot o bobl fel fi yn gwneud rhaglenni gwahanol; rhaglen o gerddoriaeth Dwyrain Ewrop, cerddoriaeth glasurol, lot o raglenni siarad, rhaglenni cymunedol, rhaglenni cerddoriaeth roc hefyd - pob math.

"Yn anffodus, mae gan WERA broblemau ariannol gyda coronafeirws ar hyn o bryd, felly roedden nhw'n chwilio am raglenni newydd sbon i'w darlledu ar y radio.

"Felly penderfynais i wneud cais i ddechrau fy rhaglen fy hun am gerddoriaeth Gymraeg - ges i ateb yn syth, a rhai wythnosau wedyn, dechreuais i Caneuon Cymraeg Heddiw - Today's Welsh Music ar WERA LP 96.7FM yn Arlington bob nos Lun!

"Dylwn i fod yn gwneud y rhaglen yn fyw yn y stiwdio, ond yn anffodus ar hyn o bryd mae'r stiwdio ar gau, felly dy'n ni'n recordio popeth o gartref."

Disgrifiad,

Ed Reid yn chwarae Tŷ Gwydr a Heather Jones draw yn America!

Yn helpu drwy'r pandemig

Mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn anodd i bawb, felly mae Ed yn ddiolchgar fod ganddo brosiect, fel y rhaglen radio, i ganolbwyntio arno, yn enwedig gan fod unrhyw weithgaredd arall - fel mynd i'r sinema - yn amhosib ar hyn o bryd.

"Dydw i ddim wedi bod yn ôl adre i Gymru ers mis Ionawr diwethaf. Mae'n ddigon anodd ar hyn o bryd ond mae'n rhaid cario ymlaen ac mae'r rhaglen yn fy helpu i gario ymlaen - mae'n rhywbeth arall i neud, ac yn ffocws arall dros y cyfnod.

"Mae o'n lot o waith - mae'n rhaid i mi chwilio am gerddorion, dewis y cerddoriaeth - a dwi ddim jest yn rhoi cerddoriaeth 'mlaen, dwi'n gwneud lot o siarad rhwng y caneuon. Mae o'n lot o waith, ond dwi'n hapus efo hynny! Dwi wedi cael lot o werth o'i wneud."

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru

Diwrnod Miwsig Cymru

Felly, a hithau'n ddiwrnod i ni ddathlu cerddoriaeth Cymru ar 5 Chwefror, pa ganeuon sydd ar restr chwarae Ed?

  • Graffiti Cymraeg - Anweledig

  • Cara Fi - Frisbee

  • Pwy sy'n Hapus? - Jess

  • Tafod I Tafod - Yr Angen

  • Llif y Dôn - Rootlucies a'r Tystion

Mae ganddo dâst amrywiol iawn, meddai. "Dwi'n hoffi Y Niwl, Adwaith, a lot o grwpiau ifanc, ond hefyd grwpiau o'r gorffennol, fel Jess, Anweledig, Y Cyrff - felly cymysgedd!

"Hoffwn gael artistiaid a cherddorion Cymraeg i anfon eu caneuon ata i - mae'n help i mi chwarae cerddoriaeth newydd sbon."

Ac wrth gwrs gan fod popeth ar y we y dyddiau yma, nid dim ond yn ardal Arlington y gallwch chi wrando ar raglen Ed...

"Mae Radio Cymru yn stopio am hanner nos, ac mae fy rhaglen i yn dechrau am hanner nos, amser Cymru, felly ar ôl i Radio Cymru stopio nos Lun, gallwch chi wrando ar gerddoriaeth Gymraeg am awr arall!"

Gwrandewch ar Caneuon Cymraeg Heddiw - Today's Welsh Music yn fyw ar wefan WERA, dolen allanol neu wrando'n ôl ar bob pennod yma, dolen allanol

Hefyd o ddiddordeb: