Elusen yn galw am yr hawl i frechu pobl ddigartref

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
digartrefedd

Fe ddylai gweithwyr sy'n gweithio gyda'r digartref a phobl sy'n gaeth i gyffuriau gael yr hawl i frechu eu cleientiaid, yn ôl un elusen blaenllaw.

Dywed elusen Kaleidoscope bod nifer o'u defnyddwyr yn wynebu rhwystrau wrth geisio mynediad i ofal iechyd arferol y gwasanaeth iechyd.

Dywedodd Martin Blakebrough, prif weithredwr Kaleidoscope, y gallai elusennau chwarae rhan allweddol wrth sicrhau fod y bobl yma yn cael eu brechu.

Yn ôl Llywodraeth Cymru mae'r byrddau iechyd yn gweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau fod brechiadau yn cael eu cynnig i bob oedolyn, gan gynnwys y digartref.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Junior Samuels ei fod yn derbyn ei wybodaeth drwy Kaleidoscope

Mae Junior Samuels, 39 o Gasnewydd erbyn hyn yn byw mewn uned ar gyfer pobl digartref yn y ddinas.

Yn y gorffennol roedd yn ddigartref ac yn gaeth i gyffuriau.

Dywedodd mai bach iawn o amser yr oedd ef ei hun wedi cael i ystyried risg Covid-19 tra'n ymdopi gyda'r her o fod yn ddigartref, problemau iechyd meddwl a bod yn gaeth i gyffuriau.

"Wrth sgwrs rwy'n pryderu ond does yna ddim allai wneud am y peth nag oes," meddai.

Dywedodd y byddai unrhyw wybodaeth y byddai'n ei dderbyn am gael brechiad yn dod drwy Kaleidoscope.

"Nhw 'di'r rhai dwi'n troi atynt, nhw ydi'r rhai dwi'n ymddiried ynddynt".

Dywedodd Martin Blakebrough nad y bwriad yw gweld pobl sy'n defnyddio gwasanaethau'r elusen yn mynd i flaen y ciw o ran blaenoriaeth cael brechiad.

Yn hytrach, mae o'r farn na fydd y system o anfon gwahoddiad ar gyfer brechiad i ganolfannau arferol yn gweithio gystal ar gyfer pobl fregus.

Ychwanegodd nad oedd gan y digartref yr adnoddau o bosib i dderbyn negeseuon, nag i deithio i ganolfannau brechu.

Mae hefyd yn credu bod eu hamgylchiadau yn eu rhoi mewn mwy o beryg.

"Yn aml maent yn byw mewn hostelau, yn rhannu llety neu ar y stryd felly mae yna risg uchel y gallant ddal yr haint, ac mae'n rhywbeth a allai ledu drwy eu cymuned yn gyflym iawn".

Mae nifer o staff Kaleidoscope yn cael eu hystyried yn staff rheng flaen ac felly maent wedi cael eu brechu.

Dywedodd Mr Blakebrough fod yr elusen eisoes yn gweithio gyda meddygon teulu wrth iddynt roi'r brechiad mewn meddygfeydd.

Mae o yn credu y dylai hyn hefyd ddigwydd mewn canolfannau Kaleidoscope.

"Di o ddim yn gwneud synnwyr i mi.

"Mae gennym nyrsys ac maen nhw'n rhoi brechiadau ar gyfer hepatitis B, felly rydyn yn gyfarwydd â rhoi pigiadau."

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Elwyn Thomas fod pobl fregus yn ymddiried mewn gweithwyr elusen

Dywedodd Elwyn Thomas un o weithwyr maes Kaleidoscope fod y cleientiaid yn ymddiried yn yr elusen.

"Dyma grŵp o bobl dwi'n eu hadnabod, maen nhw'n ymddiried ynddo fi a'm cydweithwyr gyda'u manylion personol, eu gofal iechyd ac felly mae'r rhain yn bethau rydym eisoes yn ei wneud".

Dywedodd Dr Lindsay Cordery Bruce prif weithredwr Wallich, elusen ar gyfer y digartref, eu bod yn cefnogi cais Kaleidoscope i gael yr hawl i frechu.

Mae hi hefyd am weld mwy o'i staff yn cael eu brechu - mae 12 % wedi eu brechu hyd yma.

Dywedodd fod hyn yn "rhy isel am y math o risg maen nhw'n eu hwynebu".

'Sicrhau diogelwch'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r byrddau iechyd yn gweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau fod brechiadau yn cael eu cynnig i bob oedolyn sy'n gymwys, gan gynnwys y digartref.

"Rydym wedi croesawu nifer o wirfoddolwyr sydd â chefndir clinigol ac yn awyddus i gefnogi'r cynllun brechu Covid-19 yng Nghymru.

"Mae'n bwysig fod y cynllun brechu yn cael ei wneud yn unol â'r rheolau'r trefniadau cenedlaethol ac mewn lleoliad gofal iechyd ffurfiol er mwyn sicrhau nad yw diogelwch, safon ac effeithiolrwydd y brechiad yn cael effeithio."

Pynciau cysylltiedig