£2.25m i 'ddiogelu swyddi' yn y Llyfrgell Genedlaethol

  • Cyhoeddwyd
Llyfrgell Genedlaethol

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi pecyn ariannol gwerth £2.25m i "ddiogelu swyddi" yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Daw hynny wedi galwadau am gefnogaeth i'r sefydliad ble mae 30 o swyddi'n y fantol.

Dywedodd Llywydd y Llyfrgell ei bod yn croesawu'r cyhoeddiad.

Bydd Amgueddfa Cymru'n cael £3.95m hefyd, fydd yn cael ei rannu dros y flwyddyn ariannol bresennol a'r nesaf.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ei beirniadu yn ddiweddar am beidio â chynyddu ei chyllid grant ar gyfer y llyfrgell yn Aberystwyth.

Daeth cyhuddiad gan un ffynhonnell yn y sefydliad nad oedd gweinidogion yn "cydnabod pwysigrwydd ein sefydliadau diwylliannol".

Mae dwsinau o swyddi wedi eu colli yn y llyfrgell yn barod o fewn y blynyddoedd diwethaf ac mae'r toriadau arfaethedig diweddaraf wedi arwain at rybudd ei bod mewn perygl o droi'n "llyfrgell genedlaethol eilradd".

Mae deiseb yn galw am "gyllid teg" i'r llyfrgell wedi cael dros 14,000 o lofnodion.

Mae'r awdur Philip Pullman wedi dweud hefyd bod y sefydliad "mewn perygl ac angen ei achub", dolen allanol.

Disgrifiad o’r llun,

Andrew Green: 'Y Llyfrgell yw yr un o'r ychydig sefydliadau cenedlaethol sydd yn adnabyddus drwy y byd."

Roedd y llywodraeth wedi mynnu'n wreiddiol nad oedd arian ychwanegol ar gael.

Serch hynny dros y penwythnos dywedodd ei bod yn "edrych ar bob opsiwn sydd ar gael i ni i ddiogelu swyddi a bywoliaethau yn sefydliadau cenedlaethol Cymru".

Dywedodd cyn-brif Lyfrgellydd y sefydliad, Andrew Green, fod y datganiad "i'w groesawu yn fawr iawn".

'Adnabyddus drwy'r byd'

Ar raglen Dros Frecwast Radio Cymru dywedodd fod gwerth grant gan y llywodraeth wedi dirywio dros gyfnod o 10 mlynedd.

"Mae hynny wedi cael effaith ar y gwasanaethau ac yn amlwg ar y swyddi yn y Llyfrgell a heb y swyddi mae llyfrgell jyst yn rhywbeth marw mwy neu lai, a hefyd mae wedi effeithio ar enw a phroffil y Llyfrgell tu allan i Gymru.

"A rhaid cofio taw y Llyfrgell yw un o'r ychydig sefydliadau cenedlaethol sydd yn adnabyddus drwy'r byd.

"Mae pobl tramor yn edrych ar y Llyfrgell fel rhywbeth sydd yn bwysig iawn iawn ac yn arloesol iawn mewn sawl ffordd.

"Mae'n rhaid sefydlogi'r sefyllfa a neud yn siŵr bod yr arian yma yn parhau."

Disgrifiad o’r llun,

Bydd yr arian yn "cefnogi dau o'n sefydliadau diwylliannol pwysicaf" mewn cyfnod heriol, medd Dafydd Elis-Thomas

Wrth gyhoeddi'r arian ychwanegol, dywedodd y dirprwy weinidog dros ddiwylliant, chwaraeon a thwristiaeth, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas: "Mae'n bleser gen i gyhoeddi'r cyllid hwn a fydd yn diogelu ac yn cefnogi dau o'n sefydliadau diwylliannol pwysicaf yn ystod y cyfnod heriol iawn yma.

"Rydym wedi bod mewn cysylltiad parhaus â'r Llyfrgell a gydag Amgueddfa Cymru ers peth amser, ac rydym yn cymryd camau i ddiogelu swyddi ac i sicrhau cynaliadwyedd y cyrff hyn, sy'n gyfrifol am ofalu am ein casgliadau cenedlaethol ar ran pobl Cymru."

Cynllun 'newydd a chyffrous'

Yr wythnos diwethaf cyhoeddodd yr Arglwydd Elis-Thomas becyn cefnogaeth gwerth £17.7m ar gyfer byd y campau yng Nghymru i ymdopi ag effeithiau'r pandemig.

Mae'r gefnogaeth ar gyfer y llyfrgell yn cynnwys arian i ymateb i gasgliadau adolygiad diweddar o'r sefydliad, dolen allanol bod angen "sylw brys" ar ei chyllid ac nad oedd ei sefyllfa'n "gynaliadwy".

Dywedodd Llywydd y llyfrgell, Meri Huws: "Rwy'n croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i ddarparu'r cyllid ychwanegol hwn i'r llyfrgell, sy'n golygu y byddwn ni'n gallu mynd i'r afael â phrif argymhellion yr Adolygiad Teilwriedig yn ogystal â rhoi ein Cynllun Strategol newydd a chyffrous ar waith."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Amgueddfa Cymru hefyd wedi wynebu heriau, medd llywydd y sefydliad

Dywedodd Llywydd Amgueddfa Cymru, Roger Lewis: "Mae effaith Covid-19 wedi achosi heriau digynsail i lawer o sefydliadau a busnesau yng Nghymru, ac nid yw Amgueddfa Cymru yn eithriad.

"Mae'r arian ychwanegol hwn yn ein rhoi ni mewn sefyllfa gryfach i wynebu'r heriau hyn, gan sicrhau y gall Amgueddfa Cymru fynd ati'n ddiwyd i gefnogi'r gwaith o wella ac ailadeiladu cymunedau Cymru.

"Diolchwn yn ddiffuant i Lywodraeth Cymru am gydnabod a chefnogi rôl hanfodol ein sefydliadau diwylliannol wrth greu Cymru well i bawb."

Ymateb gwleidyddol

Dywedodd Siân Gwenllian, llefarydd Plaid Cymru ar ddiwylliant: "Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi gorfod ildio a cholli wyneb ar ôl ymgyrch genedlaethol gref yn cael ei harwain gan Blaid Cymru ac yn sgil dicter cynyddol y cyhoedd wrth i un o'n sefydliadau cenedlaethol gael ei esgeuluso a'i ddistyru.

"Fe ddylid fod wedi cyhoeddi'r arian yma nôl yn yr hydref yn lle ar yr unfed awr ar ddeg."

"Gwell hwyr na hwyrach" oedd ymateb y Ceidwadwyr Cymreig hefyd.

"Fe wnaeth tystiolaeth awdurdodol mewn adolygiad gafodd ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru ddod i 'r casgliad nad yw'r Llyfrgell Genedlaethol ar hyn o bryd yn derbyn y lefel o ariannu sydd ei angen er mwyn darparu ei wasanaethau craidd, " meddai David Melding, llefarydd y blaid ar ddiwylliant.

"Mae'n rhaid i hynny newid."

Pynciau cysylltiedig