Achos newydd traed a'r genau'n 'bryder parhaus' i brif filfeddyg

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Dylan Morgan: 'Fi'n trio anghofio 'byti'r adeg 'ny'

Mae'r posibilrwydd o weld achos newydd o glwy'r traed a'r genau yn "bryder parhaus" i brif filfeddyg Cymru, 20 mlynedd ers yr argyfwng mawr diwethaf.

Dywedodd yr Athro Christianne Glossop y byddai'n "amhosib anghofio" profiadau erchyll 2001.

Drwy Gymru cafodd dros filiwn o anifeiliaid eu difa, gyda'r effaith ar amaeth a thwristiaeth yn sylweddol.

Bellach mae 'na "gynlluniau cadarn" yn eu lle i geisio osgoi sefyllfa debyg, meddai.

'Hala ias lawr dy gefn di'

Wedi'i phenodi'n Brif Swyddog Milfeddygol Cymru yn 2005 wrth i rymoedd dros iechyd a lles anifeiliaid gael eu datganoli, roedd yr Athro Glossop yn gweithio fel milfeddyg preifat adeg yr epidemig.

Cafodd yr achos cynta' ei ddarganfod mewn lladd-dy yn Essex ar 19 Chwefror 2001 - "diwrnod dychrynllyd" sy'n aros yn y cof i bawb oedd ynghlwm ag amaeth ar y pryd, meddai.

O fewn wythnos, roedd y feirws wedi cyrraedd Ynys Môn - gyda Phowys a Sir Fynwy ymysg y siroedd gafodd eu taro waethaf maes o law.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr Athro Christianne Glossop ei phenodi'n Brif Swyddog Milfeddygol Cymru yn 2005

Fe gymerodd hi fisoedd lawer i ddod â'r sefyllfa dan reolaeth - wrth i olygfeydd trawiadol o gyrff anifeiliaid yn cael eu llosgi ar goelcerthi mawrion neu eu claddu fesul cannoedd lenwi'r bwletinau newyddion ar y teledu.

Mae'r clwy yn hynod heintus, ac yn achosi tymheredd uchel a phothelli poenus yng nghegau a dan garnau'r anifeiliaid - gall achosi i'r rhai ifainc farw hefyd.

Caewyd llwybrau cerdded, gwelodd y diwydiant ymwelwyr golledion mawr, cafodd digwyddiadau fel Eisteddfod yr Urdd a'r Sioe Frenhinol eu canslo a gohiriwyd yr etholiad cyffredinol.

I ffermwyr Cymru - mae'r ffaith bod 20 mlwyddiant yr argyfwng yn digwydd yng nghanol y cyfyngiadau presennol wedi dod â hen atgofion sy'n aml yn rhai trawmatig yn ôl i'r wyneb.

I Gareth Davies o Gwmgwilym ger Aberhonddu, "beth oedd yn drist ac yn emosiynol iawn oedd gwylio'r anifeiliaid yn cael eu difa ar y ffermydd ac yna'n cael eu llosgi - a'r mwg wedi hynny".

"Mae'n rhywbeth sy'n hala ias lawr dy gefn di mewn gwirionedd."

Ffynhonnell y llun, BWP Media
Disgrifiad o’r llun,

Roedd golygfeydd trawiadol o gyrff anifeiliaid yn cael eu llosgi ar goelcerthi yn llenwi'r bwletinau newyddion

Cafodd ei ddefaid a'i wartheg eu saethu ar ôl i olion yr haint gael eu darganfod ar fferm gyfagos.

"Un dydd mae gen ti fferm sy'n llawn o dda byw a'r dydd nesa' mae'n hollol wag - fel mynwent," meddai.

"Mae'n sioc gwirioneddol - achos ry'n ni'n byw gyda'r anifeiliaid yma, maen nhw'n rhan ohonon ni - mae gennym ni barch a theimlad o deyrngarwch a hoffter tuag atyn nhw."

'Ffermwr yn crio yn fy mreichiau'

Mae'r Athro Glossop yn cofio ymweld â fferm foch a gorfod rhannu'r newyddion bod y clwy wedi taro.

"Fe safon ni ar iard y fferm a fe 'naeth y ffermwr a'i ddau fab grio yn fy mreichiau i. Dyw hynny ddim yn rhywbeth y gallwch chi fyth ei anghofio."

Mae'r gwersi sydd wedi'u dysgu ers hynny yn golygu bod Cymru a'r DU mewn gwell sefyllfa i ymateb yn y dyfodol, meddai - gan gyfeirio at gyfres o achosion yn 2007 yn Surrey y llwyddwyd i'w hatal rhag lledu.

