Ffrae o fewn Llafur am brydau am ddim i blant ysgol

  • Cyhoeddwyd
prydau ysgolFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Llywodraeth Cymru wedi cael eu beirniadu gan ei haelodau meinciau cefn eu hunain oherwydd y sefyllfa am brydau bwyd am ddim i blant ysgol.

Roedd y prif weinidog Mark Drakeford yn flaenorol wedi herio gwrthwynebwyr am y gost o ymestyn prydau am ddim i bob plentyn sydd â'u teuluoedd yn derbyn Credyd Cynhwysol.

Ond dywedodd un aelod Llafur o'r Senedd bod Llywodraeth Cymru "ar ochr anghywir y ddadl yma".

Dywedodd un arall y dylai'r llywodraeth ganfod beth yn union fydd y gost.

Daeth hyn yn ystod dadl yn y Senedd am gyllideb ddrafft y flwyddyn nesaf.

'Ddim yn gynaliadwy na chredadwy'

Daeth gwelliant gan Blaid Cymru yn dweud y dylai prydau am ddim fod ar gael i bob plentyn sydd â'u teuluoedd yn derbyn Credyd Cynhwysol neu fudd-dal cyfatebol.

Byddai modd talu am hynny o'r arian sydd wedi ei glustnodi i daclo coronafeirws, medd y gwelliant.

Er i'r gwelliant gael ei drechu mewn pleidlais, dywedodd Alun Davies, AS Llafur Blaenau Gwent, ei fod "yn fras yn gywir".

Dywedodd: "Mae'r llywodraeth ar ochr anghywir y ddadl yma ac rwy'n gobeithio bydd y llywodraeth yn cydnabod hynny, ac yn gobeithio y bydd y llywodraeth yn cydnabod bod ei safbwynt ddim yn gynaliadwy na chredadwy ar y mater arbennig yma."

Dylai gweinidogion "ymrwymo i edrych ar hynny a chanfod beth yn union fydd y gost ac o ble y daw'r arian," meddai Mike Hedges, AS Llafur arall.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymestyn prydau am ddim i blant ysgol yn ystod y gwyliau tan Pasg 2022.

'Dewisiadau difrifol'

Dywedodd y Gweinidog Cyllid Rebecca Evans: "Rwy'n gobeithio bydd y cydweithwyr sydd wedi siarad ar y mater yma heddiw yn cefnogi ein cyllideb pan ddaw'r gyllideb derfynol.

"Byddwn yn dweud ei bod yn bwysig ein bod yn parhau i edrych ar bob dewis sydd ar gael i ni, a cheisio adeiladu ar y camau yr ydym eisoes wedi eu cymryd.

"Ond rwy'n cydnabod hefyd fod rhaid i hynny fod o fewn cyd-destun y cyfyngiadau ariannol sydd gennym."

Byddai defnyddio arian sydd wedi'r glustnodi i frwydro'r pandemig yn golygu y gallai hynny adael llai ar gyfer y GIG neu gynghorau lleol, meddai.

"Mae'r rhain yn benderfyniadau difrifol a dewisiadau difrifol sydd rhaid i ni eu gwneud pan ydym yn galw am gyllid ychwanegol i rannau o'r gyllideb," ychwanegodd.