Ann Jones AS wedi penderfynu peidio sefyll eleni

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Ann JonesFfynhonnell y llun, Ann Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ann Jones, sy'n cynrychioli Dyffryn Clwyd, wedi bod yn aelod ers 1999

Mae Dirprwy Lywydd y Senedd, Ann Jones, wedi cyhoeddi na fydd hi'n sefyll fel ymgeisydd yn etholiad y Senedd eleni.

Mae Ms Jones, sy'n 67 oed, wedi cynrychioli'r Blaid Lafur yn Nyffryn Clwyd ers 1999, ac yn 2007 hi oedd y gwleidydd cyntaf o'r meinciau cefn i gyflwyno deddfwriaeth newydd - sef sicrhau bod gan bob cartref newydd system chwistrellu.

Yn yr etholiad diwethaf 768 oedd ei mwyafrif gyda'r Ceidwadwyr yn ail. Y Ceidwadwr James Davies sy'n cynrychioli'r etholaeth yn San Steffan.

Wrth roi teyrnged iddi dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford: "Byddwn yn colli ei chyngor doeth yn y grŵp Llafur ond rwy'n gwybod y bydd hi'n parhau i wneud cyfraniad gwerthfawr i Gymru."

Pedwar aelod gwreiddiol fydd yn sefyll

Dywedodd Ann Jones: "Wedi 22 mlynedd, rwy' wedi penderfynu dewis peidio sefyll eto. Mae wedi bod yn benderfyniad anodd ond rwy'n teimlo bod yr amser wedi dod i mi gamu yn ôl a chaniatáu i ymgeisydd newydd gynrychioli Llafur Cymru.

"Rwy'n hynod o falch mai fi oedd yr aelod cyntaf o'r meinciau cefn i gyflwyno a phasio deddfwriaeth yng Nghymru.

"Fe wnaeth y ddeddfwriaeth sicrhau mai Cymru oedd y wlad gyntaf yn y byd i orfodi tai newydd i gael chwistrellwyr dŵr. Mae hyn yn gwneud cartrefi newydd yn fwy diogel ac yn arbed bywydau."

Yn gynharach eleni fe gafodd Ann Jones ei hanrhydeddu ag OBE yn rhestr anrhydeddau blwyddyn newydd y Frenhines.

Mae penderfyniad Ann Jones i beidio sefyll yn golygu mai dim ond pedwar o aelodau gwreiddiol y Senedd fydd yn sefyll eleni sef Lynne Neagle, John Griffiths, Jane Hutt, y tri o'r Blaid Lafur, ac Elin Jones o Blaid Cymru.