"Mae lot o bethau wedi newid ers 2001 - dwi wir yn credu bod y cynlluniau sydd gyda ni yn eu lle erbyn hyn yn llawer tynnach, yn fwy gwydn a ry'n ni'n gwybod beth i'w wneud."

Mae systemau ar gyfer cofrestru ac olrhain anifeiliaid wedi gwella, yn enwedig ar gyfer defaid a moch - fel bod yr awdurdodau'n gwybod lle 'maen nhw.

Mae rheol chwe diwrnod yn cyfyngu symudiad anifeiliaid ymlaen ac oddi ar ffermydd hefyd fel bod amser i nodi unrhyw arwyddion o haint a'i atal rhag lledu.

Byddai gwaharddiad cenedlaethol ar unrhyw symud yn cael ei gyflwyno'n syth petai yna achos newydd - yn wahanol i 2001 pan arweiniodd oedi o rhai dyddiau at feirniadaeth bod hynny wedi gwaethygu'r problemau.

Disgrifiad o’r llun,

Cadw at y rheolau ar anifeiliaid sy'n hollbwysig, meddai Stephen James

Mae'r Athro Glossop o'r farn bod datganoli grymoedd dros iechyd a lles anifeiliaid yn gam arall ymlaen - gan alluogi Cymru i deilwra ei chynlluniau i natur y diwydiant amaethyddol ar lawr gwlad.

"Mae gennym ni berthynas agos gyda'n ffermwyr a'n milfeddygon - gallwn ni alw pobl ynghyd a rhannu gwybodaeth yn gyflym ac yn eang," meddai.

"Dwi'n cysgu gyda fy ffôn wrth fy ngwely ac unrhyw awr o'r dydd a'r nos fe allai rhywun allan yna fod yn sylwi ar arwyddion o glefyd hysbysadwy."

Mae ymarferion rheolaidd yn cael eu cynnal bellach hefyd ar y cyd â gwledydd eraill y DU - "ymarferiad Blackthorn" oedd yr un diweddara' nôl yn 2018.

Yn ôl Stephen James, cadeirydd Grŵp Fframwaith Cymru ar Iechyd a Lles Anifeiliaid mae "mor bwysig i bawb gadw at y rheolau".

"Boed y'ch chi'n cadw cannoedd o anifeiliaid neu un mochyn tu ôl i'r tŷ - mae'n rhaid bod pobl yn gw'bod am yr anifeiliaid yna - bod chi ddim yn cadw fe dan y radar," meddai.

Mae rheolaeth lem o fewnforio yn allweddol hefyd, yn ôl Dylan Morgan, oedd yn gweithio i'r gwasanaeth milfeddygol gwladol yn ystod yr epidemig ac sy' bellach yn bennaeth polisi undeb NFU Cymru.

Y gred ydy mai un ffordd y gallai'r feirws fod wedi cyrraedd y DU yn 2001 oedd drwy gig oedd wedi cyrraedd yn anghyfreithlon, gan arwain at wahardd pobl rhag bwydo sbarion cegin neu wastraff o'r diwydiant arlwyo i'w hanifeiliaid.

"Y peth sy'n hollbwysig yw atal y feirws rhag dod i mewn i'r wlad yn y lle cynta' - a 'na lle ma' raid ni fod yn reit ofalus o ran meysydd awyr a phorthladdoedd i 'neud yn siŵr nad y'n ni'n gweld cig neu gynnyrch yn dod mewn o ardaloedd lle mae traed a'r genau yn endemig," meddai.

"Mae'n allweddol ein bod ni'n gwneud popeth gallwn ni a rheolau llym i sicrhau nad yw hynny'n digwydd."

'Iachâd yn y tir'

Dywedodd ei fod yn "trio anghofio" am 2001 a'r golygfeydd erchyll a welodd wrth fynd o fferm i fferm yn cynorthwyo'r gwaith difa - "fi jest yn gobeithio na welai e byth eto".

Daethpwyd o hyd i'r achos olaf yng Nghymru yng Nghrughywel, Powys ar 12 Awst 2001, gyda'r penderfyniad i ddatgan bod y wlad yn rhydd o'r clwy yn dod ym mis Rhagfyr y flwyddyn honno.

Yn ara' bach fe ddychwelodd normalrwydd i gefn gwlad, rhywbeth y mae'r Athro Glossop yn ei ddisgrifio fel proses welodd "iachâd yng nghalonnau pobl ac iachâd yn y tir".