Loren Dykes yn ymddeol o bêl-droed proffesiynol
- Cyhoeddwyd
Mae Loren Dykes wedi cyhoeddi ei hymddeoliad o bêl-droed proffesiynol.
Enillodd 105 o gapiau dros Gymru mewn gyrfa o 13 mlynedd, gan ennill ei 100fed cap yn erbyn y Weriniaeth Siec yn 2019.
Yn ystod ei gyrfa, bu'n cynrychioli Pontardawe, Llanelli, Prifysgol Met Caerdydd a Dinas Caerdydd cyn symud i Fryste yn nhymor 2008-09.
Gyda chlwb Bryste, chwaraeodd yn rownd derfynol Cwpan FA Merched Lloegr ddwywaith, ac yng Nghynghrair y Pencampwyr.
Mae'n ymddeol nawr er mwyn canolbwyntio ar hyfforddi.
Yn 2019, derbyniodd MBE am ei chyfraniad i bêl-droed merched yng Nghymru.
Dywedodd: "Bydd cynrychioli Cymru yn aros yn y cof am oes... roedd hi'n anrhydedd enfawr.
"Rwyf nawr yn gobeithio helpu'r twf ym mhêl-droed merched yng Nghymru trwy hyfforddi ac ysbrydoli'r dyfodol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd29 Mawrth 2019