O leiaf 16 mlynedd o garchar i ddyn laddodd ei gariad
- Cyhoeddwyd
Mi fydd dyn o Wrecsam a laddodd ei ddyweddi cyn lapio ei chorff mewn clingfilm yn treulio o leiaf 16 o flynyddoedd yn y carchar.
Fe wnaeth Madog Rowlands, 23, dagu Lauren Griffiths, 21, yn eu fflat yn ardal Cathays o Gaerdydd ym mis Ebrill 2019.
Roedd hi'n 24 awr yn ddiweddarach pan ffoniodd 999.
Clywodd Llys y Goron Casnewydd bod Rowlands wedi archebu cyffuriau a bwyd i gael eu danfon i'r fflat tra bod corff Ms Griffiths yn yr ystafell wely.
Roedd Rowlands wedi cael ei arestio am ymosodiad tebyg ar Ms Griffiths flwyddyn ynghynt.
'Merch hapus, fyrmylus'
Clywodd y llys bod y cwpl i fod i briodi fis ar ôl i Rowlands ei lladd, a'u bod yn bwriadu cael seremoni baganaidd yng Nghôr y Cewri.
Disgrifiodd y barnwr Rowlands fel unigolyn oedd wedi methu a dangos unrhyw edifeirwch am ei weithredoedd.
Roedd wedi defnyddio Google i chwilio sut i ddangos edifeirwch ond bod ei ymdrechion i yn y llys "yn wan".
"Fe wnaethoch chi droi yn sydyn i sôn am eich prif ddiddordeb, chi eich hun," meddai'r Barnwr Daniel Williams.
Fe gafodd Lauren Griffiths ei disgrifio fel merch hapus, fyrlymus a phoblogaidd tra bod Rowlands wedi ei ddisgrifio yn y llys fel person "hunanol", "hunandosturiol" a diedifar.
Darllenwyd llythyrau gan deulu Lauren Griffiths yn y llys gyda'i mam Alison Turner yn dweud eu bod nhw fel teulu yn "ei cholli hi bod diwrnod".
Dywedodd ei thad, Jason Griffiths, fod ei fywyd wedi "newid am byth" a'i fod wedi gorfod "clywed pethau na ddylai rieni fyth eu clywed am eu plentyn".
Aros diwrnod cyn ffonio 999
Ar ôl lladd ei ddyweddi, anfonodd Rowlands neges destun yn archebu canabis ac ecstasi.
Fe dynnodd arian o gyfrifon banc Ms Griffiths, cyn archebu'r cyffuriau, prynu bwyd o Subway a Dominos a cheisio agor cyfrif Netflix ar ei ffôn symudol.
Arhosodd Rowlands dros ddiwrnod cyn iddo ddefnyddio "sgript" i ffonio 999.
Fe ddywedodd celwydd wrth yr heddlu gan ddweud iddo ladd Lauren "trwy gamgymeriad". Honnodd ei fod wedi colli ymwybyddiaeth ar ôl ceisio amddiffyn ei hun.
Clywodd y llys ei fod wedi ymosod ar Ms Griffiths yn union yr un ffordd y flwyddyn flaenorol, gan gyfaddef wrth yr heddlu ei fod wedi ceisio ei thagu ar ôl iddi dorri ei liniadur.
Doedd Ms Griffiths ddim eisiau mynd i'r llys wedi'r ymosodiad a'i bod eisiau i Rowlands "gael help".
"Roedd tystiolaeth feddygol arbenigol yn dangos na fyddai Rowlands wedi gallu tagu ei gariad pe bai wedi colli ymwybyddiaeth, ac roedd yn ymwybodol o'r hyn yr oedd yn ei wneud," meddai Millie Davies, Uwch Erlynydd Gwasanaeth Erlyn y Goron yng Nghymru.
"Roedd ei weithredoedd yn fwriadol."
"Mae ein meddyliau gyda'i ffrindiau a'i theulu ac rydym yn gobeithio y bydden nhw'n cael rhyw gysur o weld yr unigolyn oedd yn gyfrifol yn wynebu'r canlyniadau am ei weithredoedd."
Cafodd ei ddedfrydu i garchar am oes ond mi fydd yn treulio 16 mlynedd a 245 diwrnod cyn y bydd yn cael gwneud cais am barôl.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd1 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd3 Mai 2019