Hen ddeddf yn 'peryglu' lles anifeiliaid a'r cyhoedd
- Cyhoeddwyd
Mae rhai awdurdodau lleol yng Nghymru'n "peryglu" diogelwch y cyhoedd a lles anifeiliaid oherwydd hen ddeddfwriaeth, yn ôl perchnogion busnes yn y gogledd.
Dydy rhai cynghorau ddim yn trin gofal dydd i gŵn fel gwasanaeth ar wahân, tra bod eraill yn caniatáu i'r gweithgaredd ddigwydd heb drwydded o gwbl.
Mae'r RSPCA yn disgrifio'r sefyllfa fel "achos pryder amlwg" ac yn annog Llywodraeth Cymru i ddiweddaru'r gyfraith.
Mae Llywodraeth Cymru'n cydnabod bod angen adolygu'r ddeddf ar drwyddedu.
Mae'r rheolau yng Nghymru ar gyfer busnesau sy'n cynnig gofal i anifeiliaid wedi eu cynnwys yn Neddf Sefydliadau Llety Anifeiliaid 1963.
Doedd gwasanaethau fel gofal dydd i gŵn ddim yn gyffredin yn y 1960au, felly dydy'r ddeddf ddim yn cyfeirio at y gweithgaredd.
Dehongliadau gwahanol
Mae Steve Belgrau yn rhedeg cwmni The Pet Joint ym Mylchau ger Dinbych, ac yn dweud ei fod wedi cysylltu â phob awdurdod lleol yng Nghymru i ofyn sut mae nhw'n rheoleiddio gofal dydd.
Mae'n dweud bod y modd mae'r cynghorau'n dehongli Deddf 1963 yn amrywio. Mae rhai'n ei ddynodi fel gwasanaeth sydd angen trwydded ar wahân, eraill yn ei gynnwys o dan weithgaredd llety mewn cartref, tra bod rhai yn ei drin fel gweithgaredd nad oes angen trwydded o gwbl ar ei gyfer.
"Mae 'na sawl awdurdod lleol yng Nghymru sydd ddim yn trin gofal dydd fel gweithgaredd sydd angen trwydded ac mae hynny'n gwbl anghywir," meddai.
"Os ydych chi'n cynnig gofal i anifail anwes rhywun arall ac mai dyna'ch prif fusnes, mae rhaid cael trwydded gan yr awdurdod lleol."
"Rydan ni'n credu bod y cynghorau sydd ddim yn trin gofal dydd fel maes sydd angen trwydded yn peryglu diogelwch y cyhoedd, yn peryglu lles anifeiliaid ac mae nhw'n ymddwyn mewn modd anghyfrifol iawn."
"Y cyfan sydd ei angen ydy i un ci ddianc ac yna mi fydd pawb yn ceisio beio'i gilydd."
"Does gennym ni ddim cydymdeimlad efo'r awdurdodau lleol sy'n dewis peidio gweithredu. Eu dewis nhw ydy peidio ymateb."
Fe ddaeth Mr Belgrau o hyd i amryfuseddau eraill:
costau trwydded llety cartref yn amrywio rhwng £63 a £643;
rhai'n caniatáu cŵn a phlant ifanc o dan yr un to; a
diffyg uchder penodol ar gyfer ffensiau.
"Mae 'na angen mawr i'r ddeddfwriaeth gael ei diweddaru, dydy hi ddim yn addas i bwrpas bellach," mae'n dadlau.
"Den ni'n sôn am 1963 - mae hi bellach yn 2021. Mae angen ei ailwampio."
Sefyllfa 'ddifrifol'
Yn ystod y cyfnod clo, mae 'na gynnydd wedi bod yn nifer y bobl sy'n berchen cŵn, yn ôl Rhiannon Binyan, sy'n rhedeg cwmni Doggy Day Care ar Ynys Môn.
Mae hi'n credu bod angen diwygio ar frys.
"Mae'n reit serious achos fydd 'na Covid puppies yn bob man," meddai.
"Os mae nhw'n aros adre fydd 'na noise complaints wedyn bod y cŵn yn gwneud sŵn."
"So mae'n reit pwysig i gael hwn yn sorted rŵan a rhoi'r amser i bobl gael y licences yn sorted yng Nghymru."
Safonau chwe degawd yn ôl
Mi gafodd y gyfraith ei diweddaru yn Lloegr yn 2018 i gynnwys gofal dydd i gŵn, ac mae rhai sefydliadau nawr yn annog Llywodraeth Cymru i wneud yr un peth gyda deddf mae nhw'n eu llunio yma.
Yn ôl Dr Samantha Gaines, o'r RSPCA: "Yng Nghymru, dylai unrhyw un sydd yn cynnig gofal i anifeiliaid gael eu trwyddedu gan yr awdurdod lleol o dan Ddeddf Sefydliadau Llety Anifeiliaid 1963 - felly mae unrhyw awgrym nad ydy hyn yn cael ei reoleiddio'n gyson yn achos pryder amlwg.
"Ond mae hefyd yn bryderus bod Cymru'n dal i weithredu ar sail safonau llety anifeiliaid sy'n bodoli ers chwe degawd a ddim wedi eu seilio ar safonau lles anifeiliaid."
"Dydy'r hen ddeddfwriaeth yma ddim yn adlewyrchu'r ffordd mae llawer o anifeiliaid yn cael gofal bellach, na sut mae'r diwydiant yn gweithio na disgwyliadau cymdeithas."
"Tra'n bod ni'n croesawu fel cam cyntaf y ffaith bod Llywodraeth Cymru'n cyflwyno cyfraith newydd ar werthu cŵn a chathod bach, mae'r RSPCA yn annog Gweinidogion yng Nghymru i fynd yn bellach."
'Angen adolygu'r drefn'
Dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru: "Bydd swyddogion iechyd awdurdodau lleol yn defnyddio grymoedd addas i gynnal deddfwriaeth yn ymwneud â phobl sydd ddim yn cymryd o ddifrif eu cyfrifoldeb tuag at les a iechyd anifeiliaid.
"Mae Deddf Lles Anifeiliaid 2006 yn gosod dyletswydd ar unrhyw un sydd yng ngofal anifail i sicrhau eu bod yn cwrdd ag anghenion y creadur.
"Dylai unrhyw un sy'n ansicr beth yw eu dyletswyddau gysylltu ar unwaith i gael cyngor gan eu hawdurdod lleol."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn cydnabod bod angen adolygu'r drefn o drwyddedu busnesau llety anifeiliaid, sydd ar hyn o bryd yn fater i awdurdodau lleol o dan Ddeddf Llety Anifeiliaid 1963."
"Er hynny, rydym yn awyddus i unrhyw ddeddfwriaeth gael ei chyflwyno'n rhesymol a'n blaenoriaeth ddiweddar fu cyflwyno grymoedd newydd yn ymwneud â gwerthu cŵn a chathod bach. Noder bod y rheolau newydd yn cynnig modd o gyflwyno newidiadau eraill i drwyddedu ar les anifeiliaid yng Nghymru."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd25 Hydref 2020