'Oedran yw rhagfarn mwyaf gwleidyddiaeth Cymru'
- Cyhoeddwyd
Mae'r aelod ieuengaf erioed i gael ei ethol i Senedd Cymru yn dweud bod gwleidyddiaeth yn parhau'n glwb dethol i ddynion hŷn mewn rhannau o Gymru.
Cafodd Jack Sargeant ei ethol dair blynedd yn ôl yn 23 oed, ond mae'n dweud bod "gwrthwynebiad" gan rai carfanau i weld wynebau ifanc yn y byd gwleidyddol.
Yn ôl un arall cafodd ei hethol i'r Senedd yn ei hugeiniau, Bethan Sayed, tra bod pethau'n gwella ym Mae Caerdydd, dyw nifer o gynghorwyr lleol "ddim eisiau cofleidio unrhyw fath o newid".
Mae ymchwil gan BBC Cymru wedi darganfod mai oed cyfartalog cynghorwyr sir Cymru yw 60, tra bod aelodau'r Senedd yn 55 oed ar gyfartaledd.
Dim ond 12 o blith 22 awdurdod lleol Cymru sy'n dweud bod ganddyn nhw gynghorwyr etholedig dan 30 oed.
Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn cydnabod bod yna "her" a bod "menywod a phobl ifanc yn cael eu tan-gynrychioli yn arbennig".
Ond yn ôl Elyn Stephens, cynghorydd 29 oed sy'n cynrychioli Ystrad ar Gyngor Rhondda Cynon Taf, dyw ymddygiad heriol ac ymosodol gan gynghorwyr hŷn ddim yn anghyffredin.
"Dwi'n bendant yn meddwl bod ymdrechion wedi bod yna i intimidato fi. Dwi 'di cael amseroedd pan ma' cynghorydd arall yn eu hail a thrydydd tymor nhw wedi sgrechian yn fy wyneb i. A mae e bron fel se nhw yno i brofi chi - sut ma nhw'n mynd i ymateb i hyn a nhw mor ifanc?
"Y rhwystrau mwyaf sydd wedi wynebu fi yw'r ffaith fy mod i'n ifanc yn hytrach na bod yn fenyw. A dwi'n meddwl bod hynny'n dweud llawer o ran y system sydd mewn lle, y math o bobl sy' wedi bod 'na ers dechre amser. A nid rhywedd yw e efallai ond oedran yw'r rhagfarn mwya'."
Cafodd Elyn ei hethol i'r cyngor yn 25 oed, ac ers hynny mae hi wedi arwain ymgyrch i ddarparu deunyddiau mislif i bob disgybl ysgol yn ei sir - polisi a gafodd ei fabwysiadau trwy Gymru gyfan yn ddiweddarach.
"Heb bobl ifanc yn gwthio am hwnna fydde fe ddim yn bodoli, dwi'n sicr o hynny."
Nôl yn 2007, yn 25 oed, cafodd Bethan Sayed ei hethol i Senedd Cymru dros Blaid Cymru. Ar y pryd roedd hi'n teimlo bod yn rhaid iddi "brofi fy hun drwy'r amser i bobl, i gyfiawnhau pam o'n i'n haeddu fod yna".
Mae hi'n teimlo bod "y diwylliant yn y Senedd yn dechrau newid," ond mae'n poeni nad yw hynny'n wir mewn cynghorau mwy lleol.
"Mae'n le anodd i fod ar lefel cynghorau lleol pan ma lot fawr o'r bobl sydd yna ddim eisiau newid, ddim eisiau rhoi lan eu swyddi nhw ar gyfer cynghorwyr newydd, a sydd ddim eisiau cofleidio unrhyw fath o newid o gwbl."
Cyfleon i ddylanwadu
Eleni fydd 70,000 yn rhagor yn cael y bleidlais yng Nghymru, wrth i bobl 16 ac 17 oed gael yr hawl i bleidleisio am y tro cyntaf mewn etholiadau Cymreig.
Un o'r rhai fydd yn elwa o'r newid fydd Steffan Thomas o Gaerdydd. Yn 17 oed mae'n croesawu'r newid, ond mae'n teimlo bod eisoes cyfleon i ddylanwadu ar wleidyddiaeth Cymru ag yntau'n aelod o Gyngor Ieuenctid Cyngor Caerdydd.
"Ar hyn o bryd mae gan Gyngor Caerdydd prosiect o fynd yn garbon niwtral erbyn 2030, ac maen nhw eisiau i'r Cyngor Ieuenctid i edrych ar y polisi a meddwl a yw e'n ddigon da, a oes eisiau'i wella fe, ac a yw pobl ifanc yn meddwl fod y polisi yn mynd i weithio. Wedyn fyddwn ni'n adrodd yn ôl yn uniongyrchol i Gyngor Caerdydd ar y prosiect yna.
"Dwi'n credu bod unrhyw beth sy'n achosi amrediad fwy o oedrannau mewn gwleidyddiaeth yn werthfawr."
Ond mae'r AS Llafur Jack Sargeant yn credu bod rhwystrau i bobl ifanc gael eu hethol i sefydliadau gwleidyddol Cymru.
"Dyw hi ddim yn gyfrinach bod rhai aelodau etholedig yn gwrthwynebu gweld pobl ifanc yn dod mewn i'r byd gwleidyddol, a dwi'n meddwl bod hynny yn rwystr go iawn," meddai.
"Mae'n cymryd rhywun eitha' dewr i roi eu hunain allan yna mewn byd cyhoeddus fel 'na, ac os yw aelodau etholedig yn ymddwyn felly, sut allwn ni ddisgwyl aelodau'r cyhoedd i ymddwyn dim gwell?"
Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn cydnabod "nad yw siambrau cynghorau Cymru wastad yn adlewyrchu'r boblogaeth maen nhw'n eu gwasanaethu. Mae hyn yn her ar bob lefel o lywodraeth ac mae menywod a phobl ifanc yn cael eu tan-gynrychioli yn arbennig.
"Mae angen i aelodau llywodraeth leol adlewyrchu a chynrychioli eu cymunedau lleol.
"Wrth edrych ymlaen at etholiadau lleol 2022, mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi lansio ymgyrch 'Bod yn Gynghorydd' er mwyn annog mwy o bobl o grwpiau sy'n cael eu tan-gynrychioli i sefyll etholiad er mwyn gwella amrywiaeth mewn democratiaeth leol."
Maen nhw hefyd yn dweud bod disgwyl i "bob Aelod etholedig gydymffurfio â Chod Ymddygiad eu hawdurdod lleol, sydd i fod i sicrhau bod cynghorwyr yn cynnal y safonau ymddygiad uchaf wrth gyflawni eu dyletswyddau."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd27 Tachwedd 2019
- Cyhoeddwyd5 Rhagfyr 2018